Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru adolygu ansawdd yr aer ar y pryd ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol yn eu hardaloedd. Ynghyd â'r adolygiadau hyn, rhaid asesu a yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir gan reoliadau, yn cael eu cyflawni neu yn debygol o gael eu cyflawni o fewn cyfnod rhagnodedig.
Os nad yw pob un o'r safonau neu'r amcanion ansawdd aer hynny yn cael eu cyflawni, neu yn debyg o gael eu cyflawni o fewn y cyfnod rhagnodedig, o fewn unrhyw ran o ardal cyngor, rhaid i'r cyngor o dan sylw ddynodi'r rhan honno o'i ardal yn ardal rheoli ansawdd aer (gweler adran 83(1) o Ddeddf 1995). Yna rhaid paratoi cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r ardal ddynodedig ac yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu arfer ei bwerau er mwyn cyflawni'r safonau a'r amcanion ansawdd aer rhagnodedig (gweler adran 84(2) o Ddeddf 1995).
Mae Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) yn gosod yr amcanion ansawdd aer ar gyfer Cymru ac yn rhagnodi'r cyfnodau y mae'n rhaid i'r amcanion hynny cael eu cyflawni o fewn iddynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2000. Maent yn cyflwyno ail amcan ansawdd aer ar gyfer bensen, sef 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol, sef amcan y mae'n rhaid ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2010 (rheoliad 2(2)(a)). Maent hefyd yn newid yr amcan ansawdd aer ar gyfer carbon monocsid, y mae'n rhaid ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2003, i gymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf o 10 miligram y metr ciwbig neu lai (rheoliad 2(2)(b)).
Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i Ran II (Dehongli) o'r Atodlen i Reoliadau 2000. Mae'r diwygiadau hynny yn effeithio ar yr amcanion ansawdd aer ar gyfer bensen, carbon monocsid a phlwm: mae ystyr yr ymadrodd “cymedr 8 awr cyfredol dyddiol” yn cael ei esbonio ac mae newidiadau yn cael eu gwneud i ystyr yr ymadroddion “cymedr yn ôl yr awr” a “cymedr blynyddol” (rheoliad 2(3)).