Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Cyfrifoldeb dros weithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Aer

3.  At ddibenion Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol(1) y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru dros y canlynol—

(a)gweithredu'r Gyfarwyddeb honno;

(b)asesu ansawdd aer amgylchynol;

(c)cymeradwyo dyfeisiadau mesur (dulliau, cyfarpar, rhwydweithiau a labordai);

(ch)sicrhau cywirdeb mesur drwy ddyfeisiadau mesur a gwirio bod y dyfeisiadau hynny yn parhau'n gywir, yn benodol drwy reoli ansawdd yn fewnol a gyflawnir yn unol â safonau sicrwydd ansawdd cymwysadwy, gan gynnwys safonau Ewropeaidd;

(d)dadansoddi dulliau asesu; a

(dd)cydlynu rhaglenni sicrwydd ansawdd ledled y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r cydlynu hwnnw yn golygu cyfathrebu â'r Gymuned Ewropeaidd.

Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 5 i 8, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1—

(a)os pennir dyddiad yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r gwerth terfyn ar gyfer y llygryn hwnnw, o'r dyddiad hwnnw ymlaen;

(b)mewn unrhyw achos arall, o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

(2Rhaid i'r mesurau a gymerir—

(a)cymryd i ystyriaeth ymagwedd integredig at ddiogelu aer, dŵr a phridd;

(b)peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac

(c)peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.

Asesu ansawdd aer amgylchynol

5.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 6 i 8.

Dosbarthu parthau

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw—

(a)drwy fesuriadau;

(b)drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu

(c)drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.

(2Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth—

(a)os yw'r parth yn grynhoad;

(b)os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu

(c) os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.

(3Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn hwnnw dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.

(4Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai—

(a)mai crynhoad yw'r parth; a

(b)mai sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.

(5Rhaid penderfynu ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.

(6Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.

(7Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hefyd ddynodi parth a ddosbarthir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â llygryn perthnasol fel a ganlyn:

(a)os sylffwr deuocsid yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth o dan y paragraff hwn(2) os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn yn y parth oherwydd crynodiadau sylffwr deuocsid yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;

(b)os PM10 yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth—

(i)o dan yr is-baragraff hwn(3) os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd digwyddiadau naturiol yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol;

(ii)o dan yr is-baragraff hwn(4) os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd ail?ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol.

Adolygu dosbarthiadau

7.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 6 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 6 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “dosbarthiad” yn cynnwys unrhyw ddynodiad o dan reoliad 6(7).

Dull asesu ansawdd aer amgylchynol

8.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.

(2Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol—

(a)rhaid i fesuriadau'r llygryn hwnnw gael eu cymryd ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap; a

(b)rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.

(3Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.

(4Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.

(5Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 6(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ganfod crynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.

(6Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer—

(a)dadansoddi sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocisdau nitrogen;

(b)samplu a dadansoddi plwm;

(c)samplu a mesur PM10;

(ch)samplu a dadansoddi bensen; a

(d)dadansoddi carbon monocsid

yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.

(8Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 6(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.

(9Ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, ocsidau nitrogen, bensen a charbon monocsid rhaid i'r cyfaint gael eu safoni ar dymheredd o 293°K a mesuriadau phwysedd o 101.3 kPa.

Cynlluniau gweithredu

9.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.

(2Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid.

Y camau sydd i'w cymryd os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn

10.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch—

(a)na'r gwerth terfyn, mewn achos lle nad oes goddefiant yn cael ei ddangos yn Atodlen 1 mewn perthynas â gwerth terfyn;

(b)na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1, mewn unrhyw achos arall.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (8), (10) a (11), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.

(4Lle y pennir dyddiad yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw erbyn y dyddiad hwnnw.

(5Lle nad oes dyddiad wedi'i bennu yn Atodlen 1 ar gyfer cyrraedd y gwerth terfyn, mae'r cynllun neu'r rhaglen i fod i gyrraedd y gwerth terfyn o'r dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym(5).

(6Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.

(7Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.

(8Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.

(9Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.

(10Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.

(11Ar gyfer parthau y mae rheoliad 6(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.

Parthau lle mae'r lefelau yn is na'r gwerth terfyn

11.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.

Gwybodaeth gyhoeddus

12.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.

(2Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid a mater gronynnol gael ei diweddaru—

(a)yn achos gwerthoedd fesul-awr ar gyfer sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid, bob awr os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

(3Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.

(4Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol bensen, fel gwerth cyfartalog dros y 12 mis diwethaf, gael ei diweddaru—

(a)yn fisol os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob tri mis o leiaf.

(5Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol carbon monocsid, fel gwerth cyfartalog cyfredol dros wyth awr, gael ei diweddaru—

(a)bob awr os yw hynny'n ymarferol;

(b)ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.

(6Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)nodyn i ddweud i ba raddau yr aed yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a'r trothwyon rhybuddio ar gyfer llygrynnau penodol dros y cyfnodau cyfartaleddu a bennir yn Atodlen 1; a

(b)asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.

(7Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.

(8Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 9 a 10 yn ôl eu trefn.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a mudiadau sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a mudiadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.

(10Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.

Diddymu Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansowdd (Aer) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 a darpariaethau trosiannol

13.—(1Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru)2001(6) drwy hyn yn cael eu diddymu.

(2Mae Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer 1989(7), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu diddymu yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1) (gwerth terfyn ar gyfer plwm mewn aer) gydag effaith o 1 Ionawr 2005 ymlaen;

(b)diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr atmosffer) gydag effaith o 1 Ionawr 2010 ymlaen.

(3Tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos cydymffurfedd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer cyfanswm y gronynnau mewn daliant(8), rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.

(4Lle—

(a)yr oedd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gam, neu yr oedd wedi'i awdurdodi i gymryd cam, drwy unrhyw ddarpariaeth o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001;

(b)yr oedd cam o'r fath wedi'i gymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Rheoliadau hyn ddirymu'r Rheoliadau hynny; ac

(c)y mae'r ddarpariaeth dan sylw yn cael ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn,

mae'r cam i'w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe bai wedi'i gymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad.

17 Rhagfyr 2002