xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD

Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniadLL+C

54.  Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

55.  Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

56.  Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhyngweithiadau â'r amgylcheddLL+C

57.  Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

58.  Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

59.  Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—LL+C

(a)o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,

(b)o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

60.  Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

61.  Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

62.  Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

63.  Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

64.  Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

65.  Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

66.  Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 66 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

67.  Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

68.  Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

69.  Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

70.  Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

71.  Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

72.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 72 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)