xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 12 ac 17

ATODLEN 1LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac am ollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiad, ac am ei ddiogelwch.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Teitl y prosiect.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN

3.  Enw llawn y planhigyn—LL+C

(a)enw teuluol,

(b)genws,

(c)rhywogaeth,

(ch)isrywogaeth,

(d)llinell cyltifar/fridio,

(dd)enw cyffredin.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Gwybodaeth ynghylch—LL+C

(a)atgenhedliad y planhigyn:

(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,

(ii)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,

(iii)amser cenhedliad; a

(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:LL+C

(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:LL+C

(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Dosbarthiad daearyddol y planhigyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ADDASIAD GENETIG

10.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw'r organedd neu'r organeddau rhoi pob rhan cyfansoddol o'r rhanbarth lle bwriedir eu cynnwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG

13.  Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:LL+C

(a)maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,

(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,

(c)rhif copi y mewnosodiad, a

(ch)lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—LL+C

(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

(b)y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—LL+C

(a)modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,

(b)gwasgariad,

(c)y gallu i oroesi.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

25.  Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VLL+CGWYBODAETH YNGHYLCH SAFLE'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C

26.  Lleoliad a maint safle'r gollyngiad neu safleoedd y gollyngiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

27.  Disgrifiad o ecosystem safle'r gollyngiad, gan gynnwys hinsawdd, fflora a ffawna.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

28.  Manylion unrhyw rywogaethau perthnasau gwyllt neu rywogaethau planhigion trin sy'n gydweddol yn rhywiol ac yn bresennol yn safleoedd y gollyngiadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

29.  Agosrwydd safleoedd y gollyngiadau at fiotopau a gydnabyddir yn swyddogol neu ardaloedd gwarchodedig y gall gollyngiadau effeithio arnynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C

30.  Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

31.  Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

32.  Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

33.  Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

34.  Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIILL+CGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C

35.  Disgrifiad o—LL+C

(a)unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.

(b)unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

36.  Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

37.  Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

38.  Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

39.  Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

40.  Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIIILL+CGWYBODAETH AM FETHODOLEG

41.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)