Rhan ICyffredinol

Technegau addasu genetigI16

1

Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(a)13 o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, wedi'u haddasu'n artiffisial os ydynt wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:

a

technegau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno sy'n cynnwys ffurfio cyfuniad newydd o ddeunydd genetig drwy fewnosod molecylau asid niwclëig a gynhyrchir drwy ba ddull bynnag y tu allan i organedd, i mewn i unrhyw firws, plasmid bacterol neu system fector arall a'u hymgorffori mewn organedd lletyol lle nad ydynt yn digwydd yn naturiol ond mae modd iddynt barhau i epilio;

b

technegau sy'n cynnwys cyflwyno'n uniongyrchol i mewn i organedd ddeunydd etifeddadwy a baratowyd y tu allan i'r organedd gan gynnwys microbigiad, macrobigiad a microamgáu;

c

ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) neu dechnegau croesiad pan gaiff celloedd byw gyda chyfuniadau newydd o ddeunydd genetig etifeddadwy eu ffurfio drwy ymasu dwy gell neu fwy drwy ddulliau nad ydynt yn digwydd yn naturiol.

5

Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(b) o'r Ddeddf i rym, rhaid peidio ag ystyried bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, yn rhai sydd wedi'u haddasu'n artiffisial ond am eu bod wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:

a

ffrwythloni in vitro,

b

prosesau naturiol megis cydgysylltiad, trosglwyddiad a thrawsnewid; ac

c

anwythiad polyploidedd,

ar yr amod nad yw technegau o'r fath yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau ac eithrio—

i

mwtagenesis;

ii

ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) celloedd planhigion neu organeddau sy'n gallu cyfnewid deunydd genetig trwy ddulliau bridio traddodiadol.

6

Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4C) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd nad yw organedd, at ddibenion Rhan VI o'r Ddeddf, yn organedd a addaswyd yn enetig os yw'n gynnyrch a gafwyd drwy'r technegau neu'r dulliau a restrir ym mharagraffau (2)(i) neu (ii) ar yr amod nad oedd y technegau neu'r dulliau hynny yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio'r rhai a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau a restrir yn y paragraff hwnnw.