27.—(1) Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig a naill ai—
(a)nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu
(b)bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb eu penderfynu wedi'u datrys yn unol ag Erthygl 17(8) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 75 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn ei adroddiad asesu, neu
(c)bod gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod yr awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn yn cael eu hysbysu o'i benderfyniad i adnewyddu'r caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o'i adnewyddu.
(3) Caiff caniatâd a adnewyddwyd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm o 10 mlynedd oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod modd cyfiawnhau cyfnod byrrach neu gyfnod hwy, ac os felly rhaid iddo roi ei resymau yn ysgrifenedig.
(4) Caiff y ceisydd barhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig o dan yr amodau a bennwyd yn y caniatâd gwreiddiol hyd nes y bydd y cais wedi'i benderfynu'n derfynol.