Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Rheoliad 17(2)(ch) ac(f) a (6)

ATODLEN 3LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan ILL+CGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, [F1y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall] a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.LL+C

2.  Enw a chyfeiriad [F2Undeb Ewropeaidd] y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn yr [F2Undeb Ewropeaidd] , gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn yr [F2Undeb Ewropeaidd] sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Amnewidiwyd geiriau yn y Rheoliadau (22.4.2011) gan The Treaty of Lisbon (Changes in Terminology) Order 2011 (O.S. 2011/1043), erglau. 2, 3-6, 8-10

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IILL+CGWYBODAETH BERTHNASOL YCHWANEGOL

9.  Y mesurau sydd i'w cymryd pe bai organeddau yn y cynnyrch yn dianc neu pe bai'r cynnyrch yn cael ei gamddefnyddio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Cyfarwyddiadau neu argymhellion penodol ar gyfer storio a thrafod y cynnyrch.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Cyfarwyddiadau penodol ar gyfer monitro a hysbysu'r ceisydd ac, os yw hynny'n angenrheidiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyson â Rhan C o Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y cyfyngiadau arfaethedig yn y defnydd a gymeradwywyd ar gyfer yr organedd a addaswyd yn enetig, megis lle gellir defnyddio'r cynnyrch ac at ba ddibenion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Y pacediad arfaethedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Amcangyfrif o'r cynnyrch yn y Gymuned a/neu fewnforion iddi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Unrhyw labelu ychwanegol arafethedig, a allai gynnwys, o leiaf fel crynodeb, yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 4 a 5 o Ran I o'r Atodlen hon, neu baragraffau 9 i 12 o'r Rhan hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)