Enwi, cychwyn a hyd a lled1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio'r Drefn Brydlesol (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau2
Yn yr Atodlen i Reoliadau Diwygio'r Drefn Brydlesol (Hysbysiadau) 19972—
a
yn lle Ffurflen 1, rhoddir y Ffurflen 1 sydd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn; a
b
yn lle Ffurflen 2, rhoddir y Ffurlfen 2 sydd yn yr Atodlen honNo.
Cymhwyso3
Dim ond ar gyfer achosion pan fo hysbysiad o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio'r Drefn Brydlesol 19673 (hysbysiad o awydd y tenant i gael neu honiad bod ganddo hawl i gaffael y rhydd-ddeiliad neu brydles estynedig) wedi'i roi ar neu ar ôl y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym y bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.