2002 Rhif 3185 (Cy.301) (C.107)
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 20021, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, Cymhwyso a Dehongli
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002.
2
Mae'r Gorchymyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig ac eithrio mewn perthynas â
Rhan 7,
adrannau 191 i 196 ac Atodlen 18,
paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 o Atodlen 17 ac adran 189 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny,
Rhan 2 o Atodlen 22 ac adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honNo.
3
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Dyddiau penodedig
4
19 Rhagfyr 2002 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5
31 Mawrth 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
6
1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion7
Er gwaethaf y ffaith bod adran 49 yn dod i rym, a heb ragfarn i adran 16(1)(c) o Ddeddf Dehongli 19782, mae adrannau 86(3)(b) a 91 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19983 (trefniadau arbennig i gadw cymeriad crefyddol ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir) i barhau i gael effaith mewn perthynas â threfniadau derbyn ysgol a gynhelir ar gyfer unrhyw flwyddyn ysgol cyn 2004 i 2005.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
YR ATODLEN
RHAN IDARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 19 RHAGFYR 2002
DARPARIAETH | Y PWNC |
---|---|
Adran 49 | Diddymu pŵer i wneud trefniadau arbennig penodol er mwyn cadw cymeriad crefyddol |
Adrannau 54, 55, 56 | Ysgolion sy'n peri pryder |
Adran 75 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 10 isod | Sefydlu ysgolion etc: newidiadau i'r gweithdrefnau presennol |
Adrannau 97, 98, 99(1), 100 ac eithrio is-adrannau (1)(b), (2)(b) a (5), 101 ac eithrio is-adran (3)(b), 103, 105 i 107, 108 ac eithrio is-adrannau (1)(a), (2) a (6), 109, 111 i 118 | Y Cwricwlwm yng Nghymru |
Adran 131 | Gwerthuso athrawon ysgol |
Adrannau 132, 133, 134 (1), (4) a (5), 135 | Cymwysterau athrawon ysgol |
Adran 141 | Athrawon — iechyd a ffitrwydd |
Adran 145 | Cymwysterau athrawon — cyffredinol |
Adran 148 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 12 isod | Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru |
Adran 151(2) | Swyddogaethau gofal plant Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Adran 152 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 13 isod | Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd |
Adran 179(1), (4), (5) a (6) | Hawl mynediad mewn perthynas ag arolygiadau |
Adran 180 | Arolygiadau AALlau: hawliau mynediad, etc |
Adran 188 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod | Arolygiadau ysgolion |
Adran 189 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 17 isod | Diwygiadau i Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997 |
Adrannau 191 i 194 | Darpariaeth ranbarthol o addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig |
Adran 196 | Cyhoeddi a darparu deunyddiau |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 5 | Ysgolion sy'n peri pryder |
Atodlen 10, Paragraffau 1, 6, 11 a 15 | Sefydlu ysgolion etc: newidiadau i'r gweithdrefnau presennol |
Atodlen 12, Paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7 | Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru |
Atodlen 13, Paragraffau1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3), 8 | Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd |
Atodlen 16, Paragraffau 4 i 9 | Arolygiadau ysgolion |
Atodlen 17, Paragraffau 5 (1) — (4), (6), 6 i 8 | Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru |
Atodlen 21, | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 8, | |
Paragraff 11, | |
Paragraff 13, | |
Paragraff 16, | |
Paragraff 19, | |
Paragraffau 20 a 21, | |
Paragraffau 31, 32 a 33, | |
Paragraff 45, | |
Paragraff 46 (ac eithrio is-baragraff (6)), | |
Paragraff 47 (ac eithrio is-baragraff (3)) | |
Paragraff 48, | |
Paragraff 51, | |
Paragraff 53, | |
Paragraff 57 (ac eithrio is-baragraff (a)), | |
Paragraff 59 (ac eithrio is-baragraff (a)), | |
Paragraff 66, | |
Paragraff 70, | |
Paragraff 74, | |
Paragraff 76 (ac eithrio is-baragraff (b)), | |
Paragraff 78, | |
Paragraff 81, | |
Paragraff 85 (ac eithrio is-baragraff (b)), | |
Paragraffau 87 ac 88, | |
Paragraffau 95 a 96, | |
Paragraff 98(1) a (2) (ac eithrio is-baragraffau (b) a (c)), | |
Paragraff 99(1) a (3) (ac eithrio is-baragraff (a)), | |
Paragraffau 104 a 105, | |
Paragraffau 108 a 109, | |
Paragraff 113 (ac eithrio is-baragraffau (a) i (d), (f) a (g)), | |
Paragraff 114, | |
Paragraff 117, | |
Paragraff 118 (1), (2), (3) (ac eithrio is-baragraff (b)), (4) (ac eithrio is-baragraff (a)(ii)) a (5), | |
Paragraff 126 (1), (2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diwygiadau i baragraffau 21 a 29 o Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 20005, a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diwygiad i baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. | |
Yn Atodlen 22, Rhan 2, diddymu— | Diddymiadau |
Deddf Addysg 19976, yn adran 29, yn is-adran (2), paragraff (f), a'r gair “and” yn union o'i flaen, | |
yn adran 32(3), y geiriau “or approved” a'r geiriau “and subject to such conditions”; | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu— | |
Deddf Addysg (Rhif 2) 19867, adran 49; | |
