2002 Rhif 3188 (Cy.304)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) honno a chan adrannau 106(4) a (5), 107(8), 111(1), (4), (5), (7) ac (11), 122(1) a (4), 123(7), a 126(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19903, ac ar ôl ymgynghori â'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 126(5) o'r Ddeddf honno a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Rhan ICyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesiad risg amgylcheddol” (“environmental risk assessment”) yw'r asesiad risg amgylcheddol y mae'n ofynnol ei gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan reoliad 12(1)(c) a rheoliad 17(2)(c) yn ôl eu trefn;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol;

  • F2ystyr “bwyd a addaswyd yn enetig” (“genetically modified food”) yw—

    1. a

      bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;

    2. b

      bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu

    3. c

      organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;

  • mae “cais am ganiatâd i ollwng” (“application for consent to release”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad a wneir o dan Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd);

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw'r Comisiwn Ewropeaidd;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 1990” (“the 1990 Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC4 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1994/15/EC5 a Chyfarwyddeb y Comisiwn 1997/35/EC6;

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebiadau Electronig 20007);

  • ystyr “cynllun monitro” (“monitoring plan”) yw'r cynllun sy'n ofynnol gan reoliad 17(2)(e);

  • ystyr “cynnyrch wedi'i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf neu yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) a (4) o Gyfarwyddeb 1990;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

  • ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr gyhoeddus sy'n cael ei chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”) yw F11Cyfarwyddeb 2009/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar y defnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig ;

  • F1“ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC4 ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig F17fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) F182018/350 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asesu risg amgylcheddol organeddau a addaswyd yn enetig

  • ystyr “marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig” (“antibiotic resistance markers”) yw genynnau a ddefnyddir wrth addasu organedd fel bod yr organedd hwnnw yn mynegi ymwrthedd i wrthfiotig neu wrthfiotigau penodol;

  • ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” (“genetically modified organisms”) yw organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig;

  • ystyr “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“The First Simplified Procedure (crop plants) Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 94/730/EC11;

  • ystyr “y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd” (“the Advisory Committee on Releases to the Environment”) yw'r Pwyllgor a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 124 o'r Ddeddf;

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 199212;

  • ystyr “uwchblanhigyn” (“higher plant”) yw planhigyn sy'n perthyn i'r grŵ p tacsonomig Spermatophytae (Gymnospermae neu Angiospermae).

2

Yn y Rheoliadau hyn—

a

mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw; a

b

mae cyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y mae'r cyfeiriad hwnnw yn digwydd ynddo.

Dynodi awdurdod cymwysI33

Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod cymwys mewn perthynas â Chymru at ddibenion y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Diben Rhan VI o'r Ddeddf ac ystyr “organeddau a addaswyd yn enetig” aybI44

1

Mae diwygiadau adran 106 o'r Ddeddf (diben Rhan VI o'r Ddeddf ac ystyr “genetically modified organisms” ayb), a wnaed gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn:

2

Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(2) o'r Rheoliadau hynny sy'n rhoi'r canlynol yn lle is-adran (1)—

1

This Part has effect for the purpose of ensuring that all appropriate measures are taken to avoid damage to the environment which may arise from the escape or release from human control of genetically modified organisms.

  • yn effeithiol hefyd yng Nghymru.

3

Mae diwygiad is-adran (4) a wnaed gan reoliad 3(3) o'r Rheoliadau hynny, sy'n rhoi'r canlynol yn lle paragraff (a) —

a

have been artificially modified, or

  • yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

4

Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(4) o'r Rheoliadau hynny (sy'n mewnosod is-adrannau (4A) i (4D)) yn cael ei addasu gan baragraff (5) ac, o'i addasu felly, mae'n effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

5

Yn is-adran (4D), fel y'i mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl “Secretary of State” mewnosodwch— “or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales”.

6

Mae testun is-adrannau (4A) i (4D), o'i fewnosod gan y rheoliad hwnnw a'i addasu gan baragraff (5), fel a ganlyn—

4A

Genes or other genetic material in an organism are “artificially modified” for the purposes of subsection (4) above if they are altered otherwise than by a process which occurs naturally in mating or natural recombination.

  • This subsection is subject to subsections (4B) and (4C) below.

4B

For the purposes of subsection (4) above—

a

genes or other genetic material shall be taken to be artificially modified if they are altered using such techniques as may be prescribed for the purposes of this paragraph;

b

genes or other genetic material shall not be regarded as artificially modified by reason only of being altered by the use of such techniques as may be prescribed for the purposes of this paragraph.

4C

An organism shall be taken not to be a genetically modified organism for the purposes of this Part if it is an organism of a prescribed description.

4D

In subsections (4B) and (4C) above “prescribed” means prescribed by regulations made by the Secretary of State, or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales.

7

Mae'r diwygiad a wnaed gan reoliad 3(5) o'r Rheoliadau hynny (sy'n hepgor is-adrannau (5) a (6)) yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Ystyr “damage to the environment” aybI55

1

Mae diwygiadau adran 107 o'r Ddeddf (ystyr “damage to the environment” ayb) a wnaed gan reoliad 4 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, fel y'u disgrifir ym mharagraff (2), yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

2

Mae'r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

a

yn rhoi yn lle is-adran (2) (ystyr “environment”)—

2

The “environment” includes land, air and water and living organisms supported by any of those media

b

yn is-adran (3) (ystyr “damage to the environment”) yn hepgor “to the living organisms supported by the environment”,

c

yn rhoi yn lle is-adran (6) (ystyr “harm”)—

6

“Harm” means any adverse effects as regards the health of humans or the environment

ch

yn rhoi yn lle is-adran (9) (ystyr organedd sydd o dan “control” person)—

9

Organisms of any description are under the “control” of a person where he keeps them contained by measures designed to limit their contact with humans and the environment and to prevent or minimise the risk of harm.

d

yn rhoi yn lle is-adran (11) (ystyr organedd sy'n cael ei farchnata (“marketed”))—

11

Genetically modified organisms of any description are “marketed” by a person when products consisting of or including such organisms are placed on the market by being made available to other persons, whether or not for consideration.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Technegau addasu genetigI66

1

Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(a)13 o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, wedi'u haddasu'n artiffisial os ydynt wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:

a

technegau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno sy'n cynnwys ffurfio cyfuniad newydd o ddeunydd genetig drwy fewnosod molecylau asid niwclëig a gynhyrchir drwy ba ddull bynnag y tu allan i organedd, i mewn i unrhyw firws, plasmid bacterol neu system fector arall a'u hymgorffori mewn organedd lletyol lle nad ydynt yn digwydd yn naturiol ond mae modd iddynt barhau i epilio;

b

technegau sy'n cynnwys cyflwyno'n uniongyrchol i mewn i organedd ddeunydd etifeddadwy a baratowyd y tu allan i'r organedd gan gynnwys microbigiad, macrobigiad a microamgáu;

c

ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) neu dechnegau croesiad pan gaiff celloedd byw gyda chyfuniadau newydd o ddeunydd genetig etifeddadwy eu ffurfio drwy ymasu dwy gell neu fwy drwy ddulliau nad ydynt yn digwydd yn naturiol.

5

Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4B)(b) o'r Ddeddf i rym, rhaid peidio ag ystyried bod genynnau neu ddeunydd genetig arall, at ddibenion is-adran (4) o'r adran honno, yn rhai sydd wedi'u haddasu'n artiffisial ond am eu bod wedi'u newid drwy ddefnyddio unrhyw un o'r technegau canlynol:

a

ffrwythloni in vitro,

b

prosesau naturiol megis cydgysylltiad, trosglwyddiad a thrawsnewid; ac

c

anwythiad polyploidedd,

ar yr amod nad yw technegau o'r fath yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau ac eithrio—

i

mwtagenesis;

ii

ymasiad celloedd (gan gynnwys ymasiad protoplast) celloedd planhigion neu organeddau sy'n gallu cyfnewid deunydd genetig trwy ddulliau bridio traddodiadol.

6

Tan y daw'r rheoliadau cyntaf o dan adran 106(4C) o'r Ddeddf i rym, rhaid cymryd nad yw organedd, at ddibenion Rhan VI o'r Ddeddf, yn organedd a addaswyd yn enetig os yw'n gynnyrch a gafwyd drwy'r technegau neu'r dulliau a restrir ym mharagraffau (2)(i) neu (ii) ar yr amod nad oedd y technegau neu'r dulliau hynny yn golygu defnyddio molecylau asid niwclëig wedi'u hailgyfuno nac organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio'r rhai a wnaed drwy dechnegau neu ddulliau a restrir yn y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Asesiad risg amgylcheddolI77

1

Rhaid i asesiad risg amgylcheddol sydd wedi'i gynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau wedi'u haddasu'n enetig—

a

canfod a gwerthuso'r niwed posibl i'r amgylchedd, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, boed yn ddi-oed neu'n ohiriedig, a allai ddeillio o ganlyniad i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig;

b

cael ei gyflawni yn unol ag Atodlen II o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol a chynnwys y casgliadau sy'n ofynnol yn Adran D o'r Atodlen honno; ac

c

cynnwys unrhyw gyfeiriadau llyfryddol a dangos y dulliau a ddefnyddiwyd lle bo hynny'n berthnasol.

2

Pan fo'r genynnau a addaswyd yn enetig yn cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i'r asesiad risg amgylcheddol gynnwys archwiliad o'r risgau penodol o niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng neu farchnata'r organeddau hynny a addaswyd yn enetig .

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cyfathrebu â cheisydd am ganiatâdI88

1

Pryd bynnag y bydd yn ofynnol i geisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu ei bod hi'n ofynnol i ddeiliad caniatâd o'r fath o dan y Rheoliadau hyn gyflwyno unrhyw ddogfen yn ysgrifenedig, boed hynny cyn neu ar ôl i ganiatâd gael ei roi, mae'n ofynnol iddo gyflwyno'r ddogfen honno ar ffurf papur ac ar ffurf electronig a ddefnyddir yn gyffredin.

2

Pryd bynnag y bydd yn ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw gyfathrebiad oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru at y ceisydd am ganiatâd neu am adnewyddu caniatâd fod yn ysgrifenedig, bydd “ysgrifenedig” yn cynnwys cyfathrebiad electronig.

