Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aer amgylchynol” (“ambient air”) yw aer y tu allan yn y troposffer, heb gynnwys gweithleoedd;

  • ystyr “asesu” (“assessment”) yw unrhyw ddull a ddefnyddir i fesur, cyfrifo, darogan neu amcangyfrif lefel llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;

  • ystyr “crynhoad” (“agglomeration”) yw parth â chrynodiad poblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion neu, os yw crynodiad y boblogaeth yn 250,000 o drigolion neu lai, dwysedd poblogaeth am bob km2 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod yna gyfiawnhad dros yr angen i asesu neu reoli'r aer amgylchynol ar ei chyfer;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “digwyddiadau naturiol” (“natural events”) yw echdoriadau llosgfynyddoedd, gweithgarwch seismig, gweithgarwch geothermol, tanau tir gwyllt, gwyntoedd cryfion neu ailddal neu gludo gronynnau naturiol o barthau sych yn yr atmosffer;

  • mae i “gwerth terfyn” (“limit value”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(1);

  • ystyr “lefel” (“level”) yw crynodiad llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;

  • ystyr “llygrynnau perthnasol” (“relevant pollutants”) yw sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen, a charbon monocsid;

  • ystyr “mesuriadau sefydlog” (“fixed measurements”) yw mesuriadau a gymerir ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a nifer y mesuriadau yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod y lefelau a welir;

  • ystyr “ocsidau nitrogen” (“oxides of nitrogen”) yw swm yr ocsid nitrig a'r nitrogen deuocsid wedi'u hadio fel rhannau am bob biliwn ac wedi'i fynegi fel nitrogen deuocsid mewn microgramau i bob metr ciwbig;

  • ystyr “PM2.5” yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 2.5 mm;

  • ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 10 mm;

  • ystyr “parth” (“zone”) yw rhan o Gymru a ddangosir ar fap a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 3 Rhagfyr 2002, a adneuwyd yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Diogelu'r Amgylchedd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

  • mae i “trothwy asesu isaf” (“lower assessment threshold”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(5);

  • mae i “trothwy asesu uchaf” (“upper assessment threshold”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(5); ac

  • mae i “trothwy rhybuddio” (“alert threshold”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(2).

Cyfrifoldeb dros weithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Aer3

At ddibenion Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol4 y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru dros y canlynol—

a

gweithredu'r Gyfarwyddeb honno;

b

asesu ansawdd aer amgylchynol;

c

cymeradwyo dyfeisiadau mesur (dulliau, cyfarpar, rhwydweithiau a labordai);

ch

sicrhau cywirdeb mesur drwy ddyfeisiadau mesur a gwirio bod y dyfeisiadau hynny yn parhau'n gywir, yn benodol drwy reoli ansawdd yn fewnol a gyflawnir yn unol â safonau sicrwydd ansawdd cymwysadwy, gan gynnwys safonau Ewropeaidd;

d

dadansoddi dulliau asesu; a

dd

cydlynu rhaglenni sicrwydd ansawdd ledled y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r cydlynu hwnnw yn golygu cyfathrebu â'r Gymuned Ewropeaidd.

Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella4

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 5 i 8, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1—

a

os pennir dyddiad yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r gwerth terfyn ar gyfer y llygryn hwnnw, o'r dyddiad hwnnw ymlaen;

b

mewn unrhyw achos arall, o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

2

Rhaid i'r mesurau a gymerir—

a

cymryd i ystyriaeth ymagwedd integredig at ddiogelu aer, dŵr a phridd;

b

peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac

c

peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.

Asesu ansawdd aer amgylchynol5

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 6 i 8.

Dosbarthu parthau6

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw—

a

drwy fesuriadau;

b

drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu

c

drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.

2

Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth—

a

os yw'r parth yn grynhoad;

b

os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu

c

os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.

3

Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn hwnnw dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.

4

Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai—

a

mai crynhoad yw'r parth; a

b

mai sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.

5

Rhaid penderfynu ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.

6

Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.

