- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
33.—(1) Dim ond os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn y byddai gweithred a awdurdodwyd drwy ganiatâd a roddwyd ganddo o dan adran 111 o'r Ddeddf neu drwy ganiatâd a roddwyd ar gyfer cynnyrch a gymeradwywyd yn golygu risg o beri niwed i'r amgylchedd wedi'i seilio ar resymau manwl o ganlyniad i'r naill neu'r llall o'r canlynol, sef—
(a)gwybodaeth newydd neu ychwanegol a roddwyd ar gael ers dyddiad rhoi'r caniatâd sy'n effeithio ar yr asesiad risg amgylcheddol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; neu
(b)ailasesiad o'r wybodaeth bresennol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw ar sail gwybodaeth wyddonol newydd neu ychwanegol, y caiff gyflwyno hysbysiad gwahardd o dan adran 110 o'r Ddeddf i wahardd gweithred o'r fath.
(2) Os, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1) uchod, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod y risg o beri niwed i'r amgylchedd yn ddifrifol rhaid iddo gyflwyno hysbysiad gwahardd sy'n yn ei gwneud hi'n ofynnol i gymryd unrhyw fesurau y mae'n barnu eu bod yn briodol ac unwaith y bydd unrhyw waith sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad wedi'i gyflawni rhaid iddo gofnodi manylion y gwaith hwnnw ar y gofrestr.
(3) Mewn achosion y mae paragraff (1) a (2) uchod yn gymwys iddynt, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill yn ddi-oed am ei weithgareddau gan roi iddynt ar yr un pryd—
(a)ei resymau dros gymryd camau o'r fath,
(b)canlyniadau ei adolygiad o'r asesiad risg amgylcheddol,
(c)ei farn ynghylch a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut y dylid dirymu'r caniatâd, neu a ddylid gwneud hynny, ac
(ch)pan fo hynny'n briodol, yr wybodaeth newydd neu ychwanegol yr oedd ei benderfyniad i weithredu wedi'i seilio arni.
(4) Bydd hysbysiad gwahardd a gyflwynir o dan adran 110 o'r Ddeddf yn unol â'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a fabwysiedir gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.
(5) Pan ddaw hysbysiad o benderfyniad gan y Comisiwn, y mae paragraff (4) yn cyfeirio ato, i law, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi ohono at ddeiliad y caniatâd y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef, rhaid iddo dynnu'n ôl yr un pryd unrhyw hysbysiad gwahardd sy'n anghyson â'r penderfyniad hwnnw.
(6) Rhaid trin cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at arfer swyddogaeth o dan adran 110 o'r Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn unrhyw achos y mae adran 126(3) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, fel cyfeiriadau at y ffaith bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd(1) yn gweithredu ar y cyd.
Gweler adran 1 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: