Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Rhan VILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)LL+C

30.  Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

31.  Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

32.  Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

33.  Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

34.  Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)