ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM uwchblanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â marchnata NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG
Rhan VIIGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF
F1...
35.
Disgrifiad o—
(a)
unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.
(b)
unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).
36.
Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.
37.
Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.
38.
Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.
39.
Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.
40.
Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.