3

Rhaid i unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn iddynt fod yn ysgrifenedig ac nad ydynt yn dod o dan ddarpariaethau paragraff (1) neu (2) uchod fod ar ffurf papur.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIGOLLWNG ORGANEDDAU YN FWRIADOL AT UNRHYW DDIBEN AC EITHRIO EU GOSOD AR Y FARCHNAD

Y gofyniad am ganiatâd i ollwngI99

Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â gollwng unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau lle bwriedir gollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Gweithgareddau esemptI1010

Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(7) o'r Ddeddf lle mae personau yn esempt rhag gofynion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'r gofynion hynny yn gymwys i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, yw'r holl achosion ac amgylchiadau lle mae gollwng yn unol â chaniatâd a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1)(a) o'r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig neu lle mae cynnyrch a gymeradwywyd yn cael ei ollwng yn unol â'r amodau a'r cyfyngiadau y mae defnyddio'r cynnyrch yn ddarostyngedig iddynt.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Ceisiadau am ganiatâd i ollwng — darpariaethau cyffredinolI1111

1

Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gael ei wneud yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Caniateir hysbysu gollyngiadau arfaethedig o'r un organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig ar yr un safle neu ar safleoedd gwahanol at yr un diben ac o fewn cyfnod penodedig mewn un cais.

3

Pan fynegir bod cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn dibynnu ar Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd), os bydd unrhyw anghysondeb yn y gofynion ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan y Penderfyniad hwnnw a'r gofynion ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w darparu o dan y Rheoliadau hyn, darpariaethau'r Penderfyniad hwnnw fydd yn trechu.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i ollwngI1212

1

Rhaid i gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig gynnwys—

a

F21yn ddarostyngedig i baragraff (1A), yr wybodaeth a ragnodir yn—

i

Atodlen 1 pan fo'r cais am ganiatâd i ollwng unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu

ii

Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,

F22...

b

gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau, a gynhaliwyd gan y ceisydd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol ar gyfer gollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau, y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf neu i unrhyw awdurdod cymwys arall yn unol ag Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol,

c

asesiad risg amgylcheddol, a baratowyd yn unol â rheoliad 7,

ch

crynodeb ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol, o'r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais.

F20d

crynodebau o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais a’u canlyniadau, gan gynnwys esboniad o’u perthnasedd i’r asesiad risg amgylcheddol, fel y bo’n briodol.

F191A

Dim ond os oes ei hangen er mwyn cwblhau asesiad risg amgylcheddol yng nghyd-destun cais penodol y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1)(a), a gall lefel y manylder y mae rhaid ei ddarparu amrywio yn ôl natur a graddfa’r gollyngiad bwriadol arfaethedig.

3

Caiff y cais gynnwys—

a

data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi o gytundeb ysgrifenedig y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais, a

b

mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac

c

unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.

3

Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (2)(b).

Hysbysebu cais am ganiatâd i ollwngI1313

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod fan bellaf ar ôl iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, beri i hysbysiad yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol gael ei gyhoeddi mewn cyhoeddiadau sydd i'w pennu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

enw a chyfeiriad y ceisydd,

b

disgrifiad cyffredinol o'r organeddau sydd i'w gollwng,

c

lleoliad a diben y gollyngiad,

ch

dyddiad neu ddyddiadau arfaethedig y gollyngiad,

d

datganiad y caiff gwybodaeth am y cais ei gosod ar y gofrestr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn deuddeg diwrnod i'r cais ddod i law,

dd

drwy ba fodd y gellir archwilio'r gofrestr,

e

datganiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo mewn perthynas â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig o fewn cyfnod y bydd yn ei bennu yn unol â'r Rheoliadau hyn,

a rhaid iddo anfon copi o'r cyhoeddiad sy'n cynnwys yr hysbyseb yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Nid oes rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) uchod gynnwys yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraffau (c) ac (ch) o'r paragraff hwnnw i'r graddau nad yw'r Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi'i Symleiddio (planhigion cnwd) yn ei gwneud yn ofynnol i'r wybodaeth honno gael ei chyflwyno gyda'r cais ac nad yw'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno gyda'r cais.

3

Rhaid i geisydd am ganiatâd ddarganfod oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru lefel y manylion ar gyfer y man gollwng a gaiff eu gosod ar y gofrestr a chynnwys yr un lefel o fanylion yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi o dan baragraff (1) uchod.

4

Rhaid i berson sy'n gwneud cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, o fewn deg diwrnod wedi iddo anfon y cais hwnnw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, hysbysu'r personau canlynol yn ysgrifenedig ei fod wedi gwneud y cais a rhaid iddo gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw yr wybodaeth a ragnodwyd ym mharagraff (1)(a) i (e), ac eithrio i'r graddau y mae paragraff (2) yn caniatáu i'r fath wybodaeth gael ei heithrio o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

a

yr awdurdod lleol ac unrhyw gynghorau cymuned ar gyfer ardal neu ardaloedd pob gollyngiad arfaethedig,

b

perchenog neu berchnogion y safle neu safleoedd pob gollyngiad arfaethedig, os yw'n berson heblaw am y ceisydd,

F12c

unrhyw berson, neu unrhyw aelod o bwyllgor diogelwch addasu genetig, y mae’n rhaid cael cyngor ganddo o dan reoliad 8 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014,

ch

Cymdeithas Awdurdodau Parc Cenedlaethol,

d

F9Corff Adnoddau Naturiol Cymru ,

F10dd

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

a rhaid iddo anfon copïau o'r hysbysiadau yn ddi-oed i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darpariaethau trosiannol ar gyfer gollwngI1414

Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn 31 Rhagfyr 2002 yn unol â Rheoliadau 1992 ac nad yw wedi penderfynu'r cais eto—

a

bydd y cais yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn;

b

rhaid i'r ceisydd gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at yr wybodaeth sydd wedi'i darparu eisoes mewn cysylltiad â'r cais, unrhyw wybodaeth bellach sy'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn erbyn 17 Ionawr 2003;

c

rhaid trin y cais fel un sydd wedi'i anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion rheoliadau 13(1) a (4) ac sydd wedi dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion rheoliad 21 pan fydd yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (b) wedi'i chyflwyno; ac

ch

os nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (b) wedi'i chyflwyno erbyn 17 Ionawr 2003, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod bwrw ymlaen â'r cais.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIIGOSOD ORGANEDDAU AR Y FARCHNAD FEL CYNHYRCHION NEU MEWN CYNHYRCHION

Y gofyniad am ganiatâd i farchnataI1515

Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 111(1)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau mewn perthynas â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Gweithgareddau esemptI1616

1

Yr achosion a'r amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adrannau 108(7) a 111(7) o'r Ddeddf lle mae personau yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (i gynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (i sicrhau caniatâd), yn ôl eu trefn, i'r graddau y maent yn ymwneud â marchnata organeddau a addaswyd yn enetig yw'r holl achosion ac amgylchiadau—

a

lle mae cynnyrch a gymeradwywyd yn cael ei farchnata at ddefnydd y mae wedi'i gymeradwyo ar ei gyfer F4ac yn unol â'r cyfyngiadau a'r amodau y mae defnydd y cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt ;

b

lle mae micro-organeddau a addaswyd yn enetig wedi'u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig;

c

lle mae organeddau a addaswyd yn enetig ac eithrio micro-organeddau sy'n dod o dan baragraff (b) wedi'u rhoi ar gael i'w defnyddio'n unig ar gyfer gweithgareddau lle mae mesurau amgáu llym priodol yn seiliedig ar yr un egwyddorion o amgáu â'r rhai a bennir yn y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig er mwyn cyfyngu ar y cysylltiad rhyngddynt â'r boblogaeth yn gyffredinol a'r amgylchedd a sicrhau lefel uchel o ddiogelwch iddynt;

ch

lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi'u rhoi ar gael i'w defnyddio'n unig ar gyfer gollyngiadau bwriadol sy'n cydymffurfio â'r gofynion a nodwyd yn Rhan II;

d

lle mae organedd a addaswyd yn enetig ac a awdurdodwyd o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2309/9316, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn EC Rhif 649/98 F7neu Reoliad (EC) Rhif 726/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefnau'r Gymuned ar gyfer awdurdodi a goruchwylio cynhyrchion meddyginiaethol at ddefnydd pobl ac anifeiliaid a sefydlu Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop17, yn cael ei farchnata; neu

F13F5dd

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3e

lle mae bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig neu a awdurdodwyd o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn cael ei farchnata.

Cais am ganiatâd i farchnataI1717

1

Rhaid gwneud cais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Rhaid i gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig nad yw'n gais am adnewyddu caniatâd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

a

F25yn ddarostyngedig i baragraff (2A), yr wybodaeth a ragnodir yn—

i

F27Atodlen 1A pan fo'r cais yn gais am ganiatâd i farchnata unrhyw uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig, neu

ii

Atodlen 2 mewn unrhyw achos arall,

F26...

b

gwybodaeth am ddata neu ganlyniadau o unrhyw ollyngiad blaenorol o'r organeddau, neu o'r un cyfuniad o organeddau a gyflawnwyd gan y ceisydd naill ai y tu mewn neu'r tu allan i'r F8Undeb Ewropeaidd, a gwybodaeth o unrhyw gais blaenorol am ganiatâd i ollwng yr organeddau, neu'r un cyfuniad o organeddau y mae'r ceisydd wedi'i wneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn neu i awdurdod cymwys arall yn unol ag adran 6 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

c

asesiad risg amgylcheddol a baratowyd yn unol â rheoliad 7;

ch

yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 3;

d

yr amodau arfaethedig ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys amodau penodol ar gyfer ei ddefnyddio a'i drin;

dd

cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd na fydd yn hwy na deng mlynedd;

e

cynllun monitro wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol y mae'n rhaid iddo gynnwys cynnig ar gyfer cyfnod amser y cynllun a all fod yn wahanol i'r cyfnod arfaethedig ar gyfer y caniatâd;

f

cynnig ar gyfer labelu sy'n cydymffurfio â'r gofynion a bennwyd yn Atodlen 3;

ff

cynnig ar gyfer y pacediad;

g

crynodeb o'r cais ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol;

F24ng

mewn cysylltiad â phob is-set o wybodaeth sy’n ofynnol yn y paragraff hwn—

i

crynodebau o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais a’u canlyniadau, gan gynnwys esboniad o’u perthnasedd i’r asesiad risg amgylcheddol, fel y bo’n briodol,

ii

manylion yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn y cais, gan gynnwys y deunyddiau a’r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at ddulliau safonedig neu ddulliau a gydnabyddir yn rhyngwladol ac enw’r corff neu’r cyrff sy’n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau hynny.

F232A

Dim ond os oes ei hangen er mwyn cwblhau asesiad risg amgylcheddol yng nghyd-destun cais penodol y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)(a), a gall lefel y manylder y mae rhaid ei ddarparu amrywio yn ôl natur a graddfa’r gollyngiad arfaethedig o ganlyniad i farchnata uwchblanhigyn a addaswyd yn enetig.

