Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG

13.  Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:LL+C

(a)maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,

(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,

(c)rhif copi y mewnosodiad, a

(ch)lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—LL+C

(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

(b)y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—LL+C

(a)modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,

(b)gwasgariad,

(c)y gallu i oroesi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

21.  Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

22.  Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

23.  Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

24.  Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

25.  Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)