http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/3226/contents/made/welsh
Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
Local Government
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Penderfyniad y Comisiwn 2002/903/EC (OJ Rhif L312, 15.11.02, t. 28) sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC (“y prif Benderfyniad”) (OJ Rhif L115, 9.5.1996, t.47) sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd camau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn cysylltiad â'r Aifft. Maent yn gwneud hynny drwy ychwanegu Penderfyniad y Comisiwn 2002/903/EC at y rhestr o offerynnau sy'n diwygio'r prif Benderfyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr Atodlen i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (OS 1998/201) (rheoliad 2). Mae penderfyniad 2002/903/EC yn adnewyddu'r gyfundrefn y gellir mewnforio tatws o dani i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer tymor 2002/2003.