3

Caiff y cais gynnwys hefyd—

a

data neu ganlyniadau o gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig a wnaed yn flaenorol gan rywun arall, ar yr amod bod copi ysgrifenedig o gytundeb y person hwnnw yn cael ei gynnwys yn y cais,

b

mynegiad o'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno yn y cais, y gallai ei datgelu niweidio safle cystadleuol y ceisydd ac y dylid felly ei thrin yn gyfrinachol, ac

c

unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol ym marn y ceisydd.

4

Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir yn unol ag is-baragraffau (2)(a) ac (ch) gymryd i ystyriaeth amrywiaeth y safleoedd sy'n defnyddio organeddau a addaswyd yn enetig a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth am unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ymchwil a gollyngiadau datblygiadol ar effaith y gollyngiadau ar iechyd dynol a'r amgylchedd;

5

Rhaid i gyfiawnhad y gellir ei ddilysu gyd-fynd ag unrhyw fynegiad yn unol â pharagraff (3)(b).

6

Pan fydd y ceisydd yn gallu dangos yn ei gais er bodlonrwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar sail canlyniadau unrhyw ollyngiad gan ddilyn ac yn unol â chaniatâd a roddwyd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf o dan Ran B o naill ai'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Gyfarwyddeb 1990, neu am resymau gwyddonol rhesymegol sylweddol eraill, nad yw marchnata a defnyddio'r cynnyrch yn peri risg o niweidio'r amgylchedd, gall gynnig peidio â chyflenwi rhan neu'r cyfan o'r wybodaeth ragnodedig yn Rhan II o Atodlen 3.

Darpariaeth drosiannol ar gyfer marchnataF14I1818

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Mesurau trosiannol ar gyfer presenoldeb damweiniol neu dechnegol anochel deunydd a addaswyd yn enetig sydd wedi elwa o werthusiad risg ffafriolF1518A

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnataI1919

1

Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig, o dan adran 111(1) o'r Ddeddf, rhaid i unrhyw gais am adnewyddu'r caniatâd hwnnw gael ei wneud yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

cyn 17 Hydref 2006 pan roddwyd y caniatâd cyn 17 Hydref 2002, a

b

cyn pen naw mis cyn i'r caniatâd ddirwyn i ben ym mhob achos arall.

2

Rhaid i'r cais gynnwys—

a

copi o'r caniatâd i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,

b

pan fo hynny'n gymwys, adroddiad ar ganlyniadau'r monitro a gynhaliwyd yn unol â gofynion rheoliad 29(dd),

c

unrhyw wybodaeth newydd arall sydd wedi dod ar gael mewn perthynas â'r risgiau y bydd y cynnyrch yn peri niwed i'r amgylchedd,

ch

fel y bo'n briodol, cynnig ar gyfer diwygio amodau'r caniatâd gwreiddiol neu ychwanegu atynt, gan gynnwys yr amodau sy'n ymwneud â monitro yn y dyfodol a therfynau amser y caniatâd newydd.

3

Rhaid i unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a gafodd ei roi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf cyn 17 Hydref 2002 nad oes cais i'w adnewyddu o dan baragraff (1) uchod wedi dod i law cyn 17 Hydref 2006 gael ei drin fel pe bai wedi dirwyn i ben ar y dyddiad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IVDYLETSWYDDAU AR ÔL GWNEUD CEISIADAU

Dyletswydd y ceisydd ar ôl gwneud cais am ganiatâd i ollwng neu i farchnataI2020

1

Mae'r diwygiad i adran 111 o'r Ddeddf (caniatadau y mae eu hangen gan bersonau penodol) a wnaed gan reoliad 19(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, sy'n mewnosod y canlynol fel ail frawddeg yn is-adran (b)—

  • A notice under this subsection must state the reasons for requiring the further information specified in the notice.

yn effeithiol mewn perthynas â Chymru.

2

Rhaid i geisydd am ganiatâd i ollwng neu i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw wybodaeth yn unol ag adran 111(6A) o'r Ddeddf (y gofyniad i'r ceisydd roi hysbysiad o wybodaeth newydd am risgiau o niwed i'r amgylchedd) gyflwyno yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fersiwn ddiwygiedig o'r cais gwreiddiol am ganiatâd sydd wedi'i ddiwygio i gymryd yr wybodaeth newydd i ystyriaeth.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am ganiatâd i ollwngI2121

Ar ôl cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

b

gwahodd unrhyw berson drwy gyfrwng cais sy'n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau iddo mewn perthynas â'r gollyngiad cyn diwedd cyfnod sydd i'w bennu, sef cyfnod y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe deg diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i'w law;

c

sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 30 diwrnod;

ch

archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r rheoliadau hyn;

d

gwerthuso'r risgiau y bydd yr amgylchedd yn cael ei niweidio gan y gollyngiad arfaethedig gan barchu'r asesiad risg amgylcheddol;

dd

cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy'n ymwneud â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn unol â pharagraff (b) ac unrhyw sylwadau a wnaed gan awdurdod neu awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau eraill wedi i'r Comisiwn ddosbarthu iddynt y crynodeb y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i ollwngI2222

1

Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o'r Ddeddf fel y mae'n ymwneud ag amddiffyn iechyd dynol heb gytundeb yr Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch19.

F62

rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod cydsyniad i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliadau 21(b) ac (dd) uchod ac, os daw unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21(dd) i law cyn pen y cyfnod hwnnw, cyn iddo ystyried y sylwadau hynny.

3

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfathrebu ei benderfyniad ar gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig i'r ceisydd a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i'r Comisiwn cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law a chydag unrhyw gais a fydd yn cael ei wrthod rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.

4

Ni fydd y cyfnod a ragnodwyd ym mharagraff (3) yn cynnwys—

a

unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu'n ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf bod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais ac sy'n gorffen ar y diwrnod pan fydd yr wybodaeth honno yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

b

cyfnod amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 21(b), ar yr amod na fydd yr ystyriaeth hon yn ymestyn y cyfnod o 90 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan fwy na 30 diwrnod.

5

Rhaid i ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig ei gwneud hi'n ofynnol i'r ceisydd anfon unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i asesu'r risg o beri niwed i'r amgylchedd, gyda chyfeiriad penodol, pan fo hynny'n briodol, at unrhyw gynnyrch y bwriedir ei farchnata yn y dyfodol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cwblhau'r gollyngiad ac wedi hynny, bob hyn a hyn yn ôl yr hyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn barnu ei fod yn briodol ar sail canlyniadau'r asesiad risg amgylcheddol.

6

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon i'r Comisiwn yr wybodaeth a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (5).

Amrywio neu ddiddymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetigI2323

Dim ond pan fydd gwybodaeth newydd ar gael iddo a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI2424

1

Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

b

sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon yn ddi-oed i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau;

c

archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;

ch

cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod, gan ddechrau â'r diwrnod y daeth y cais i'w law, naill ai—

i

anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi y dylai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu

ii

wrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi na ddylid marchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig;

d

sicrhau bod copi o'r cais yn cael ei anfon i'r Comisiwn pan gaiff ei fodloni ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a ragnodwyd yn rheoliad 15 a hynny heb fod yn hwyrach na phan y bydd yn anfon ei adroddiad asesu yn unol â pharagraff (ch).

2

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod—

i

ei adroddiad asesu,

ii

unrhyw wybodaeth bellach y mae wedi'i chael oddi wrth y ceisydd yn unol â chyflwyno hysbysiad o dan adran 111(6) o'r Ddeddf,

iii

unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi seilio'i adroddiad asesu arni,

yn cael eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(i), cyn pen diwedd cyfnod o naw deg diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(ii), heb fod yn gynt na phymtheg diwrnod o'r dyddiad pan anfonodd yr adroddiad asesu at y ceisydd a heb fod yn hwyrach na chant a phum diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i law.

3

Ni chaiff y cyfnodau o naw deg diwrnod a ragnodwyd ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI2525

1

Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n dangos y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata a naill ai—

a

nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

b

bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 15(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 105 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

c

os oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.

2

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn o'i benderfyniad i roi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o roi ei ganiatâd.

3

At y diben o gyfrifo'r cyfnod o bedwar deg pum diwrnod terfynol y cant a phum diwrnod yn is-baragraff (1)(b) uchod, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod pan ddisgwylir gwybodaeth bellach gan y ceisydd.

4

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan roddwyd y caniatâd.

5

At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig neu epil o'r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig a'r epil hwnnw wedi'i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae'r amrywiad planhigyn wedi'i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig o dan ddarpariaethau perthnasol y F8UE bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gatalog cenedlaethol swyddogol o'r amrywiadau planhigion yn unol â Chyfarwyddebau 2002/53/EC20 a 2002/55/EC21 fel y'u diwygiwyd.

6

At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi'i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf y deunydd sylfaenol sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gofrestr genedlaethol swyddogol o ddeunydd sylfaenol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC22.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI2626

1

Wrth gael cais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

a

hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

b

archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;

c

naill ai—

i

anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 ac sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu

ii

gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu sy'n nodi na ddylid parhau i farchnata'r organedd a addaswyd yn enetig;

ch

sicrhau bod copi o'r cais a'i adroddiad asesu yn cael ei anfon i'r Comisiwn.

2

Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI2727

1

Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig a naill ai—

a

nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

b

bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb eu penderfynu wedi'u datrys yn unol ag Erthygl 17(8) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 75 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn ei adroddiad asesu, neu

c

bod gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.

2

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod yr awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn yn cael eu hysbysu o'i benderfyniad i adnewyddu'r caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o'i adnewyddu.

3

Caiff caniatâd a adnewyddwyd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm o 10 mlynedd oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod modd cyfiawnhau cyfnod byrrach neu gyfnod hwy, ac os felly rhaid iddo roi ei resymau yn ysgrifenedig.

4

Caiff y ceisydd barhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig o dan yr amodau a bennwyd yn y caniatâd gwreiddiol hyd nes y bydd y cais wedi'i benderfynu'n derfynol.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotigI2828

1

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi caniatâd ar gyfer cais am ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig a allai gael effaith andwyol ar iechyd dynol a'r amgylchedd ar ôl—

i

31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata, a

ii

31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau.

