Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

26.—(1Wrth gael cais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;

(c)naill ai—

(i)anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 ac sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu

(ii)gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu sy'n nodi na ddylid parhau i farchnata'r organedd a addaswyd yn enetig;

(ch)sicrhau bod copi o'r cais a'i adroddiad asesu yn cael ei anfon i'r Comisiwn.

(2Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)