xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM [F1uwchblanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â marchnata] NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

RHAN 4ALL+CGwybodaeth am feysydd penodol sy’n peri risg

[F218.  Gwybodaeth am—LL+C

(a)unrhyw newid i barhausrwydd neu ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig a’i allu i drosglwyddo deunydd genetig i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(b)unrhyw newid i allu’r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(c)mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r organeddau targed, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(ch)newidiadau posibl i ryngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed o ganlyniad i’r addasiad genetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(d)newidiadau posibl i arferion amaethyddol a dulliau rheoli’r planhigyn a addaswyd yn enetig o ganlyniad i’r addasiad genetig, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(dd)y rhyngweithiadau posibl â’r amgylchedd anfiotig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

(e)unrhyw effeithiau gwenwynig, effeithiau alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy’n deillio o’r addasiad genetig,

(f)casgliadau am y meysydd penodol sy’n peri risg.]

Diwygiadau Testunol

F2Atod. 1 Rhn. 4A para. 18 wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 1 parau. 19-23 (30.10.2019) gan Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1316), rhlau. 1(2), 6(9)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)