2

Os cyn 31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata a 31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau, y mae cais yn cael ei wneud am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru werthuso'r wybodaeth yn yr asesiad amgylcheddol sy'n mynd gyda'r cais, gan ystyried yn benodol y marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig hynny a ddefnyddir ar gyfer triniaethau meddygol neu filfeddygol, gyda'r nod o ganfod a diddymu'n raddol y weithred o ollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VDARPARIAETHAU CYFFREDINOL AR GYFER CANIATADAU

Darpariaethau cyffredinol caniatadau i farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI2929

Rhaid i ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 111(1) o'r Ddeddf bennu—

a

cwmpas y caniatâd, gan gynnwys pa rai yw'r organeddau a addaswyd yn enetig sydd i'w marchnata, a'u marc adnabod unigryw;

b

y cyfnod pan fydd y caniatâd yn ddilys;

c

yr amodau ar gyfer marchnata'r cynnyrch, gan gynnwys unrhyw amodau penodol ar gyfer defnyddio, trafod a phecynnu'r organeddau a addaswyd yn enetig, a'r amodau ar gyfer diogelu ecosystemau penodol neu amgylcheddau neu ardaloedd daearyddol fel y bo'n gymwys;

ch

bod rhaid i'r ceisydd sicrhau bod samplau rheoli ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os gwneir cais amdanynt;

d

gofynion labelu, yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 3, a rhaid iddynt gynnwys gofyniad i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw enw masnachol newydd y cynnyrch ar ôl i ganiatâd gael ei roi;

dd

gofynion monitro y mae yn rhaid iddynt fod yn unol â'r cynllun monitro, a rhaid iddynt gynnwys cyfnod amser y cynllun monitro, rhwymedigaeth bod rhaid i'r ceisydd gyflwyno'r adroddiadau monitro i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau a, phan fo hynny'n briodol, unrhyw rwymedigaethau sydd ar unrhyw berson sy'n gwerthu'r cynnyrch neu unrhyw ddefnyddiwr i ddarparu gwybodaeth am lefel briodol ar leoliad yr organeddau a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Amodau cyffredinol mewn caniatadau i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetigI3030

1

Mae'r diwygiadau i adran 112 o'r Ddeddf (caniatadau: cyfyngiadau ac amodau) a wnaed gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.

2

Mae'r diwygiad i is-adran (1) a wnaed gan reoliad 29(2) o'r rheoliadau hynny, sy'n mewnosod ar ddiwedd yr is-adran honno y geiriau “for the purpose of ensuring that all appropriate measures are taken to avoid damage to the environment which may arise from the activity permitted by the consent”, yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

3

Mae'r diwygiadau i is-adran (5) a wnaed gan reoliad 29(3)(a) a (b) o'r Rheoliadau hynny, fel y'u disgrifir ym mharagraff (4), yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

4

Mae'r diwygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) fel a ganlyn—

a

yn is-adran (5)(b)—

i

ar ôl “Secretary of State” mewnosodwch “forthwith”,

ii

hepgorwch is-baragraff (ii), a

iii

ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosodwch—

iii

any unforeseen event, occurring in connection with a release by him, which might affect the risks there are of damage to the environment being caused as a result of their being released;

b

rhowch yn lle is-adran (5)(c)

c

take such measures as are necessary to prevent damage to the environment being caused as a result of the release, or, as the case may be, the marketing of the organisms;

5

Mae'r diwygiad i is-adran (5) a wnaed gan reoliad 29(3)(c) o'r Rheoliadau hynny, sy'n mewnosod paragraffau (d) ac (e), yn cael ei addasu gan baragraff (6) ac, o'i addasu felly, yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

6

Ym mharagraffau (d) ac (e), fel y'u mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw, ar ôl “the Secretary of State”, yn y ddau le y mae'n digwydd, mewnosodwch “or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales”.

7

Mae testun paragraffau (d) ac (e) o is-adran (5), fel y'i mewnosodwyd gan y rheoliad hwnnw ac fel y'i addaswyd gan baragraff (6), fel a ganlyn—

d

notify the Secretary of State or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales, of the measures (if any) taken as a result of new information becoming available or an unforeseen event occurring as described in paragraph (b) (iii) above; and

e

in a case where new information becomes available or an unforeseen event so occurs, revise the information contained in his application for a consent accordingly and supply the revised information to the Secretary of State or, in relation to Wales, the National Assembly for Wales.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Prawf o gydymffurfio ag amodau'r caniatâdI3131

Mae'r diwygiad i adran 119(1) o'r Ddeddf (“Onus of proof as regards techniques and evidence”) a wnaed gan reoliad 30 o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, ac sydd ar ôl y geiriau “the accused to prove” yn mewnosod y materion a ddisgrifir yn is-adran (1A) isod:

1A

The matters referred to in subsection (1) above are—

a

in the case of an offence under section 118(1)(c) above consisting in a failure to comply with the general condition implied by section 112(5)(c) above—

i

that no measures, other than the measures taken by him, were necessary to prevent damage being caused to the environment from the release or, as the case may be, marketing of the organisms, or

ii

in a case where he took no measures, that no measures were necessary; and

b

in any other case,

  • yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth newydd am y risgiau o beri niwed i'r amgylcheddI3232

1

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon ar unwaith i'r Comisiwn ac i awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth unrhyw wybodaeth newydd sy'n dod ar gael iddo ac a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.

2

Pan fo cais am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn dod ar gael iddo, cyn bod y cais wedi'i benderfynu, caiff geisio dod i gytundeb gyda'r Comisiwn a'r Aelod-wladwriaethau eraill yn unol ag Erthygl 15(1) neu 17(7) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol fel y bo'n gymwys.

3

Pan fo cais am ganiatâd neu gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig wedi'i gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad (1) wedi dod ar gael iddo wedi i'r caniatâd gael ei roi neu ei adnewyddu, rhaid iddo sicrhau bod adroddiad asesu wedi'i baratoi yn unol ag Atodlen 4, yn nodi a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut, neu a ddylid dirymu'r caniatâd , yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 60 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr wybodaeth newydd i law.

4

Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi nodi y dylid amrywio'r caniatâd a naill ai—

a

bod dim gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

b

bod gwrthwynebiad neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob mater a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 20(3) o'r Gyfarwyddeb Gollyniadau Bwriadol,

rhaid iddo amrywio neu ddirymu'r caniatâd fel y'i cynigiwyd a hysbysu'r ceisydd, awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn ei fod wedi gwneud hynny o fewn 30 diwrnod i hynny.

5

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio ag amrywio na dirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf ac eithrio—

i

os yw'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi dod ar gael iddo, ac os cydymffurfiwyd â'r weithdrefn y cyfeirir ati ym mharagraffau (3) a (4), neu

ii

yn unol â phenderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthyglau 18(1) neu 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIAMDDIFFYNIAD

AmddiffyniadI3333

1

Dim ond os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn y byddai gweithred a awdurdodwyd drwy ganiatâd a roddwyd ganddo o dan adran 111 o'r Ddeddf neu drwy ganiatâd a roddwyd ar gyfer cynnyrch a gymeradwywyd yn golygu risg o beri niwed i'r amgylchedd wedi'i seilio ar resymau manwl o ganlyniad i'r naill neu'r llall o'r canlynol, sef—

a

gwybodaeth newydd neu ychwanegol a roddwyd ar gael ers dyddiad rhoi'r caniatâd sy'n effeithio ar yr asesiad risg amgylcheddol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw; neu

b

ailasesiad o'r wybodaeth bresennol mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw ar sail gwybodaeth wyddonol newydd neu ychwanegol, y caiff gyflwyno hysbysiad gwahardd o dan adran 110 o'r Ddeddf i wahardd gweithred o'r fath.

2

Os, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd ym mharagraff (1) uchod, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod y risg o beri niwed i'r amgylchedd yn ddifrifol rhaid iddo gyflwyno hysbysiad gwahardd sy'n yn ei gwneud hi'n ofynnol i gymryd unrhyw fesurau y mae'n barnu eu bod yn briodol ac unwaith y bydd unrhyw waith sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad wedi'i gyflawni rhaid iddo gofnodi manylion y gwaith hwnnw ar y gofrestr.

3

Mewn achosion y mae paragraff (1) a (2) uchod yn gymwys iddynt, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill yn ddi-oed am ei weithgareddau gan roi iddynt ar yr un pryd—

a

ei resymau dros gymryd camau o'r fath,

b

canlyniadau ei adolygiad o'r asesiad risg amgylcheddol,

c

ei farn ynghylch a ddylid amrywio amodau'r caniatâd, ac, os felly, sut y dylid dirymu'r caniatâd, neu a ddylid gwneud hynny, ac

ch

pan fo hynny'n briodol, yr wybodaeth newydd neu ychwanegol yr oedd ei benderfyniad i weithredu wedi'i seilio arni.

4

Bydd hysbysiad gwahardd a gyflwynir o dan adran 110 o'r Ddeddf yn unol â'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a fabwysiedir gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 23(2) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

5

Pan ddaw hysbysiad o benderfyniad gan y Comisiwn, y mae paragraff (4) yn cyfeirio ato, i law, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi ohono at ddeiliad y caniatâd y mae'r penderfyniad yn ymwneud ag ef, rhaid iddo dynnu'n ôl yr un pryd unrhyw hysbysiad gwahardd sy'n anghyson â'r penderfyniad hwnnw.

6

Rhaid trin cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at arfer swyddogaeth o dan adran 110 o'r Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn unrhyw achos y mae adran 126(3) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, fel cyfeiriadau at y ffaith bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd23 yn gweithredu ar y cyd.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIICYFRINACHEDD

CyfrinacheddI3434

1

At ddibenion adran 123(7) o'r Ddeddf, mae'r disgrifiadau canlynol o wybodaeth hefyd yn wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys er budd y cyhoedd yn y gofrestr hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno yn fasnachol gyfrinachol—

a

lleoliad gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hwy,

b

y defnydd y bwriedir ei wneud o'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef,

c

yr asesiad risg amgylcheddol,

ch

y dulliau a'r cynlluniau ar gyfer monitro ac ar gyfer ymateb i argyfwng mewn perthynas â'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef,

d

enw a chyfeiriad deiliad caniatâd y mae hysbysiad gwahardd neu wybodaeth arall yn ymwneud ag ef.

2

Mae diwygiadau adran 123(7) o'r Ddeddf (peidio â chynnwys gwybodaeth benodol yn y gofrestr: manylion sy'n cael eu cynnwys hyd yn oed os ydynt yn fasnachol gyfrinachol) a wnaed gan reoliad 33(2) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, sydd—

a

ar ôl “section 122(1)(a)”, yn mewnosod “(c),”,

b

ym mharagraff (b) yn lle “the description” yn rhoi “the general description”, ac

c

yn hepgor paragraffau (c) ac (e),

yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIIIY GOFRESTR GWYBODAETH

Gwybodaeth sydd i'w chynnwys ar y gofrestrI3535

1

Rhaid i'r gofrestr gynnwys y manylion a nodir ym mharagraffau (2) i (10).

