Search Legislation

Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm mewn aer amgylchynd, a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol.

Maent yn disodli Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2683) (Cy. 224), a oedd yn rhoi Cyfarwyddebau'r Cyngor 96/62/EC a 99/30/EC ar waith yn effeithiol o 19 Gorffennaf 2001 ymlaen.

Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) fel yr awdurdod cymwys ar gyfer gweithredu Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.

Mae rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd ym mhob parth yng Nghymru grynodiadau o sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid (“y llygrynnau perthnasol”) yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae'n darparu, ynghyd ag Atodlen 2, ar gyfer pennu'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol. Mae rheoliad 6 hefyd yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dynodi parthau nad yw'n ofynnol cael rhaglenni gweithredu ar eu cyfer mewn amgylchiadau penodol, er bod sylffwr deuocsid neu ronynnau yn y parthau hynny yn uwch na'r gwerthoedd terfyn.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 8(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid. Nodir trothwyon rhybuddio sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honNo.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd).

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif.

Mae rheoliad 13 yn diddymu Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001. Mae hefyd, ar gyfer Cymru, ac ar y dyddiadau a bennir, yn diddymu rhannau o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989; cafodd rhannau eraill o'r rheoliadau hynny eu diddymu gan Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001. Yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1995/3146, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sylffwr deuocsid a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.

Lle y cymerodd y Cynulliad Cenedlaethol gam o dan Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001, o dan ddarpariaeth o'r Rheoliadau hynny sydd wedi ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn, mae i'w drin fel cam sydd wedi ei gymryd o dan y Rheoliadau hyn. Er enghraifft, mae'r dosbarthu parthau o ran llygrynnau perthnasol a wnaed o dan reoliad 5 o Reoliadau 2001 i'w drin fel pe bai wedi'i wneud o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn. Mae'r ddyletswydd i adolygu'r dosbarthiad hwnnw bob 5 mlynedd felly yn gymwys drwy gyfeirio at ddyddiad y dosbarthu gwreiddiol.

Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt—

1.  Darpariaethau sy'n rhoi pŵer i'r awdurdodau lleol—

(a)ynghylch “local air quality management” o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25);

(b)ar gyfer rheoli allyriannau mwg o dan Ddeddf Aer Glân 1993 (p.11);

(c)ar gyfer cymryd materion ansawdd aer i ystyriaeth wrth wneud cynlluniau ar gyfer cynllunio defnyddio tir a thrafnidiaeth;

(ch)ar gyfer rheoli twf traffig ac ar gyfer rheoli traffig, o dan Ddeddf Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 (p.54), Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) a Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).

2.  Rheoli allyriannau diwydiannol—

(a)gan awdurdodau lleol drwy gyfrwng “local air pollution control” a chan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan “integrated pollution control” o dan Ran I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43);

(b)gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol drwy ddefnyddio “integrated pollution prevention and control” o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24) a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973).

3.  Rheoli allyriannau trafnidiaeth

  • Mae cyfres o reoliadau ar allyriannau cerbydau sy'n trawsosod Cyfarwyddebau'r EC yn gosod terfynau ar allyriannau cerbydau gan gynnwys: O.S. 1992/2137 (sy'n ymdrin â chyfarwyddebau 91/441/EEC a 91/542/EEC); O.S. 1993/2199 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 93/59/EEC); O.S. 1995/2210 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 94/12/EC); O.S. 1997/1544 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 96/69/EC) ac O.S. 2000 /3197 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 98/69/EC). Pennwyd safonau amgylcheddol ar gyfer tanwydd ym 1994 (O.S. 1994/2295) a 1999 (O.S. 1999/3107).

  • Nodir disgrifiad llawn o'r holl fesurau y ceisir cyrraedd y gwerthoedd terfyn drwyddynt yn “Air Quality Strategy for England, Scotland, Wales and Northern Ireland” a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau, Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, Ionawr 2000 (Cm. 4548).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources