Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetig
25. Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.
26. Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.
27. Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.
28. Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo.
29. Actifedd y cynnyrch genynnol.
30. Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.
31. Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.
32. Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.
33. Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—
(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,
(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,
(c)gallu'r organeddau i gytrefu,
(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—
(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,
(ii)heintusrwydd,
(iii)dogn heintiol,
(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,
(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,
(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,
(vii)sefydlogrwydd biolegol,
(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,
(ix)alergenedd, a
(x)argaeledd therapïau priodol; a
(d)peryglon eraill y cynnyrch.