2

Mewn perthynas â hysbysiad gwahardd a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 110 o'r Ddeddf—

a

enw a chyfeiriad y person y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo,

b

disgrifiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r hysbysiad yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â hwy,

c

y man lle bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig,

ch

at ba ddiben y bwriedir gollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig,

d

y rheswm dros gyflwyno'r hysbysiad,

dd

unrhyw ddyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw'r gwaharddiad i rym.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—

a

enw a chyfeiriad y ceisydd,

b

disgrifiad cyffredinol o'r organedd a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn cael ei wneud mewn perthynas ag ef,

c

y man lle bwriedir gollwng yr organeddau, i'r graddau y mae'r wybodaeth hon wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,

ch

at ba ddiben arfaethedig y bwriedir gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys unrhyw ddefnydd y bwriedir ar eu cyfer yn y dyfodol) neu, mewn perthynas â chaniatâd i farchnata, at ba ddiben y byddant yn cael eu marchnata,

d

dyddiad arfaethedig eu gollwng,

dd

yr asesiad risg amgylcheddol,

e

y dulliau a'r cynlluniau ar gyfer monitro'r organeddau a addaswyd yn enetig ac ar gyfer ymateb i argyfwng, ac

f

crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod cais i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, a naill ai—

i

yr amodau neu'r cyfyngiadau y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori y dylid rhoi'r caniatâd yn unol â hwy, neu

ii

crynodeb o'r rhesymau pam y mae'r Pwyllgor hwnnw wedi cynghori na ddylid rhoi'r caniatâd.

4

Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymwybodol neu os daw'n ymwybodol fod gwybodaeth ynglŷn ag organeddau a addaswyd yn enetig neu ynglŷn â diben eu gollwng neu eu marchnata wedi'i gyhoeddi a bod honno'n fanylach na'r hyn a fyddai'n bodloni gofynion paragraff (3) uchod, rhaid iddo nodi cymaint o'r wybodaeth fanylach honno ar y gofrestr ag y bydd yn ystyried yn briodol.

5

Mewn perthynas â chaniatadau a roddir o dan adran 111(1) o'r Ddeddf—

a

copi o'r caniatâd, a chyfeiriad at y cais y cafodd ei roi mewn perthynas ag ef,

b

unrhyw wybodaeth a gyflenwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd,

c

y ffaith bod y caniatâd wedi cael ei amrywio neu ei ddiddymu, cynnwys yr hysbysiad y cafodd y caniatâd ei amrywio neu ei ddirymu ganddo, a chopi o'r caniatâd wedi'i amrywio,

ch

crynodeb o unrhyw gyngor y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i gael oddi wrth y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ollyngiadau i'r Amgylchedd ynghylch a ddylid amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig.

6

Yr wybodaeth ganlynol ynghylch y risg y byddai niwed yn cael ei beri i'r amgylchedd gan organeddau a addaswyd yn enetig—

a

unrhyw wybodaeth a ddarperir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 111(6A) neu 112(5)(b)(i) o'r Ddeddf,

b

unrhyw wybodaeth ynglŷn â digwyddiad anrhagweledig sy'n digwydd mewn cysylltiad â gollyngiad organedd a addaswyd yn enetig a allai effeithio ar y risgiau sy'n bodoli o beri niwed i'r amgylchedd a'r wybodaeth honno wedi'i hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 112(5)(b)(iii) o'r Ddeddf.

7

Copi o unrhyw ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig a roddwyd gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall.

8

Lleoliad unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig a dyfwyd yng Nghymru yn unol â chaniatâd i farchnata i'r graddau y mae'r wybodaeth honno yn cael ei chymhwyso i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â'r gofynion monitro a bennwyd ar gyfer y caniatâd.

9

Unrhyw benderfyniad a fabwysiadwyd gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

10

Mewn perthynas â chollfarnau am unrhyw dramgwydd o dan adran 118 o'r Ddeddf—

a

enw a chyfeiriad y person a gafwyd yn euog,

b

disgrifiad o unrhyw organeddau a addaswyd yn enetig y cafwyd y gollfarn mewn perthynas â hwy,

c

y dramgwydd a gyflawnwyd,

ch

y gosb a bennwyd ac unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 120 o'r Ddeddf.

Annotations:
Commencement Information
I35

Rhl. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cadw'r gofrestrI3636

1

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(2) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o gyflwyno'r hysbysiad gwahardd.

2

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraffau (a) i (e) o reoliad 35(3) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o'r adeg y mae'r cais am ganiatâd i ollwng neu farchnata wedi dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru .

3

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(3)(f) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o adeg rhoi neu wrthod y caniatâd.

4

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(a) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod o roi neu wrthod y caniatâd.

5

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(b) ac (ch) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn deuddeg diwrnod ar ôl iddi ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(5)(c) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o adeg dirymu neu amrywio'r caniatâd.

7

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(6) a 35(10) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

8

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(7) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

9

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(8) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y daeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

10

Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 35(9) gael ei gosod ar y gofrestr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o'r adeg y cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hysbysu o'r penderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I36

Rhl. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cyhoeddi sylwadauI3737

1

Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl rhoi caniatâd neu wrthod cais am ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, drefnu bod manylion o ble a phryd y gellir archwilio copïau papur o'r sylwadau a gafwyd ar gael i'r cyhoedd drwy ba ddull bynnag y bydd yn barnu ei fod yn briodol.

2

Ni fydd paragraff (1) yn ei gwneud hi'n ofynnol i drefnu bod copïau o'r sylwadau ar gael i'r cyhoedd pan fônt yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a bod y person sy'n cyflwyno'r sylwadau wedi gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin yr wybodaeth honno yn gyfrinachol.

Annotations:
Commencement Information
I37

Rhl. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IXAMRYWIOL

Yr egwyddor ragofalusI3838

Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran VI o'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd i ystyriaeth yr egwyddor ragofalus.

Annotations:
Commencement Information
I38

Rhl. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

DirymiadauI3939

Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 5 yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honNo.

Annotations:
Commencement Information
I39

Rhl. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cymhwyso Rhan VI o'r Ddeddf i'r môr tiriogaetholI4040

1

Mae diwygiad adran 127(2) o'r Ddeddf (diffiniadau ayb: cymhwyso i'r môr tiriogaethol) a wnaed gan reoliad 38(a) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 yn effeithiol hefyd mewn perthynas â Chymru.

2

Yn adran 127(2), o'i diwygio felly, ar ôl “as it applies in England” mewnosodwch “and applies to the territorial sea adjacent to Wales as it applies in Wales”.

Annotations:
Commencement Information
I40

Rhl. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cymhwyso Rhan VI o'r Ddeddf i GymruI4141

O ganlyniad i'r ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau 4, 5, 20(1), 30, 31, 34(2) a 40, mae effaith adran 163A o'r Ddeddf yn peidio.

Annotations:
Commencement Information
I41

Rhl. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199824

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM F29uwchblanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â marchnata NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

F30Rheoliad 12

Annotations:

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

I421

Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac am ollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiad, ac am ei ddiogelwch.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I432

Teitl y prosiect.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN

I443

Enw llawn y planhigyn—

a

enw teuluol,

b

genws,

c

rhywogaeth,

ch

isrywogaeth,

d

llinell cyltifar/fridio,

dd

enw cyffredin.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I454

Gwybodaeth ynghylch—

a

atgenhedliad y planhigyn:

i

dull neu ddulliau atgenhedlu,

ii

unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,

iii

amser cenhedliad; a

b

cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I465

Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:

a

ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

b

unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I476

Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:

a

dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a

b

unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I487

Dosbarthiad daearyddol y planhigyn F28yn Ewrop .

I498

Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I509

Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ADDASIAD GENETIG

I5110

Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I5211

Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I5312

Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw'r organedd neu'r organeddau rhoi pob rhan cyfansoddol o'r rhanbarth lle bwriedir eu cynnwys.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG

I5413

Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I5514

Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:

a

maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,

b

maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,

c

rhif copi y mewnosodiad, a

ch

lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I5615

Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—

a

gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

b

y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

F3115A

Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig.

15B

Casgliadau am nodweddiad moleciwlaidd y planhigyn a addaswyd yn enetig.

I5716

Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—

a

modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,

b

gwasgariad,

c

y gallu i oroesi.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I5817

Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

F3219

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3220

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3221

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3222

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3223

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I6024

Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6125

Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

RHAN 4AGwybodaeth am feysydd penodol sy’n peri risg

I59F3218

Gwybodaeth am—

a

unrhyw newid i barhausrwydd neu ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig a’i allu i drosglwyddo deunydd genetig i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

b

unrhyw newid i allu’r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

c

mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r organeddau targed, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

ch

newidiadau posibl i ryngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed o ganlyniad i’r addasiad genetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

d

newidiadau posibl i arferion amaethyddol a dulliau rheoli’r planhigyn a addaswyd yn enetig o ganlyniad i’r addasiad genetig, os yw hynny’n gymwys, a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

dd

y rhyngweithiadau posibl â’r amgylchedd anfiotig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

e

unrhyw effeithiau gwenwynig, effeithiau alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy’n deillio o’r addasiad genetig,

f

casgliadau am y meysydd penodol sy’n peri risg.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VGWYBODAETH YNGHYLCH SAFLE'R GOLLYNGIAD

F33...

Annotations:

I6226

Lleoliad a maint safle'r gollyngiad neu safleoedd y gollyngiadau.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6327

Disgrifiad o ecosystem safle'r gollyngiad, gan gynnwys hinsawdd, fflora a ffawna.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6428

Manylion unrhyw rywogaethau perthnasau gwyllt neu rywogaethau planhigion trin sy'n gydweddol yn rhywiol ac yn bresennol yn safleoedd y gollyngiadau.

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6529

Agosrwydd safleoedd y gollyngiadau at fiotopau a gydnabyddir yn swyddogol neu ardaloedd gwarchodedig y gall gollyngiadau effeithio arnynt.

Annotations:
Commencement Information
I65

Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD

F34...

Annotations:

I6630

Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.

Annotations:
Commencement Information
I66

Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6731

Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.

Annotations:
Commencement Information
I67

Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6832

Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I6933

Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.

Annotations:
Commencement Information
I69

Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I7034

Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIIGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF

F35...

Annotations:

I7135

Disgrifiad o—

a

unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.

b

unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).

Annotations:
Commencement Information
I71

Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I7236

Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I72

Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I7337

Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I73

Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I7438

Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.

Annotations:
Commencement Information
I74

Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I7539

Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.

Annotations:
Commencement Information
I75

Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I7640

Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.

Annotations:
Commencement Information
I76

Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIIIGWYBODAETH AM FETHODOLEG

I7741

Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.

