(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd a Chyngor Ewrop (“y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig ac ar ddiddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC. Maent yn dirymu Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992 (O.S. 1992/3280) ac yn gwneud diwygiadau i Ran VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”). Mae naw rhan i'r Rheoliadau ac mae iddynt bum Atodlen.
Mae cynnwys y Gyfarwyddeb a'i rhagflaenydd yn ymwneud â rheoli gweithgareddau gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd a'u marchnata drwy osod gofyniad i sicrhau caniatâd ar gyfer y gweithgareddau hynny ac i gydymffurfio â'r amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Gyfarwyddeb yn cryfhau'r gyfundrefn reoli bresennol, yn enwedig mewn perthynas â monitro ar ôl marchnata.
Cafodd Cyfarwyddeb 1990/220/EEC ei gweithredu'n rhannol gan ddarpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf (darpariaethau a oedd yn bodoli eisoes) ac yn rhannol gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso yng Nghymru y diwygiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 ac y mae eu hangen i weithredu'r Gyfarwyddeb. Maent yn dirymu Rheoliadau 1992 hefyd.
Adran 111(1) o'r Ddeddf yw sail statudol y gofyniad i sicrhau caniatâd ar gyfer gollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig. Mae'r achosion a'r amgylchiadau pan fydd yn ofynnol cael caniatâd yn cael eu rhangnodi yn y Rheoliadau hyn. Mae gofyniad cyffredinol i sicrhau caniatâd ar gyfer gollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig yn cael ei osod gan reoliad 9 (ar gyfer gollwng) a rheoliad 15 (ar gyfer marchnata). Mae'r gofyniad hwn yn ddarostyngedig i'r esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 10 (ar gyfer gollwng) a rheoliad 16 (ar gyfer marchnata).
Mae'r diffiniadau sy'n cael eu defnyddio yn y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gyfundrefn reoli wedi'u cynnwys yn adrannau 106, 107 a 127(1) o'r Ddeddf. Mae Rheoliadau 4 a 5 yn diwygio nifer o'r diffiniadau hyn i adlewyrchu'r Gyfarwyddeb. Mae Rheoliad 4 hefyd yn diwygio'r pŵ er yn adran 106 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi technegau sy'n peri bod organeddau yn dod yn organeddau “sydd wedi'u haddasu'n enetig”. Er hynny, pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, dehonglir cyfeiriadau yn y Ddeddf at “organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig” drwy gyfeirio at y technegau addasu a ddisgrifir yn rheoliad 6.
Mae Rhannau II a III o'r Rheoliadau yn gosod gofynion ar gyfer ceisiadau am ganiatâd i ollwng a marchnata, yn eu tro, organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig (gan gynnwys darpariaethau trosiannol).
Mae Rhan IV yn pennu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau o'r amser y maent yn dod i law i amser eu penderfynu (ac, yn achos caniatadau i ollwng, eu hamrywio neu eu dirymu wedi hynny). Yn achos caniatadau i ollwng mae hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ac ar gyfer caniatadau i farchnata (ac adnewyddu'r caniatadau hynny) mae'n cynnwys cytuno arnynt ar lefel y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Rhan V yn cynnwys gofynion cyffredinol ar gyfer caniatadau i farchnata ac yn diwygio adran 112 o'r Ddeddf (sy'n gosod amodau ar gyfer caniatadau). Mae'n darparu hefyd ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd pan ddaw gwybodaeth newydd ar gael sy'n effeithio ar yr asesiad risg ar gyfer marchnata organedd a addaswyd yn enetig.
Mae Rhan VI yn ychwanegu at adran 110 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n caniatáu i gamau gael eu cymryd i wahardd marchnata organedd a addaswyd yn enetig y mae caniatâd wedi'i roi ar ei gyfer er mwyn cysoni hynny â chymryd “camau i amddiffyn” (“safeguard action”) o dan y Gyfarwyddeb.
Mae Rhan VII yn rhagnodi categorïau ychwanegol o wybodaeth sydd i'w chyhoeddi, er gwaethaf y ffaith y gallant fod yn fasnachol gyfrinachol, at ddibenion adran 123(7) o'r Ddeddf.
Mae Rhan VIII yn cynnwys y gofyniad i wahanol gategorïau o wybodaeth gael eu cynnwys yn y gofrestr gyhoeddus sydd i'w chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf.
Mae Rhan IX yn cynnwys gofyniad bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd yr egwyddor ragofalus i ystyriaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn. Term sy'n deillio o Erthygl 174 o'r Cytuniad i Sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd yw'r ymadrodd “precautionary principle” (“egwyddor ragofalus”). Mae rhaglith y Gyfarwyddeb yn datgan bod rhaid cymryd yr egwyddor i ystyriaeth wrth weithredu'r Gyfarwyddeb.
Mae Atodlen 1 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng neu farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig.
Mae Atodlen 2 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig heblaw am uwchblanhigion a addaswyd yn enetig.
Mae Atodlen 3 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.
Mae Atodlen 4 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad asesu.
Mae Atodlen 5 yn pennu'r Rheoliadau sy'n cael eu dirymu gan y rheoliadau hyn.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gangen Iechyd Planhigion a Biotechnoleg, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.