Rhan VILL+CAMDDIFFYNIAD

AmddiffyniadLL+C

33.—(1Dim ond os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn y byddai gweithred a awdurdodwyd drwy ganiatâd a roddwyd ganddo o dan adran 111 o'r Ddeddf neu drwy ganiatâd a roddwyd ar gyfer cynnyrch a gymeradwywyd yn golygu risg o beri niwed i'r amgylchedd wedi'i seilio ar resymau manwl o ganlyniad i'r naill neu'r llall o'r canlynol, sef—

(a)gwybodaeth newydd neu ychwanegol a roddwyd ar gael ers dyddiad rhoi'r caniatâd sy'n effeithio ar yr asesiad risg amgylcheddol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; neu

(b)ailasesiad o'r wybodaeth bresennol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw ar sail gwybodaeth wyddonol newydd neu ychwanegol, y caiff gyflwyno hysbysiad gwahardd o dan adran 110 o'r Ddeddf i wahardd gweithred o'r fath.

(2Os, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1) uchod, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod y risg o beri niwed i'r amgylchedd yn ddifrifol rhaid iddo gyflwyno hysbysiad gwahardd sy'n yn ei gwneud hi'n ofynnol i gymryd unrhyw fesurau y mae'n barnu eu bod yn briodol ac unwaith y bydd unrhyw waith sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad wedi'i gyflawni rhaid iddo gofnodi manylion y gwaith hwnnw ar y gofrestr.

(3Mewn achosion y mae paragraff (1) a (2) uchod yn gymwys iddynt, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill yn ddi-oed am ei weithgareddau gan roi iddynt ar yr un pryd—

(a)ei resymau dros gymryd camau o'r fath,

(b)canlyniadau ei adolygiad o'r asesiad risg amgylcheddol,

(c)ei farn ynghylch a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut y dylid dirymu'r caniatâd, neu a ddylid gwneud hynny, ac

(ch)pan fo hynny'n briodol, yr wybodaeth newydd neu ychwanegol yr oedd ei benderfyniad i weithredu wedi'i seilio arni.

(4Bydd hysbysiad gwahardd a gyflwynir o dan adran 110 o'r Ddeddf yn unol â'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a fabwysiedir gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

(5Pan ddaw hysbysiad o benderfyniad gan y Comisiwn, y mae paragraff (4) yn cyfeirio ato, i law, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi ohono at ddeiliad y caniatâd y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef, rhaid iddo dynnu'n ôl yr un pryd unrhyw hysbysiad gwahardd sy'n anghyson â'r penderfyniad hwnnw.

(6Rhaid trin cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at arfer swyddogaeth o dan adran 110 o'r Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn unrhyw achos y mae adran 126(3) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, fel cyfeiriadau at y ffaith bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd(1) yn gweithredu ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

Gweler adran 1 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).