8.—(1) Pryd bynnag y bydd yn ofynnol i geisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu ei bod hi'n ofynnol i ddeiliad caniatâd o'r fath o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno unrhyw ddogfen yn ysgrifenedig, boed hynny cyn neu ar ôl i ganiatâd gael ei roi, mae'n ofynnol iddo gyflwyno'r ddogfen honno ar ffurf papur ac ar ffurf electronig a ddefnyddir yn gyffredin.
(2) Pryd bynnag y bydd yn ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw gyfathrebiad oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y ceisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd fod yn ysgrifenedig, bydd “ysgrifenedig” yn cynnwys cyfathrebiad electronig.
(3) Rhaid i unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn iddynt fod yn ysgrifenedig ac nad ydynt yn dod o dan ddarpariaethau paragraff (1) neu (2) uchod fod ar ffurf papur.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)