ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG

Rheoliad 17(2)(ch) ac(f) a (6)

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

I11

Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I22

Enw a chyfeiriad F1Undeb Ewropeaidd y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.

I33

Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I44

Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I55

Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn yr F1Undeb Ewropeaidd , gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I66

Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I77

Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I88

Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn yr F1Undeb Ewropeaidd sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIGWYBODAETH BERTHNASOL YCHWANEGOL

I99

Y mesurau sydd i'w cymryd pe bai organeddau yn y cynnyrch yn dianc neu pe bai'r cynnyrch yn cael ei gamddefnyddio.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1010

Cyfarwyddiadau neu argymhellion penodol ar gyfer storio a thrafod y cynnyrch.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1111

Cyfarwyddiadau penodol ar gyfer monitro a hysbysu'r ceisydd ac, os yw hynny'n angenrheidiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyson â Rhan C o Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1212

Y cyfyngiadau arfaethedig yn y defnydd a gymeradwywyd ar gyfer yr organedd a addaswyd yn enetig, megis lle gellir defnyddio'r cynnyrch ac at ba ddibenion.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1313

Y pacediad arfaethedig.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1414

Amcangyfrif o'r cynnyrch yn y Gymuned a/neu fewnforion iddi.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1515

Unrhyw labelu ychwanegol arafethedig, a allai gynnwys, o leiaf fel crynodeb, yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 4 a 5 o Ran I o'r Atodlen hon, neu baragraffau 9 i 12 o'r Rhan hon.