Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) honno a chan adrannau 106(4) a (5), 107(8), 111(1), (4), (5), (7) ac (11), 122(1) a (4), 123(7), a 126(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3), ac ar ôl ymgynghori â'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 126(5) o'r Ddeddf honno a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1990 p. 43. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn (ac eithrio adran 156) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan y darpariaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac Atodlen 1 iddo.