Search Legislation

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau 12 ac 17

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac am ollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiad, ac am ei ddiogelwch.

2.  Teitl y prosiect.

Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN

3.  Enw llawn y planhigyn—

(a)enw teuluol,

(b)genws,

(c)rhywogaeth,

(ch)isrywogaeth,

(d)llinell cyltifar/fridio,

(dd)enw cyffredin.

4.  Gwybodaeth ynghylch—

(a)atgenhedliad y planhigyn:

(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,

(ii)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,

(iii)amser cenhedliad; a

(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

5.  Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:

(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.

6.  Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:

(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.

7.  Dosbarthiad daearyddol y planhigyn.

8.  Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.

9.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.

Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ADDASIAD GENETIG

10.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.

11.  Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.

12.  Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw'r organedd neu'r organeddau rhoi pob rhan cyfansoddol o'r rhanbarth lle bwriedir eu cynnwys.

Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG

13.  Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.

14.  Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:

(a)maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,

(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,

(c)rhif copi y mewnosodiad, a

(ch)lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.

15.  Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—

(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

(b)y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.

16.  Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—

(a)modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,

(b)gwasgariad,

(c)y gallu i oroesi.

17.  Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .

18.  Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.

19.  Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.

20.  Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.

21.  Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.

22.  Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.

23.  Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.

24.  Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.

25.  Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.

Rhan VGWYBODAETH YNGHYLCH SAFLE'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)

26.  Lleoliad a maint safle'r gollyngiad neu safleoedd y gollyngiadau.

27.  Disgrifiad o ecosystem safle'r gollyngiad, gan gynnwys hinsawdd, fflora a ffawna.

28.  Manylion unrhyw rywogaethau perthnasau gwyllt neu rywogaethau planhigion trin sy'n gydweddol yn rhywiol ac yn bresennol yn safleoedd y gollyngiadau.

29.  Agosrwydd safleoedd y gollyngiadau at fiotopau a gydnabyddir yn swyddogol neu ardaloedd gwarchodedig y gall gollyngiadau effeithio arnynt.

Rhan VIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)

30.  Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.

31.  Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.

32.  Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.

33.  Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.

34.  Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.

Rhan VIIGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)

35.  Disgrifiad o—

(a)unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.

(b)unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).

36.  Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.

37.  Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.

38.  Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.

39.  Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.

40.  Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.

Rhan VIIIGWYBODAETH AM FETHODOLEG

41.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources