Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

33.  Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—LL+C

(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

(c)gallu'r organeddau i gytrefu,

(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

(ii)heintusrwydd,

(iii)dogn heintiol,

(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

(vii)sefydlogrwydd biolegol,

(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

(ix)alergenedd, a

(x)argaeledd therapïau priodol; a

(d)peryglon eraill y cynnyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)