Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Dyletswydd y ceisydd ar ôl gwneud cais am ganiatâd i ollwng neu i farchnataLL+C

20.—(1Mae'r diwygiad i adran 111 o'r Ddeddf (caniatadau y mae eu hangen gan bersonau penodol) a wnaed gan reoliad 19(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, sy'n mewnosod y canlynol fel ail frawddeg yn is-adran (b)—

  • A notice under this subsection must state the reasons for requiring the further information specified in the notice.

yn effeithiol mewn perthynas â Chymru.

(2Rhaid i geisydd am ganiatâd i ollwng neu i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw wybodaeth yn unol ag adran 111(6A) o'r Ddeddf (y gofyniad i'r ceisydd roi hysbysiad o wybodaeth newydd am risgiau o niwed i'r amgylchedd) gyflwyno yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fersiwn ddiwygiedig o'r cais gwreiddiol am ganiatâd sydd wedi'i ddiwygio i gymryd yr wybodaeth newydd i ystyriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)