Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotigLL+C

28.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi caniatâd ar gyfer cais am ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig a allai gael effaith andwyol ar iechyd dynol a'r amgylchedd ar ôl—

(i)31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata, a

(ii)31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau.

(2Os cyn 31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata a 31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau, y mae cais yn cael ei wneud am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru werthuso'r wybodaeth yn yr asesiad amgylcheddol sy'n mynd gyda'r cais, gan ystyried yn benodol y marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig hynny a ddefnyddir ar gyfer triniaethau meddygol neu filfeddygol, gyda'r nod o ganfod a diddymu'n raddol y weithred o ollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)