Rhan IVLL+CGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD
Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniadLL+C
54. Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
55. Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
56. Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
Rhyngweithiadau â'r amgylcheddLL+C
57. Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
58. Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
59. Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—LL+C
(a)o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,
(b)o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
60. Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
61. Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
62. Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
63. Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
64. Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
65. Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
66. Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 66 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
67. Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
68. Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
69. Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
70. Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
71. Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)
72. Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 72 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)