Deddf Plant 19898), yn adran 79M(1), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a), yn adran 79U, is-adran (5) ac yn is-adran (9), y diffiniad o “authorised inspector”; | |
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 19929, yn adran 23(4), paragraff (b) a'r gair “and” yn union o'i flaen, adrannau 39 i 42, adran 60; | |
Deddf Addysg 199610, adrannau 350 — 369, adran 408(4) (a), yn adran 409(1) y geiriau “with the approval of the Secretary of State and”; | |
Deddf Arolygiadau Ysgolion 199611, yn adran 6(3) y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a), yn adran 16(3) y gair “and” o flaen paragraff (d); | |
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 199812), adran 1(8), yn adran 3 y geiriau “within the meaning of section 218(2) of the Education Reform Act 1988”; | |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 199813, adran 16(4) a (13), yn adran 22(1), ym mharagraff (b) y geiriau “under section 28 or 31” ac ym mharagraff (c) y geiriau “under section 28”, adrannau 86(3)(b) a 91, yn Atodlen 6, ym mharagraff 10(6), y geiriau “or (5)”, yn Atodlen 28, paragraff 4(1); | |
Deddf Dysgu a Medrau 200014), adrannau 130 i 132 a 148(2), yn Atodlen 9, paragraffau 26, 30, 35, 59(6)(b). |
RHAN IIDARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 31 MAWRTH 2003
DARPARIAETH | Y PWNC |
---|---|
Adrannau 14 i 17 a 18(2) | Cymorth ariannol ar gyfer addysg a gofal plant |
Adrannau 142 i 144 | Athrawon — camymddwyn |
Adran 146 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 218(2B), (6), (6ZA), (6A), (6B), (7) a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 199815 | Diddymu adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1998 |
Adran 148 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 12 isod | Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru |
Adran 149 | Dyletswyddau AALl mewn perthynas â gofal plant |
Adran 150 | Partneriaethau a chynlluniau datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant |
Adran 195 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod | Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru |
Adran 200 | Dileu taliadau sy'n ymwneud â thripiau preswyl |
Adran 201(1) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag is-adran (1)(c) o adran 512 newydd o Ddeddf Addysg 1996, (2) a (3) | Swyddogaethau AALl ynghylch prydau bwyd ysgolion, llaeth, etc. |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 12, Paragraff 12(1) a (2) | Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru |
Atodlen 18, Paragraffau 1, 4, 5 a 7, Paragraff 8 i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran newydd (2) yn adran 28H o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, Paragraffau 13 i 15 | Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru |
Atodlen 21, | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Paragraff 9, | |
Paragraff 49, | |
Paragraff 54, | |
Paragraff 71 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 49(2) a (3) o Ddeddf Addysg 1997 | |
Paragraff 72, | |
Paragraff 73, | |
Paragraff 75, | |
Paragraff 76 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, | |
Paragraff 77, | |
Paragraff 83, | |
Paragraff 85 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, | |
Paragraff 86, | |
Paragraff 120, | |
Paragraff 121, | |
Paragraff 122 ac eithrio is-baragraff (b), | |
Paragraff 123, | |
Paragraff 128. | |
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu— | Diddymiadau |
Deddf Diwygio Addysg 198816, adrannau 218(2B), (6), (6ZA), (6A), (6B), (7) a 218A; | |
Deddf Plant 198917, yn adran 19, is-adrannau (1) a (2) ac yn is-adran (4) y geiriau “the two authorities, or in Scotland,”; | |
Deddf Addysg 199718, adran 49(2) a (3); | |
Deddf yr Heddlu 199719, yn adran 113, yn is-adran (3A), paragraff (a) (ii) a (iii) ac yn is-adran (3B), paragraff (c) a'r geiriau o “and the reference” hyd at y diwedd, adran 115(6A) (a) (ii) (a) (iii); | |
Deddf Addysgu ac Uwch 1998, yn Atodlen 2, paragraff 1(5); | |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 115, yn adran 119(5), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a), yn adran 120(2)(a), y geiriau “of proposals” ac “and”, yn adran 121, yn is-adran (1), y geiriau “the authority’s statement of proposals” ac yn is-adran (9) y geiriau “early years development”; | |
Deddf Amddiffyn Plant 199920, adran 5, yn adran 7, is-adran (1) (a)(ii) a (iii), y gair “and” yn union o flaen is-adran (2)(c) ac is-adran (4), yn adran 9(2), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (d), yn adran 12(2) y diffiniad o “the 1988 Act”; | |
Deddf Mewnfudo a Llochesu 199921, yn Atodlen 14, paragraff 117; | |
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 200022, adran 35(5), yn Atodlen 7, paragraff 83. |
RHAN IIIDARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 1 MEDI 2003
DARPARIAETH | Y PWNC |
---|---|
Adran 195 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod | Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 18, Paragraffau 2, 3, 6, 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym), 9 i 12 a 16 i 18 | Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru |
Yn Atodlen 22, Rhan 2, diddymu— | Diddymiadau |
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 199523, adran 28J(4); | |
Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 200124, adran 42(2), yn Atodlen 8, paragraff 2. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)