Rhan IIIGOSOD ORGANEDDAU AR Y FARCHNAD FEL CYNHYRCHION NEU MEWN CYNHYRCHION
Cais am ganiatâd i farchnata17
1
Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2
Rhaid i gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig nad yw'n gais am adnewyddu caniatâd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—
a
yr wybodaeth a ragnodir yn—
i
Atodlen 1 pan fo'r cais yn gais am ganiatâd i farchnata unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu
ii
Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,
i'r graddau y bo gwybodaeth o'r fath yn briodol i natur a graddfa'r gollyngiad a allai ddeillio o'r marchnata;
b
gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau a gyflawnwyd gan y ceisydd naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol am ganiatâd i ollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn neu i awdurdod cymwys arall yn unol ag adran 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
c
asesiad risg amgylcheddol a baratowyd yn unol â rheoliad 7;
ch
yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3;
d
yr amodau arfaethedig ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys amodau penodol ar gyfer ei ddefnyddio a'i drin;
dd
cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd na fydd yn hwy na deng mlynedd;
e
cynllun monitro wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol y mae'n rhaid iddo gynnwys cynnig ar gyfer cyfnod amser y cynllun a all fod yn wahanol i'r cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd;
f
cynnig ar gyfer labelu sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn Atodlen 3;
ff
cynnig ar gyfer y pacediad;
g
crynodeb o'r cais ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;
3
Caiff y cais gynnwys hefyd—
a
data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi ysgrifenedig o gytundeb y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais,
b
mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac
c
unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.
4
Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir yn unol ag is-baragraffau (2)(a) ac (ch) gymryd i ystyriaeth amrywiaeth y safleoedd sy'n defnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ymchwil a gollyngiadau datblygiadol ar effaith y gollyngiadau ar iechyd dynol a'r amgylchedd;
5
Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (3)(b).
6
Pan fydd y ceisydd yn gallu dangos yn ei gais er bodlonrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar sail canlyniadau unrhyw ollyngiad gan ddilyn ac yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf o dan Ran B o naill ai'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Gyfarwyddeb 1990, neu am resymau gwyddonol rhesymegol sylweddol eraill, nad yw marchnata a defnyddio'r cynnyrch yn peri risg o niweidio'r amgylchedd, gall gynnig peidio â chyflenwi rhan neu'r cyfan o'r wybodaeth ragnodedig yn Rhan II o Atodlen 3.