xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhan IILL+CGOLLWNG ORGANEDDAU YN FWRIADOL AT UNRHYW DDIBEN AC EITHRIO EU GOSOD AR Y FARCHNAD

Y gofyniad am ganiatâd i ollwngLL+C

9.  Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â gollwng unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau lle bwriedir gollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Gweithgareddau esemptLL+C

10.  Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(7) o'r Ddeddf lle mae personau yn esempt rhag gofynion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'r gofynion hynny yn gymwys i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, yw'r holl achosion ac amgylchiadau lle mae gollwng yn unol â chaniatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1)(a) o'r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig neu lle mae cynnyrch a gymeradwywyd yn cael ei ollwng yn unol â'r amodau a'r cyfyngiadau y mae defnyddio'r cynnyrch yn ddarostyngedig iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Ceisiadau am ganiatâd i ollwng — darpariaethau cyffredinolLL+C

11.—(1Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gael ei wneud yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Caniateir hysbysu gollyngiadau arfaethedig o'r un organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig ar yr un safle neu ar safleoedd gwahanol at yr un diben ac o fewn cyfnod penodedig mewn un cais.

(3Pan fynegir bod cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn dibynnu ar Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd), os bydd unrhyw anghysondeb yn y gofynion ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan y Penderfyniad hwnnw a'r gofynion ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan y Rheoliadau hyn, darpariaethau'r Penderfyniad hwnnw fydd yn trechu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwngLL+C

12.—(1Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gynnwys—

(a)yr wybodaeth a ragnodir yn—

(i)Atodlen 1 pan fo'r cais am ganiatâd i ollwng unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu

(ii)Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,

i'r graddau y bo gwybodaeth o'r fath yn briodol i natur a graddfa'r gollyngiad neu'r cais,

(b)gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau, a gynhaliwyd gan y ceisydd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol ar gyfer gollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau, y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf neu i unrhyw awdurdod cymwys arall yn unol ag Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol,

(c)asesiad risg amgylcheddol, a baratowyd yn unol â rheoliad 7,

(ch)crynodeb ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol, o'r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais.

(3Caiff y cais gynnwys—

(a)data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi o gytundeb ysgrifenedig y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais, a

(b)mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.

(3Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (2)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Hysbysebu cais am ganiatâd i ollwngLL+C

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod fan bellaf ar ôl iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, beri i hysbysiad yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol gael ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau sydd i'w pennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd,

(b)disgrifiad cyffredinol o'r organeddau sydd i'w gollwng,

(c)lleoliad a diben y gollyngiad,

(ch)dyddiad neu ddyddiadau arfaethedig y gollyngiad,

(d)datganiad y caiff gwybodaeth am y cais ei gosod ar y gofrestr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn deuddeg diwrnod i'r cais ddod i law,

(dd)drwy ba fodd y gellir archwilio'r gofrestr,

(e)datganiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo mewn perthynas â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig o fewn cyfnod y bydd yn ei bennu yn unol â'r Rheoliadau hyn,

a rhaid iddo anfon copi o'r cyhoeddiad sy'n cynnwys yr hysbyseb yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Nid oes rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) uchod gynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (c) ac (ch) o'r paragraff hwnnw i'r graddau nad yw'r Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd) yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth honno gael ei chyflwyno gyda'r cais ac nad yw'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno gyda'r cais.

(3Rhaid i geisydd am ganiatâd ddarganfod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru lefel y manylion ar gyfer y man gollwng a gaiff eu gosod ar y gofrestr a chynnwys yr un lefel o fanylion yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi o dan baragraff (1) uchod.

(4Rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod wedi iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, hysbysu'r personau canlynol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud y cais a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw yr wybodaeth a ragnodwyd ym mharagraff (1)(a) i (e), ac eithrio i'r graddau y mae paragraff (2) yn caniatáu i'r fath wybodaeth gael ei heithrio o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

(a)yr awdurdod lleol ac unrhyw gynghorau cymuned ar gyfer ardal neu ardaloedd pob gollyngiad arfaethedig,

(b)perchenog neu berchnogion y safle neu safleoedd pob gollyngiad arfaethedig, os yw'n berson heblaw am y ceisydd,

(c)pob aelod o'r pwyllgor diogelwch addasu genetig a sefydlwyd gan y ceisydd o dan reoliad 16 o Reoliadau Addasu Genetig (Defnydd Amgaeëdig) 2000(1),

(ch)Cymdeithas Awdurdodau Parc Cenedlaethol,

(d)Cyngor Cefn Gwlad Cymru(2),

(dd)Asiantaeth yr Amgylchedd;

a rhaid iddo anfon copïau o'r hysbysiadau yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Darpariaethau trosiannol ar gyfer gollwngLL+C

14.  Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn 31 Rhagfyr 2002 yn unol â Rheoliadau 1992 ac nad yw wedi penderfynu'r cais eto—

(a)bydd y cais yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn;

(b)rhaid i'r ceisydd gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd wedi'i darparu eisoes mewn cysylltiad â'r cais, unrhyw wybodaeth bellach sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn erbyn 17 Ionawr 2003;

(c)rhaid trin y cais fel un sydd wedi'i anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion rheoliadau 13(1) a (4) ac sydd wedi dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion rheoliad 21 pan fydd yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (b) wedi'i chyflwyno; ac

(ch)os nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (b) wedi'i chyflwyno erbyn 17 Ionawr 2003, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod bwrw ymlaen â'r cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

(2)

Gweler adran 128 Deddf yr Amgylchedd 1990 (p.43).