7

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd ddynodi parth a ddosbarthir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â llygryn perthnasol fel a ganlyn:

a

os sylffwr deuocsid yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth o dan y paragraff hwn5 os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn yn y parth oherwydd crynodiadau sylffwr deuocsid yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;

b

os PM10 yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth—

i

o dan yr is-baragraff hwn6 os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd digwyddiadau naturiol yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol;

ii

o dan yr is-baragraff hwn7 os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd ail?ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol.

Adolygu dosbarthiadau7

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 6 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.

2

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 6 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.

3

Yn y rheoliad hwn, mae “dosbarthiad” yn cynnwys unrhyw ddynodiad o dan reoliad 6(7).

Dull asesu ansawdd aer amgylchynol8

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.

2

Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol—

a

rhaid i fesuriadau'r llygryn hwnnw gael eu cymryd ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap; a

b

rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.

3

Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.

4

Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.

5

Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ganfod crynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.

6

Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer—

a

dadansoddi sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocisdau nitrogen;

b

samplu a dadansoddi plwm;

c

samplu a mesur PM10;

ch

samplu a dadansoddi bensen; a

d

dadansoddi carbon monocsid

yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.

7

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.

8

Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 6(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.

9

Ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, bensen a charbon monocsid rhaid i'r cyfaint gael eu safoni ar dymheredd o 293°K a mesuriadau phwysedd o 101.3 kPa.

Cynlluniau gweithredu9

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.

2

Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid.

Y camau sydd i'w cymryd os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn10

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch—

a

na'r gwerth terfyn, mewn achos lle nad oes goddefiant yn cael ei ddangos yn Atodlen 1 mewn perthynas â gwerth terfyn;

b

na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1, mewn unrhyw achos arall.

2

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.

3

Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (10) a (11), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.

4

Lle y pennir dyddiad yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw erbyn y dyddiad hwnnw.

5

Lle nad oes dyddiad wedi'i bennu yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn o'r dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym8.

6

Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.

7

Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.

8

Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.

9

Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.

10

Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.

11

Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.

Parthau lle mae'r lefelau yn is na'r gwerth terfyn11

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.

2

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.

Gwybodaeth gyhoeddus12

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.

2

Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid a mater gronynnol gael ei diweddaru—

a

yn achos gwerthoedd fesul-awr ar gyfer sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid, bob awr os yw hynny'n ymarferol;

b

ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

3

Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.

4

Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol bensen, fel gwerth cyfartalog dros y 12 mis diwethaf, gael ei diweddaru—

a

yn fisol os yw hynny'n ymarferol;

b

ym mhob achos arall, bob tri mis o leiaf.

5

Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol carbon monocsid, fel gwerth cyfartalog cyfredol dros wyth awr, gael ei diweddaru—

a

bob awr os yw hynny'n ymarferol;

b

ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

6

Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys—

a

nodyn i ddweud i ba raddau yr aed yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a'r trothwyon rhybuddio ar gyfer llygrynnau penodol dros y cyfnodau cyfartaleddu a bennir yn Atodlen 1; a

b

asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.

7

Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.

8

Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 9 a 10 yn ôl eu trefn.

9

At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a mudiadau sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a mudiadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.

10

Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.

Diddymu Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansowdd (Aer) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 a darpariaethau trosiannol13

1

Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru)20019 drwy hyn yn cael eu diddymu.

2

Mae Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer 198910, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu diddymu yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

a

diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1) (gwerth terfyn ar gyfer plwm mewn aer) gydag effaith o 1 Ionawr 2005 ymlaen;

b

diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr atmosffer) gydag effaith o 1 Ionawr 2010 ymlaen.

3

Tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos cydymffurfedd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer cyfanswm y gronynnau mewn daliant11, rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.

4

Lle—

a

yr oedd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gam, neu yr oedd wedi'i awdurdodi i gymryd cam, drwy unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001;

b

yr oedd cam o'r fath wedi'i gymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Rheoliadau hyn ddirymu'r Rheoliadau hynny; ac

c

y mae'r ddarpariaeth dan sylw yn cael ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn,

mae'r cam i'w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe bai wedi'i gymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199812

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad.