xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R AMODAU AR GYFER GOLLWNG

Y gollyngiad

34.  Disgrifiad o'r gollyngiad bwriadol arfaethedig, gan gynnwys diben neu ddibenion y gollyngiad ac unrhyw fwriad i ddefnyddio'r organedd a addaswyd yn enetig fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.

35.  Dyddiadau arfaethedig y gollyngiad ac amserlen yr arbrawf gan gynnwys amledd a hyd y gollyngiadau.

36.  Paratoi'r safle cyn y gollyngiad.

37.  Maint y safle.

38.  Y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer y gollyngiad.

39.  Swm yr organeddau sydd i'w gollwng.

40.  Sut y caiff y safle ei aflonyddu, gan gynnwys math a dull yr amaethu, y cloddio, y dyfrhau neu'r gweithgareddau eraill.

41.  Y mesurau a gymerir i amddiffyn gweithwyr yn ystod y gollyngiad.

42.  Sut y caiff y safle ei drin wedi'r gollyngiad.

43.  Y technegau a ragwelir ar gyfer dileu neu sicrhau nad yw'r organeddau a addaswyd yn enetig yn actif ar ddiwedd yr arbrawf neu ddiben arall y gollyngiad.

44.  Gwybodaeth am ollyngiadau blaenorol yr organeddau a addaswyd yn enetig a'u canlyniadau, ac yn arbennig, gollyngiadau ar raddfeydd gwahanol neu i ecosystemau gwahanol.