xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
38. Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran VI o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd i ystyriaeth yr egwyddor ragofalus.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
39. Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 5 yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honNo.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
40.—(1) Mae diwygiad adran 127(2) o'r Ddeddf (diffiniadau ayb: cymhwyso i'r môr tiriogaethol) a wnaed gan reoliad 38(a) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.
(2) Yn adran 127(2), o'i diwygio felly, ar ôl “as it applies in England” mewnosodwch “and applies to the territorial sea adjacent to Wales as it applies in Wales”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
41. O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau 4, 5, 20(1), 30, 31, 34(2) a 40, mae effaith adran 163A o'r Ddeddf yn peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)