3. Enw llawn y planhigyn—LL+C
(a)enw teuluol,
(b)genws,
(c)rhywogaeth,
(ch)isrywogaeth,
(d)llinell cyltifar/fridio,
(dd)enw cyffredin.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Gwybodaeth ynghylch—LL+C
(a)atgenhedliad y planhigyn:
(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,
(ii)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,
(iii)amser cenhedliad; a
(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:LL+C
(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,
(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:LL+C
(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a
(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Dosbarthiad daearyddol y planhigyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)