- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
25.—(1) Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n dangos y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata a naill ai—
(a)nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(b)bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 15(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 105 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(c)os oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn o'i benderfyniad i roi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o roi ei ganiatâd.
(3) At y diben o gyfrifo'r cyfnod o bedwar deg pum diwrnod terfynol y cant a phum diwrnod yn is-baragraff (1)(b) uchod, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod pan ddisgwylir gwybodaeth bellach gan y ceisydd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan roddwyd y caniatâd.
(5) At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig neu epil o'r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig a'r epil hwnnw wedi'i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae'r amrywiad planhigyn wedi'i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig o dan ddarpariaethau perthnasol y Gymuned bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gatalog cenedlaethol swyddogol o'r amrywiadau planhigion yn unol â Chyfarwyddebau 2002/53/EC(1) a 2002/55/EC(2) fel y'u diwygiwyd.
(6) At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi'i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf y deunydd sylfaenol sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gofrestr genedlaethol swyddogol o ddeunydd sylfaenol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC(3).
O.J. Rhif L193, 20.7.2002, t1.
O.J. Rhif L193, 20.7.2002, t33.
Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC ar farchnata deunydd atgenhedlu fforest OJ Rhif L11 15.1.2000 t. 17.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: