Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Rheoliadau 24, 26 a 32

ATODLEN 4LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIAD ASESU

1.  Nodi nodweddion yr organedd derbyn sy'n berthnasol i'r asesiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Disgrifiad o'r ffordd y mae'r addasiad genetig yn effeithio ar nodweddion yr organeddau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Nodi unrhyw risgiau hysbys o newid i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng i'r amgylchedd yr organedd derbyn nas addaswyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Asesiad ynghylch a yw'r addasiad genetig wedi'i nodweddu'n ddigonol at ddibenion gwerthuso unrhyw risgiau i iechyd dynol a'r amgylchedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Dynodi unrhyw risgiau newydd i iechyd dynol a'r amgylchedd allai ddeillio o ollwng yr organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig o'i gymharu â gollwng yr organedd cyfatebol nas addaswyd yn enetig, yn seiliedig ar yr asesiad risg amgylcheddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Diweddglo sy'n mynd i'r afael â defnydd arfaethedig o'r cynnyrch, rheoli risg a'r cynllun monitro arfaethedig, ac sy'n datgan a ddylid marchnata'r organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu na ddylid eu marchnata, gan gynnwys rhesymau pam y daethpwyd i'r casgliad hwnnw, ac a fwriedir gofyn am farn awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn ar agweddau penodedig yr asesiad risg amgylcheddol a beth yw'r agweddau hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)