Annotations:
Commencement Information
I77

Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

F36ATODLEN 1AYr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig

Rheoliad 17

Annotations:

RHAN 1Gwybodaeth gyffredinol

1

Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro’r gollyngiadau ac am eu diogelwch.

2

Dynodiad a manyleb y planhigyn a addaswyd yn enetig, a chwmpas y cais, ac yn benodol a yw’r cais mewn cysylltiad ag amaethu, at ryw ddiben arall (y mae rhaid ei bennu), neu’r ddau.

RHAN 2Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r planhigyn rhieniol neu’r planhigyn derbyn

3

Enw llawn y planhigyn—

a

enw teuluol,

b

genws,

c

rhywogaeth,

ch

isrywogaeth,

d

llinell cyltifar neu linell fridio,

e

enw cyffredin.

4

Gwybodaeth ynghylch—

a

atgenhedliad y planhigyn—

i

dull neu ddulliau atgenhedlu,

ii

unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar atgenhedlu,

iii

amser cenhedliad, a

b

cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau eraill a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill, gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

5

Gwybodaeth ynghylch gallu’r planhigyn i oroesi—

a

ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

b

unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar ei allu i oroesi.

6

Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn—

a

dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill hyfyw neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny’n gymwys) y gwasgariad, a

b

unrhyw ffactorau penodol sy’n effeithio ar wasgariad.

7

Dosbarthiad daearyddol y planhigyn yn Ewrop.

8

Pan fo’r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw’n cael ei dyfu yn arferol yn Ewrop, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.

9

Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy’n berthnasol i’r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ac organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu’n arferol, neu yn rhywle arall, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.

RHAN 3Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r addasiad genetig

10

Disgrifiad o’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.

11

Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.

12

Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw’r organedd rhoi neu’r organeddau rhoi ar gyfer pob darn cyfansoddol o’r rhanbarth y bwriedir ei fewnosod.

RHAN 4Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r planhigyn a addaswyd yn enetig

13

Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig a gyflwynwyd neu a addaswyd.

14

1

Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnosodwyd neu a ddilëwyd—

a

maint a strwythur y mewnosodiad a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o’r fector a gyflwynwyd i’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw DNA cludo neu DNA estron sy’n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig,

b

maint a swyddogaeth y rhanbarth neu’r rhanbarthau a ddilëwyd, pan fo hynny’n briodol,

c

rhif copi y mewnosodiad,

ch

lleoliad isgellog unrhyw fewnosodiad yng nghelloedd y planhigyn (p’un a yw wedi ei integreiddio yn y cnewyllyn, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a’r dulliau ar gyfer ei benderfynu,

d

trefn a dilyniant y deunydd genetig ym mhob safle mewnosod ar ffurf electronig safonedig,

dd

dilyniant y DNA genomaidd o bob tu i bob safle mewnosod ar ffurf electronig safonedig,

e

dadansoddiad biowybodeg i nodi ymyriadau genynnau hysbys,

f

gwybodaeth am Fframiau Darllen Agored o fewn y mewnosodiad a Fframiau Darllen Agored sy’n cael eu creu yng nghysylltle’r mewnosodiad a’r DNA genomaidd,

ff

dadansoddiad biowybodeg i nodi unrhyw debygrwydd rhwng unrhyw Fframiau Darllen Agored sy’n cael eu creu gan yr addasiad genetig a genynnau hysbys a allai gael effeithiau andwyol,

g

y dilyniant asidau amino, ac os oes angen, strwythurau eraill proteinau a gynhyrchir o ganlyniad i’r addasiad genetig,

ng

dadansoddiad biowybodeg i nodi homologaethau dilyniannol, ac os oes angen, unrhyw debygrwydd strwythurol rhwng proteinau a gynhyrchir o ganlyniad i’r addasiad genetig a phroteinau a pheptidau hysbys ac iddynt effeithiau andwyol posibl,

h

yn achos addasiadau genetig ac eithrio mewnosod neu ddileu, gwybodaeth am swyddogaeth y deunydd genetig a dargedir gan yr addasiad genetig cyn ac ar ôl ei addasu, yn ogystal â newidiadau uniongyrchol i fynegiant y genynnau o ganlyniad i’r addasiad.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr Ffrâm Ddarllen Agored yw dilyniant niwcleotid sy’n cynnwys llinyn o godonau heb ymyrraeth codon gorffen yn yr un ffrâm ddarllen.

15

Yr wybodaeth ganlynol am fynegi’r mewnosodiad—

a

gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y DNA a fewnosodwyd neu’r DNA a addaswyd yn ystod cylch bywyd y planhigyn a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

b

y rhannau o’r planhigyn lle mae’r mewnosodiad wedi ei fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill,

c

mynegiant anfwriadol posibl Ffrâm Ddarllen Agored newydd (mae i “Ffrâm Ddarllen Agored” yr ystyr a roddir ym mharagraff 14(2)), sydd wedi deillio o fewnosod neu ddileu deunydd genetig mewn gennyn hysbys (fel a nodir o dan baragraff 14(dd)) ac sy’n codi pryder o ran diogelwch,

ch

data am fynegiant proteinau o blanhigion a addaswyd yn enetig sydd wedi eu tyfu o dan amodau maes.

16

Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig.

17

Casgliadau am nodweddiad moleciwlaidd y planhigyn a addaswyd yn enetig.

18

Yr wybodaeth ganlynol am y dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig a chyfansoddiad—

a

dewis cyfatebydd confensiynol ac unrhyw gymaryddion ychwanegol a ddefnyddiwyd mewn dadansoddiadau cymharol,

b

dewis lleoliad y safle maes ar gyfer cynhyrchu deunydd planhigion ar gyfer dadansoddiadau cymharol,

c

dyluniad yr arbrawf gan gynnwys dadansoddiad ystadegol,

ch

dewis deunydd planhigion i’w ddadansoddi, pan fo hynny’n berthnasol,

d

dadansoddiad cymharol o nodweddion agronomig a ffenotypig,

dd

dadansoddiad cymharol o gyfansoddiad, os yw’n berthnasol,

e

casgliadau’r dadansoddiad cymharol.

RHAN 5Gwybodaeth am feysydd penodol sy’n peri risg

19

Ar gyfer pob un o’r meysydd sy’n peri risg a restrir yn adran D.2 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol rhaid i’r ceisydd ddisgrifio pob llwybr a allai arwain at niwed mewn cysylltiad â gollwng planhigyn a addaswyd yn enetig, gan ystyried y peryglon a dod i gysylltiad â’r planhigyn.

20

Rhaid i’r ceisydd ddarparu—

a

yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 21 i 27, a

b

y gwerthusiad cyffredinol o risg a’r casgliadau a ddisgrifir ym mharagraff 28,

ac eithrio pan fo’r ceisydd o’r farn nad yw hynny’n berthnasol oherwydd y modd y bwriedir defnyddio’r planhigyn a addaswyd yn enetig.

21

Gwybodaeth ynghylch parhausrwydd ac ymledoldeb gan gynnwys trosglwyddo genynnau o blanhigyn i blanhigyn gan gynnwys—

a

asesiad o’r potensial i’r planhigyn a addaswyd yn enetig ddod yn fwy parhaus neu’n fwy ymledol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

b

asesiad o’r potensial i’r planhigyn a addaswyd yn enetig drosglwyddo trawsenynnau i berthnasau sy’n gydweddol yn rhywiol a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

c

casgliadau am effaith amgylcheddol andwyol parhausrwydd ac ymledoldeb y planhigyn a addaswyd yn enetig gan gynnwys effaith amgylcheddol andwyol trosglwyddo genynnau o blanhigyn i blanhigyn.

22

Gwybodaeth ynghylch trosglwyddo genynnau o blanhigyn i ficro-organedd gan gynnwys—

a

asesiad o’r potensial ar gyfer trosglwyddo DNA sydd newydd ei fewnosod o’r planhigyn a addaswyd yn enetig i ficro-organeddau a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

b

casgliadau am effaith andwyol trosglwyddo DNA sydd newydd ei fewnosod o’r planhigyn a addaswyd yn enetig i ficro-organeddau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid ac ar yr amgylchedd.

23

Gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw’n berthnasol, ag organeddau targed gan gynnwys—

a

asesiad o’r potensial ar gyfer newidiadau yn y rhyngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

b

asesiad o’r potensial ar gyfer esblygiad ymwrthedd yr organedd targed i’r protein a fynegwyd yn seiliedig ar hanes esblygiad ymwrthedd i blaladdwyr confensiynol neu blanhigion trawsenynnol sy’n mynegi nodweddion tebyg, ac unrhyw effeithiau andwyol sy’n deillio o hynny,

c

casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau targed.

24

1

Gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed gan gynnwys——

a

asesiad o’r potensial ar gyfer rhyngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau heb fod yn organeddau targed, gan gynnwys rhywogaethau gwarchodedig, a’r effaith amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

b

casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol rhyngweithiadau’r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed.

2

Rhaid i’r asesiad a ddisgrifir yn is-baragraff (1) ystyried yr effaith andwyol bosibl ar wasanaethau ecosystemau perthnasol ac ar y rhywogaethau sy’n darparu’r gwasanaethau hynny.

25

Gwybodaeth ynghylch effeithiau’r technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol gan gynnwys—

a

mewn cysylltiad â phlanhigion a addaswyd yn enetig ar gyfer amaethu, asesiad o’r newidiadau yn y technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol a ddefnyddir ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig a’r effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny,

b

casgliadau am effeithiau amgylcheddol andwyol y technegau amaethu, rheoli a chynaeafu penodol.

26

Gwybodaeth am brosesau biogeocemegol gan gynnwys—

a

asesiad o’r newidiadau posibl yn y prosesau biogeocemegol yn yr ardal lle mae’r planhigyn a addaswyd yn enetig i’w dyfu ac yn yr amgylchedd ehangach, a’r effeithiau andwyol sy’n deillio o hynny,

b

casgliadau am effeithiau andwyol ar brosesau biogeocemegol.

27

Gwybodaeth ynghylch yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid gan gynnwys—

a

asesiad o ryngweithiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol posibl rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig a phersonau sy’n gweithio gyda’r planhigyn a addaswyd yn enetig neu sy’n dod i gysylltiad ag ef, gan gynnwys drwy baill neu lwch o blanhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi ei brosesu, ac asesiad o effeithiau andwyol y rhyngweithiadau hynny ar iechyd dynol,

b

ar gyfer planhigyn a addaswyd yn enetig na fwriedir iddo gael ei fwyta gan bobl, ond pan allai’r organedd derbyn neu’r organedd rhieniol gael ei ystyried i’w fwyta gan bobl, asesiad o debygolrwydd cymeriant damweiniol a’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd dynol o ganlyniad i gymeriant damweiniol,

c

asesiad o’r effeithiau andwyol posibl ar iechyd anifeiliaid pe bai anifeiliaid yn bwyta’n ddamweiniol y planhigyn a addaswyd yn enetig neu ddeunydd o’r planhigyn hwnnw,

ch

casgliadau am yr effeithiau ar iechyd dynol ac ar iechyd anifeiliaid.

