ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG
I113
Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.
I214
Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:
a
maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,
b
maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,
c
rhif copi y mewnosodiad, a
ch
lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.
I315
Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—
a
gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,
b
y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.
I416
Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—
a
modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,
b
gwasgariad,
c
y gallu i oroesi.
I517
Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .
I618
Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.
I719
Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.
I820
Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.
I921
Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.
I1022
Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.
I1123
Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.
I1224
Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.
I1325
Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.