Rhan IVDYLETSWYDDAU AR ÔL GWNEUD CEISIADAU
Dyletswydd y ceisydd ar ôl gwneud cais am ganiatâd i ollwng neu i farchnataI120
1
Mae'r diwygiad i adran 111 o'r Ddeddf (caniatadau y mae eu hangen gan bersonau penodol) a wnaed gan reoliad 19(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, sy'n mewnosod y canlynol fel ail frawddeg yn is-adran (b)—
A notice under this subsection must state the reasons for requiring the further information specified in the notice.
yn effeithiol mewn perthynas â Chymru.
2
Rhaid i geisydd am ganiatâd i ollwng neu i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw wybodaeth yn unol ag adran 111(6A) o'r Ddeddf (y gofyniad i'r ceisydd roi hysbysiad o wybodaeth newydd am risgiau o niwed i'r amgylchedd) gyflwyno yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fersiwn ddiwygiedig o'r cais gwreiddiol am ganiatâd sydd wedi'i ddiwygio i gymryd yr wybodaeth newydd i ystyriaeth.
Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am ganiatâd i ollwngI221
Ar ôl cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
a
hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
b
gwahodd unrhyw berson drwy gyfrwng cais sy'n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau iddo mewn perthynas â'r gollyngiad cyn diwedd cyfnod sydd i'w bennu, sef cyfnod y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe deg diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i'w law;
c
sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 30 diwrnod;
ch
archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r rheoliadau hyn;
d
gwerthuso'r risgiau y bydd yr amgylchedd yn cael ei niweidio gan y gollyngiad arfaethedig gan barchu'r asesiad risg amgylcheddol;
dd
cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy'n ymwneud â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn unol â pharagraff (b) ac unrhyw sylwadau a wnaed gan awdurdod neu awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau eraill wedi i'r Comisiwn ddosbarthu iddynt y crynodeb y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i ollwngI322
1
Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o'r Ddeddf fel y mae'n ymwneud ag amddiffyn iechyd dynol heb gytundeb yr Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch19.
F12
rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod cydsyniad i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliadau 21(b) ac (dd) uchod ac, os daw unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21(dd) i law cyn pen y cyfnod hwnnw, cyn iddo ystyried y sylwadau hynny.
3
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfathrebu ei benderfyniad ar gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig i'r ceisydd a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i'r Comisiwn cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law a chydag unrhyw gais a fydd yn cael ei wrthod rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.
4
Ni fydd y cyfnod a ragnodwyd ym mharagraff (3) yn cynnwys—
a
unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu'n ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf bod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais ac sy'n gorffen ar y diwrnod pan fydd yr wybodaeth honno yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
b
cyfnod amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 21(b), ar yr amod na fydd yr ystyriaeth hon yn ymestyn y cyfnod o 90 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan fwy na 30 diwrnod.
5
Rhaid i ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig ei gwneud hi'n ofynnol i'r ceisydd anfon unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i asesu'r risg o beri niwed i'r amgylchedd, gyda chyfeiriad penodol, pan fo hynny'n briodol, at unrhyw gynnyrch y bwriedir ei farchnata yn y dyfodol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cwblhau'r gollyngiad ac wedi hynny, bob hyn a hyn yn ôl yr hyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn barnu ei fod yn briodol ar sail canlyniadau'r asesiad risg amgylcheddol.
6
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon i'r Comisiwn yr wybodaeth a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (5).
Amrywio neu ddiddymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetigI423
Dim ond pan fydd gwybodaeth newydd ar gael iddo a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd.
Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI524
1
Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
a
hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
b
sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon yn ddi-oed i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau;
c
archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;
ch
cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod, gan ddechrau â'r diwrnod y daeth y cais i'w law, naill ai—
i
anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi y dylai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu
ii
wrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi na ddylid marchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig;
d
sicrhau bod copi o'r cais yn cael ei anfon i'r Comisiwn pan gaiff ei fodloni ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a ragnodwyd yn rheoliad 15 a hynny heb fod yn hwyrach na phan y bydd yn anfon ei adroddiad asesu yn unol â pharagraff (ch).
2
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod—
i
ei adroddiad asesu,
ii
unrhyw wybodaeth bellach y mae wedi'i chael oddi wrth y ceisydd yn unol â chyflwyno hysbysiad o dan adran 111(6) o'r Ddeddf,
iii
unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi seilio'i adroddiad asesu arni,
yn cael eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(i), cyn pen diwedd cyfnod o naw deg diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(ii), heb fod yn gynt na phymtheg diwrnod o'r dyddiad pan anfonodd yr adroddiad asesu at y ceisydd a heb fod yn hwyrach na chant a phum diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i law.
3
Ni chaiff y cyfnodau o naw deg diwrnod a ragnodwyd ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.
Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI625
1
Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n dangos y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata a naill ai—
a
nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
b
bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 15(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 105 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
c
os oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.
2
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn o'i benderfyniad i roi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o roi ei ganiatâd.
3
At y diben o gyfrifo'r cyfnod o bedwar deg pum diwrnod terfynol y cant a phum diwrnod yn is-baragraff (1)(b) uchod, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod pan ddisgwylir gwybodaeth bellach gan y ceisydd.
4
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan roddwyd y caniatâd.
5
At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig neu epil o'r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig a'r epil hwnnw wedi'i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae'r amrywiad planhigyn wedi'i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig o dan ddarpariaethau perthnasol y F2UE bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gatalog cenedlaethol swyddogol o'r amrywiadau planhigion yn unol â Chyfarwyddebau 2002/53/EC20 a 2002/55/EC21 fel y'u diwygiwyd.
6
At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi'i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf y deunydd sylfaenol sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gofrestr genedlaethol swyddogol o ddeunydd sylfaenol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC22.
Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI726
1
Wrth gael cais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
a
hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;
b
archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;
c
naill ai—
i
anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 ac sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu
ii
gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu sy'n nodi na ddylid parhau i farchnata'r organedd a addaswyd yn enetig;
ch
sicrhau bod copi o'r cais a'i adroddiad asesu yn cael ei anfon i'r Comisiwn.
2
Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.
Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI827
1
Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig a naill ai—
a
nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
b
bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb eu penderfynu wedi'u datrys yn unol ag Erthygl 17(8) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 75 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn ei adroddiad asesu, neu
c
bod gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.
2
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod yr awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn yn cael eu hysbysu o'i benderfyniad i adnewyddu'r caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o'i adnewyddu.
3
Caiff caniatâd a adnewyddwyd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm o 10 mlynedd oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod modd cyfiawnhau cyfnod byrrach neu gyfnod hwy, ac os felly rhaid iddo roi ei resymau yn ysgrifenedig.
4
Caiff y ceisydd barhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig o dan yr amodau a bennwyd yn y caniatâd gwreiddiol hyd nes y bydd y cais wedi'i benderfynu'n derfynol.
Organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotigI928
1
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi caniatâd ar gyfer cais am ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig a allai gael effaith andwyol ar iechyd dynol a'r amgylchedd ar ôl—
i
31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata, a
ii
31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau.
2
Os cyn 31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata a 31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau, y mae cais yn cael ei wneud am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru werthuso'r wybodaeth yn yr asesiad amgylcheddol sy'n mynd gyda'r cais, gan ystyried yn benodol y marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig hynny a ddefnyddir ar gyfer triniaethau meddygol neu filfeddygol, gyda'r nod o ganfod a diddymu'n raddol y weithred o ollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y paragraff hwnnw.