xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3187 (Cy.303)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Diwygio'r Drefn Brydlesol (Hysbysiadau) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

18 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

1 Ionawr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 66 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn hynny o beth, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1954 p.56. Diwygiwyd adran 66(1) a (2) gan O.S. 1974/1896. Cymhwysir adran 66 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 i hysbysiadau o dan Ran I o Ddeddf Diwygio'r Drefn Brydlesol 1967 (p.88) gan adran 22(5) o'r Ddeddf honNo. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddi (O.S. 1999/672).