- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o'r Ddeddf fel y mae'n ymwneud ag amddiffyn iechyd dynol heb gytundeb yr Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch(1).
(2) Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi na gwrthod caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd cyfnod o chwe deg diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y daeth y cais am ganiatâd i law.
(3) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfathrebu ei benderfyniad ar gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig i'r ceisydd a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i'r Comisiwn cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law a chydag unrhyw gais a fydd yn cael ei wrthod rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.
(4) Ni fydd y cyfnod a ragnodwyd ym mharagraff (3) yn cynnwys—
(a)unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu'n ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf bod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais ac sy'n gorffen ar y diwrnod pan fydd yr wybodaeth honno yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu
(b)cyfnod amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 21(b), ar yr amod na fydd yr ystyriaeth hon yn ymestyn y cyfnod o 90 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan fwy na 30 diwrnod.
(5) Rhaid i ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig ei gwneud hi'n ofynnol i'r ceisydd anfon unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i asesu'r risg o beri niwed i'r amgylchedd, gyda chyfeiriad penodol, pan fo hynny'n briodol, at unrhyw gynnyrch y bwriedir ei farchnata yn y dyfodol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cwblhau'r gollyngiad ac wedi hynny, bob hyn a hyn yn ôl yr hyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn barnu ei fod yn briodol ar sail canlyniadau'r asesiad risg amgylcheddol.
(6) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon i'r Comisiwn yr wybodaeth a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (5).
Gweler adran 10 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (p.37).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: