xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN

3.  Enw llawn y planhigyn—LL+C

(a)enw teuluol,

(b)genws,

(c)rhywogaeth,

(ch)isrywogaeth,

(d)llinell cyltifar/fridio,

(dd)enw cyffredin.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Gwybodaeth ynghylch—LL+C

(a)atgenhedliad y planhigyn:

(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,

(ii)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,

(iii)amser cenhedliad; a

(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:LL+C

(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:LL+C

(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Dosbarthiad daearyddol y planhigyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)