Rhan ICyffredinol

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesiad risg amgylcheddol” (“environmental risk assessment”) yw'r asesiad risg amgylcheddol y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan reoliad 12(1)(c) a rheoliad 17(2)(c) yn ôl eu trefn;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol;

  • mae “cais am ganiatâd i ollwng” (“application for consent to release”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad a wneir o dan Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd);

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Ewropeaidd;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 1990” (“the 1990 Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC4 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1994/15/EC5 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 1997/35/EC6;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 20007);

  • ystyr “cynllun monitro” (“monitoring plan”) yw'r cynllun sy'n ofynnol gan reoliad 17(2)(e);

  • ystyr “cynnyrch wedi'i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf neu yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) a (4) o Gyfarwyddeb 1990;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr gyhoeddus sy'n cael ei chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC8 ar ddefnydd amgaeëdig micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 2001/204/EC9);

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd a Chyngor Ewrop ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig10;

  • ystyr “marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig” (“antibiotic resistance markers”) yw genynnau a ddefnyddir wrth addasu organedd fel bod yr organedd hwnnw yn mynegi ymwrthedd i wrthfiotig neu wrthfiotigau penodol;

  • ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” (“genetically modified organisms”) yw organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig;

  • ystyr “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“The First Simplified Procedure (crop plants) Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 94/730/EC11;

  • ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd” (“the Advisory Committee on Releases to the Environment”) yw'r Pwyllgor a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 124 o'r Ddeddf;

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 199212;

  • ystyr “uwchblanhigyn” (“higher plant”) yw planhigyn sy'n perthyn i'r grŵ p tacsonomig Spermatophytae (Gymnospermae neu Angiospermae).

2

Yn y Rheoliadau hyn—

a

mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a

b

mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.