Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL
1. Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.
2. Enw a chyfeiriad Cymunedol y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.
3. Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.
4. Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.
5. Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn y Gymuned, gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.
6. Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.
7. Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.
8. Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn y Gymuned sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.