28

1

Rhaid i’r gwerthusiad cyffredinol o risg a’r casgliadau gynnwys crynodeb o bob un o’r casgliadau a bennir ym mharagraffau 21 i 27.

2

Rhaid i’r crynodeb y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ystyried y nodweddiad risg yn unol â chamau 1 i 4 o’r fethodoleg a ddisgrifir yn Adran C.3 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb Gollwng yn Fwriadol a’r strategaethau rheoli risg a gynigir yn unol â phwynt 5 o Adran C.3 o Atodiad 2 i’r Gyfarwyddeb honno.

RHAN 6Gwybodaeth ynghylch canfod ac adnabod y planhigyn a addaswyd yn enetig a gollyngiadau blaenorol ohono

30

Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.

31

Gwybodaeth ynghylch gollyngiadau blaenorol o’r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny’n gymwys.

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rheoliadau 12 a 17

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

I781

Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiadau ac am eu diogelwch.

Annotations:
Commencement Information
I78

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I792

Teitl y prosiect.

Annotations:
Commencement Information
I79

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG

Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbyn

I803

Enw gwyddonol a thacsonomi.

Annotations:
Commencement Information
I80

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I814

Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.

Annotations:
Commencement Information
I81

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I825

Marcwyr ffenotypig a genetig.

Annotations:
Commencement Information
I82

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I836

Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.

Annotations:
Commencement Information
I83

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I847

Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.

Annotations:
Commencement Information
I84

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I858

Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.

Annotations:
Commencement Information
I85

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I869

Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.

Annotations:
Commencement Information
I86

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I8710

Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.

Annotations:
Commencement Information
I87

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I8811

Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I88

Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I8912

Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—

a

dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;

b

hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;

c

gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;

ch

pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;

d

ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;

dd

rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.

Annotations:
Commencement Information
I89

Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9013

Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.

Annotations:
Commencement Information
I90

Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9114

Hanes addasiadau genetig blaenorol.

Annotations:
Commencement Information
I91

Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion y fector

I9215

Natur a ffynhonnell y fector.

Annotations:
Commencement Information
I92

Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9316

Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I93

Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9417

Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.

Annotations:
Commencement Information
I94

Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9518

Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.

Annotations:
Commencement Information
I95

Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetig

I9619

Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.

Annotations:
Commencement Information
I96

Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9720

Y dulliau a ddefnyddiwyd—

a

i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;

b

i ddileu dilyniant.

Annotations:
Commencement Information
I97

Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9821

Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.

Annotations:
Commencement Information
I98

Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I9922

Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.

Annotations:
Commencement Information
I99

Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10023

Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.

Annotations:
Commencement Information
I100

Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10124

Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.

Annotations:
Commencement Information
I101

Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetig

I10225

Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.

Annotations:
Commencement Information
I102

Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10326

Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.

Annotations:
Commencement Information
I103

Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10427

Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.

Annotations:
Commencement Information
I104

Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10528

Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo.

Annotations:
Commencement Information
I105

Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10629

Actifedd y cynnyrch genynnol.

Annotations:
Commencement Information
I106

Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10730

Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.

Annotations:
Commencement Information
I107

Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10831

Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.

Annotations:
Commencement Information
I108

Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I10932

Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.

Annotations:
Commencement Information
I109

Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11033

Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—

a

effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

b

cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

c

gallu'r organeddau i gytrefu,

ch

os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

i

yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

ii

heintusrwydd,

iii

dogn heintiol,

iv

ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

v

y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

vi

presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

vii

sefydlogrwydd biolegol,

viii

patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

ix

alergenedd, a

x

argaeledd therapïau priodol; a

d

peryglon eraill y cynnyrch.

Annotations:
Commencement Information
I110

Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R AMODAU AR GYFER GOLLWNG

Y gollyngiad

I11134

Disgrifiad o'r gollyngiad bwriadol arfaethedig, gan gynnwys diben neu ddibenion y gollyngiad ac unrhyw fwriad i ddefnyddio'r organedd a addaswyd yn enetig fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.

Annotations:
Commencement Information
I111

Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11235

Dyddiadau arfaethedig y gollyngiad ac amserlen yr arbrawf gan gynnwys amledd a hyd y gollyngiadau.

Annotations:
Commencement Information
I112

Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11336

Paratoi'r safle cyn y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I113

Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11437

Maint y safle.

Annotations:
Commencement Information
I114

Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11538

Y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I115

Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11639

Swm yr organeddau sydd i'w gollwng.

Annotations:
Commencement Information
I116

Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11740

Sut y caiff y safle ei aflonyddu, gan gynnwys math a dull yr amaethu, y cloddio, y dyfrhau neu'r gweithgareddau eraill.

Annotations:
Commencement Information
I117

Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11841

Y mesurau a gymerir i amddiffyn gweithwyr yn ystod y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I118

Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I11942

Sut y caiff y safle ei drin wedi'r gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I119

Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12043

Y technegau a ragwelir ar gyfer dileu neu sicrhau nad yw'r organeddau a addaswyd yn enetig yn actif ar ddiwedd yr arbrawf neu ddiben arall y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I120

Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12144

Gwybodaeth am ollyngiadau blaenorol yr organeddau a addaswyd yn enetig a'u canlyniadau, ac yn arbennig, gollyngiadau ar raddfeydd gwahanol neu i ecosystemau gwahanol.

Annotations:
Commencement Information
I121

Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Yr amgylchedd (ar y safle ac yn yr amgylchedd ehangach)

I12245

Lleoliad daearyddol a chyfeirnod grid cenedlaethol y safle lle bwriedir gollwng, neu'r mannau a ragwelir ar gyfer defnyddio'r cynnyrch.

Annotations:
Commencement Information
I122

Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12346

Agosrwydd ffisegol neu fiolegol safle'r organeddau a addaswyd yn enetig at bobl a biota arwyddocaol eraill.

Annotations:
Commencement Information
I123

Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12447

Agosrwydd at fiotopau arwyddocaol, ardaloedd gwarchodedig neu gyflenwadau dŵ r yfed.

Annotations:
Commencement Information
I124

Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12548

Nodweddion hinsoddol y rhanbarth neu ranbarthau y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.

Annotations:
Commencement Information
I125

Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12649

Y nodweddion daearyddol, daearegol a phriddegol.

Annotations:
Commencement Information
I126

Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12750

Y fflora a'r ffawna, gan gynnwys cnydau, da byw a rhywogaethau ymfudol.

Annotations:
Commencement Information
I127

Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12851

Disgrifiad o'r ecosystemau targed a'r rhai nad ydynt yn darged ac y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.

Annotations:
Commencement Information
I128

Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I12952

Cymhariaeth rhwng cynefin naturiol yr organeddau derbyn â safle neu safleoedd arfaethedig y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I129

Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13053

Unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau arfaethedig hysbys o ran defnydd tir yn y rhanbarth a allai ddylanwadu ar effaith amgylcheddol y gollyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I130

Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD

Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad

I13154

Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.

Annotations:
Commencement Information
I131

Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13255

Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.

Annotations:
Commencement Information
I132

Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13356

Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.

Annotations:
Commencement Information
I133

Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhyngweithiadau â'r amgylchedd

I13457

Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I134

Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13558

Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.

Annotations:
Commencement Information
I135

Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13659

Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—

a

o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,

b

o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I136

Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13760

Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I137

Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13861

Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.

Annotations:
Commencement Information
I138

Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I13962

Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.

Annotations:
Commencement Information
I139

Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14063

Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.

Annotations:
Commencement Information
I140

Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14164

Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.

Annotations:
Commencement Information
I141

Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14265

Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.

Annotations:
Commencement Information
I142

Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14366

Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I143

Atod. 2 para. 66 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14467

Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I144

Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14568

Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.

Annotations:
Commencement Information
I145

Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14669

Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.

Annotations:
Commencement Information
I146

Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14770

Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.

Annotations:
Commencement Information
I147

Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14871

Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.

Annotations:
Commencement Information
I148

Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I14972

Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.

Annotations:
Commencement Information
I149

Atod. 2 para. 72 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VGWYBODAETH AM FONITRO, RHEOLI, TRIN GWASTRAFF A CHYNLLUNIAU YMATEB MEWN ARGYFWNG

Technegau monitro

I15073

Dulliau ar gyfer olrhain yr organeddau a monitro eu heffeithiau.

Annotations:
Commencement Information
I150

Atod. 2 para. 73 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15174

Sbesiffigedd (i adnabod yr organeddau a addaswyd yn enetig ac i'w gwahaniaethu o'r rhoddwr, y derbynnydd neu, os yw'n briodol, yr organeddau rhieniol), sensitifrwydd a dibynadwyedd y technegau monitro.

Annotations:
Commencement Information
I151

Atod. 2 para. 74 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15275

Technegau ar gyfer canfod trosglwyddiad y deunydd genetig a roddwyd i organeddau eraill.

Annotations:
Commencement Information
I152

Atod. 2 para. 75 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15376

Hyd ac amlder y monitro.

Annotations:
Commencement Information
I153

Atod. 2 para. 76 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoli'r gollyngiad

I15477

Y dulliau a'r gweithdrefnau i osgoi a/neu leihau ymlediad yr organeddau a addaswyd yn enetig y tu hwnt i safle'r gollwng neu'r ardal a ddynodwyd ar gyfer eu defnyddio.

Annotations:
Commencement Information
I154

Atod. 2 para. 77 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15578

Dulliau a gweithdrefnau i amddiffyn y safle rhag ymyrraeth gan unigolion heb awdurdod.

Annotations:
Commencement Information
I155

Atod. 2 para. 78 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15679

Dulliau a gweithdrefnau i atal organeddau eraill rhag cael mynediaid i'r safle.

Annotations:
Commencement Information
I156

Atod. 2 para. 79 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Trin gwastraff

I15780

Y math o wastraff a gynhyrchir.

Annotations:
Commencement Information
I157

Atod. 2 para. 80 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15881

Faint o wastraff a ddisgwylir.

Annotations:
Commencement Information
I158

Atod. 2 para. 81 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I15982

Disgrifiad o'r driniaeth a ragwelir.

Annotations:
Commencement Information
I159

Atod. 2 para. 82 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Cynlluniau ymateb mewn argyfwng

I16083

Y dulliau a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r organeddau a addaswyd yn enetig os ydynt yn ymledu'n annisgwyl.

Annotations:
Commencement Information
I160

Atod. 2 para. 83 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I16184

Dulliau, megis difodi'r organeddau a addaswyd yn enetig, ar gyfer dadhalogi'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

Annotations:
Commencement Information
I161

Atod. 2 para. 84 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I16285

Dulliau ar gyfer gwaredu neu lanweithio planhigion, anifeiliaid, priddoedd, ac unrhyw beth arall a amlygwyd yn ystod neu ar ôl yr ymlediad.

Annotations:
Commencement Information
I162

Atod. 2 para. 85 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I16386

Dulliau ar gyfer ynysu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr ymlediad.

Annotations:
Commencement Information
I163

Atod. 2 para. 86 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I16487

Cynlluniau ar gyfer diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd rhag ofn y bydd effaith annymunol.

Annotations:
Commencement Information
I164

Atod. 2 para. 87 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan VIGWYBODAETH AM FETHODOLEG

I16588

Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.

Annotations:
Commencement Information
I165

Atod. 2 para. 88 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG

Rheoliad 17(2)(ch) ac(f) a (6)

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

I1661

Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, F16y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.

I1672

Enw a chyfeiriad F8Undeb Ewropeaidd y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.

Annotations:
Commencement Information
I167

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1683

Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.

Annotations:
Commencement Information
I168

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1694

Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.

Annotations:
Commencement Information
I169

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1705

Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn yr F8Undeb Ewropeaidd , gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.

Annotations:
Commencement Information
I170

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1716

Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.

Annotations:
Commencement Information
I171

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1727

Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.

Annotations:
Commencement Information
I172

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1738

Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn yr F8Undeb Ewropeaidd sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.

Annotations:
Commencement Information
I173

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

Rhan IIGWYBODAETH BERTHNASOL YCHWANEGOL

I1749

Y mesurau sydd i'w cymryd pe bai organeddau yn y cynnyrch yn dianc neu pe bai'r cynnyrch yn cael ei gamddefnyddio.

Annotations:
Commencement Information
I174

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I17510

Cyfarwyddiadau neu argymhellion penodol ar gyfer storio a thrafod y cynnyrch.

Annotations:
Commencement Information
I175

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I17611

Cyfarwyddiadau penodol ar gyfer monitro a hysbysu'r ceisydd ac, os yw hynny'n angenrheidiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyson â Rhan C o Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

Annotations:
Commencement Information
I176

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I17712

Y cyfyngiadau arfaethedig yn y defnydd a gymeradwywyd ar gyfer yr organedd a addaswyd yn enetig, megis lle gellir defnyddio'r cynnyrch ac at ba ddibenion.

Annotations:
Commencement Information
I177

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I17813

Y pacediad arfaethedig.

Annotations:
Commencement Information
I178

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I17914

Amcangyfrif o'r cynnyrch yn y Gymuned a/neu fewnforion iddi.

Annotations:
Commencement Information
I179

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I18015

Unrhyw labelu ychwanegol arafethedig, a allai gynnwys, o leiaf fel crynodeb, yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 4 a 5 o Ran I o'r Atodlen hon, neu baragraffau 9 i 12 o'r Rhan hon.

Annotations:
Commencement Information
I180

Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 4YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIAD ASESU

Rheoliadau 24, 26 a 32

I1811

Nodi nodweddion yr organedd derbyn sy'n berthnasol i'r asesiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I181

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1822

Disgrifiad o'r ffordd y mae'r addasiad genetig yn effeithio ar nodweddion yr organeddau.

Annotations:
Commencement Information
I182

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1833

Nodi unrhyw risgiau hysbys o newid i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng i'r amgylchedd yr organedd derbyn nas addaswyd.

Annotations:
Commencement Information
I183

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1844

Asesiad ynghylch a yw'r addasiad genetig wedi'i nodweddu'n ddigonol at ddibenion gwerthuso unrhyw risgiau i iechyd dynol a'r amgylchedd.

Annotations:
Commencement Information
I184

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1855

Dynodi unrhyw risgiau newydd i iechyd dynol a'r amgylchedd allai ddeillio o ollwng yr organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig o'i gymharu â gollwng yr organedd cyfatebol nas addaswyd yn enetig, yn seiliedig ar yr asesiad risg amgylcheddol.

Annotations:
Commencement Information
I185

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I1866

Diweddglo sy'n mynd i'r afael â defnydd arfaethedig o'r cynnyrch, rheoli risg a'r cynllun monitro arfaethedig, ac sy'n datgan a ddylid marchnata'r organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu na ddylid eu marchnata, gan gynnwys rhesymau pam y daethpwyd i'r casgliad hwnnw, ac a fwriedir gofyn am farn awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn ar agweddau penodedig yr asesiad risg amgylcheddol a beth yw'r agweddau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I186

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1(1)

I187ATODLEN 5DIRYMIADAU

Rheoliad 39

Annotations:
Commencement Information
I187

Atod. 5 mewn grym ar 31.12.2002, gweler rhl. 1

Y Rheoliadau a Ddirymwyd

Cyfeiriadau

Graddau'r dirymu

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992

O.S. 1992/3280 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993 (O.S. 1993/152), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995 (O.S. 1995/304), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1900), a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) (O.S. 2000/2831).

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993

O.S. 1993/152

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995

O.S. 1995/304

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997

O.S. 1997/1900

Rheoliad 2

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2000

O.S. 2000/2831

Rheoliad 31(2)

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd a Chyngor Ewrop (“y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”) ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig ac ar ddiddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC. Maent yn dirymu Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992 (O.S. 1992/3280) ac yn gwneud diwygiadau i Ran VI o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”). Mae naw rhan i'r Rheoliadau ac mae iddynt bum Atodlen.

Mae cynnwys y Gyfarwyddeb a'i rhagflaenydd yn ymwneud â rheoli gweithgareddau gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd a'u marchnata drwy osod gofyniad i sicrhau caniatâd ar gyfer y gweithgareddau hynny ac i gydymffurfio â'r amodau a bennwyd ar gyfer y caniatâd. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Gyfarwyddeb yn cryfhau'r gyfundrefn reoli bresennol, yn enwedig mewn perthynas â monitro ar ôl marchnata.

Cafodd Cyfarwyddeb 1990/220/EEC ei gweithredu'n rhannol gan ddarpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf (darpariaethau a oedd yn bodoli eisoes) ac yn rhannol gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso yng Nghymru y diwygiadau a wnaed i'r Ddeddf gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 ac y mae eu hangen i weithredu'r Gyfarwyddeb. Maent yn dirymu Rheoliadau 1992 hefyd.

Adran 111(1) o'r Ddeddf yw sail statudol y gofyniad i sicrhau caniatâd ar gyfer gollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig. Mae'r achosion a'r amgylchiadau pan fydd yn ofynnol cael caniatâd yn cael eu rhangnodi yn y Rheoliadau hyn. Mae gofyniad cyffredinol i sicrhau caniatâd ar gyfer gollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig yn cael ei osod gan reoliad 9 (ar gyfer gollwng) a rheoliad 15 (ar gyfer marchnata). Mae'r gofyniad hwn yn ddarostyngedig i'r esemptiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 10 (ar gyfer gollwng) a rheoliad 16 (ar gyfer marchnata).

Mae'r diffiniadau sy'n cael eu defnyddio yn y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gyfundrefn reoli wedi'u cynnwys yn adrannau 106, 107 a 127(1) o'r Ddeddf. Mae Rheoliadau 4 a 5 yn diwygio nifer o'r diffiniadau hyn i adlewyrchu'r Gyfarwyddeb. Mae Rheoliad 4 hefyd yn diwygio'r pŵ er yn adran 106 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi technegau sy'n peri bod organeddau yn dod yn organeddau “sydd wedi'u haddasu'n enetig”. Er hynny, pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, dehonglir cyfeiriadau yn y Ddeddf at “organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig” drwy gyfeirio at y technegau addasu a ddisgrifir yn rheoliad 6.

Mae Rhannau II a III o'r Rheoliadau yn gosod gofynion ar gyfer ceisiadau am ganiatâd i ollwng a marchnata, yn eu tro, organeddau sydd wedi'u haddasu'n enetig (gan gynnwys darpariaethau trosiannol).

Mae Rhan IV yn pennu'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau o'r amser y maent yn dod i law i amser eu penderfynu (ac, yn achos caniatadau i ollwng, eu hamrywio neu eu dirymu wedi hynny). Yn achos caniatadau i ollwng mae hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd ac ar gyfer caniatadau i farchnata (ac adnewyddu'r caniatadau hynny) mae'n cynnwys cytuno arnynt ar lefel y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Rhan V yn cynnwys gofynion cyffredinol ar gyfer caniatadau i farchnata ac yn diwygio adran 112 o'r Ddeddf (sy'n gosod amodau ar gyfer caniatadau). Mae'n darparu hefyd ar gyfer yr hyn a ddylai ddigwydd pan ddaw gwybodaeth newydd ar gael sy'n effeithio ar yr asesiad risg ar gyfer marchnata organedd a addaswyd yn enetig.

Mae Rhan VI yn ychwanegu at adran 110 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n caniatáu i gamau gael eu cymryd i wahardd marchnata organedd a addaswyd yn enetig y mae caniatâd wedi'i roi ar ei gyfer er mwyn cysoni hynny â chymryd “camau i amddiffyn” (“safeguard action”) o dan y Gyfarwyddeb.

Mae Rhan VII yn rhagnodi categorïau ychwanegol o wybodaeth sydd i'w chyhoeddi, er gwaethaf y ffaith y gallant fod yn fasnachol gyfrinachol, at ddibenion adran 123(7) o'r Ddeddf.

Mae Rhan VIII yn cynnwys y gofyniad i wahanol gategorïau o wybodaeth gael eu cynnwys yn y gofrestr gyhoeddus sydd i'w chadw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 122 o'r Ddeddf.

Mae Rhan IX yn cynnwys gofyniad bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd yr egwyddor ragofalus i ystyriaeth wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn. Term sy'n deillio o Erthygl 174 o'r Cytuniad i Sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd yw'r ymadrodd “precautionary principle” (“egwyddor ragofalus”). Mae rhaglith y Gyfarwyddeb yn datgan bod rhaid cymryd yr egwyddor i ystyriaeth wrth weithredu'r Gyfarwyddeb.

Mae Atodlen 1 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng neu farchnata uwchblanhigion a addaswyd yn enetig.

Mae Atodlen 2 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig heblaw am uwchblanhigion a addaswyd yn enetig.

Mae Atodlen 3 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig.

Mae Atodlen 4 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad asesu.

Mae Atodlen 5 yn pennu'r Rheoliadau sy'n cael eu dirymu gan y rheoliadau hyn.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gangen Iechyd Planhigion a Biotechnoleg, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.