Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG
13. Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:LL+C
(a)maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,
(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,
(c)rhif copi y mewnosodiad, a
(ch)lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—LL+C
(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,
(b)y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—LL+C
(a)modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,
(b)gwasgariad,
(c)y gallu i oroesi.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
25. Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)