- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad risg amgylcheddol” (“environmental risk assessment”) yw'r asesiad risg amgylcheddol y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan reoliad 12(1)(c) a rheoliad 17(2)(c) yn ôl eu trefn;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol;
[F1ystyr “bwyd a addaswyd yn enetig” (“genetically modified food”) yw—
bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;
bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu
organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;]
mae “cais am ganiatâd i ollwng” (“application for consent to release”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad a wneir o dan Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd);
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Ewropeaidd;
ystyr “Cyfarwyddeb 1990” (“the 1990 Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC(1) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1994/15/EC(2) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 1997/35/EC(3);
mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4));
ystyr “cynllun monitro” (“monitoring plan”) yw'r cynllun sy'n ofynnol gan reoliad 17(2)(e);
ystyr “cynnyrch wedi'i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf neu yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) a (4) o Gyfarwyddeb 1990;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr gyhoeddus sy'n cael ei chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf;
ystyr “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”) yw [F2Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig] ;
[F3“ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC(1) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig [F4fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) [F52018/350 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asesu risg amgylcheddol organeddau a addaswyd yn enetig]] ”]
ystyr “marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig” (“antibiotic resistance markers”) yw genynnau a ddefnyddir wrth addasu organedd fel bod yr organedd hwnnw yn mynegi ymwrthedd i wrthfiotig neu wrthfiotigau penodol;
ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” (“genetically modified organisms”) yw organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig;
ystyr “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“The First Simplified Procedure (crop plants) Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 94/730/EC(5);
ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd” (“the Advisory Committee on Releases to the Environment”) yw'r Pwyllgor a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 124 o'r Ddeddf;
ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992(6);
ystyr “uwchblanhigyn” (“higher plant”) yw planhigyn sy'n perthyn i'r grŵ p tacsonomig Spermatophytae (Gymnospermae neu Angiospermae).
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a
(b)mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(2)(b)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (17.12.2018) gan Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 4(2)
F3Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (15.7.2005) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1913), rhlau. 1, 2(2)(a)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (28.3.2019) gan Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/463), rhlau. 1(3), 17
F5Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
OJ Rhif L117, 8.5.90, t.15.
OJ Rhif L103, 22.4.94, t.20.
OJ Rhif L169, 27.6.97, t.72.
OJ Rhif L292, 12.11.1994, t.31.
O.S. 1992/3280. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y rheoliadau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Erthygl 3 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: