Rhan IILL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG
Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbynLL+C
3. Enw gwyddonol a thacsonomi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Marcwyr ffenotypig a genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—LL+C
(a)dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;
(b)hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;
(c)gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;
(ch)pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;
(d)ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;
(dd)rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Hanes addasiadau genetig blaenorol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Nodweddion y fectorLL+C
15. Natur a ffynhonnell y fector.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetigLL+C
19. Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Y dulliau a ddefnyddiwyd—LL+C
(a)i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;
(b)i ddileu dilyniant.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetigLL+C
25. Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
26. Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
27. Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
28. Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo. LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
29. Actifedd y cynnyrch genynnol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
30. Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
31. Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
32. Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
33. Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—LL+C
(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,
(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,
(c)gallu'r organeddau i gytrefu,
(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—
(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,
(ii)heintusrwydd,
(iii)dogn heintiol,
(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,
(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,
(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,
(vii)sefydlogrwydd biolegol,
(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,
(ix)alergenedd, a
(x)argaeledd therapïau priodol; a
(d)peryglon eraill y cynnyrch.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)