2002 Rhif 324 (Cy.37)
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5), (7)(a) i (j) ac (l), 25(1), 33, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 20001, ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
RHAN ICYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwysoI11
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru.
DehongliI22
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 5(1);
ystyr “awdurdod iechyd amgylchedd” (“environmental health authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;
ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”), mewn perthynas â chartref gofal, yw'r awdurdod sy'n cyflawni swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 19473 yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;
ystyr “cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s plan”) yw'r cynllun ysgrifenedig a baratoir yn unol â rheoliad 15(1);
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi yn y cartref gofal, sydd, gyda chydsyniad pendant neu gydsyniad awgrymedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg y cartref gofal;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r daganiad a lunir yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson sy'n cael ei letya yn y cartref gofal y mae arno angen gofal nyrsio neu ofal personol oherwydd anabledd, llesgedd, salwch yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw—
- a
priod y person;
- b
unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, ŵ yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;
- c
priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;
- ch
unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw,
- a
ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel pe baent yn ŵ r a gwraig;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref gofal, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 19994 yn gymwys iddo neu sy'n seicolegydd clinigol, yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn rheolwr y cartref gofal;
ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal ond nid yw'n cynnwys gwirfoddolwr na pherson sy'n cael ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”), mewn perthynas â chartref gofal, yw—
- a
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 48 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi, y swyddfa honno;
- b
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
- a
mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—
- a
yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19775,
- b
yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 19976; neu
- c
yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.
- a
2
Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—
a
at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;
b
mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
c
mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
3
Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
a
cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;
b
cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
c
caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.
4
Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.
Sefydliadau sydd wedi'u heithrioI33
1
At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal—
a
os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, ar gyfer perthynas i'r person sy'n ei redeg yn unig;
b
os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
c
os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio;
ch
os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio—
i
yn y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19777, neu
ii
mewn ymddiriedolaeth NHS8;
d
os yw'n brifysgol;
dd
os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19929; neu
e
os yw'n ysgol.
2
At ddibenion paragraff (1), mae “prifysgol” yn cynnwys—
a
unrhyw goleg prifysgol;
b
unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.
3
Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys—
a
os yw'r sefydliad yn darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol i unrhyw berson; a
b
os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.
Datganiad o ddibenI44
1
Rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”)) mewn perthynas â'r cartref gofal a fydd yn cynnwys—
a
datganiad o nodau ac amcanion y cartref gofal;
b
datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu gan y person cofrestredig ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth; ac
c
datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
2
Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio pan wneir cais amdano ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw gynrychiolydd i ddefnyddiwr gwasanaeth.
3
Ni fydd dim yn rheoliad 16(1) neu 24(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol, neu i beidio â chydymffurfio â hwy—
a
unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
b
yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Arweiniad defnyddiwr gwasanaethI55
1
Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r cartref gofal (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s guide”)) a fydd yn cynnwys—
a
crynodeb o'r datganiad o ddiben;
b
y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety sydd i'w ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau ynghylch swm y ffioedd a'r dull o'u talu;
c
ffurflen contract safonol ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth gan y darparydd cofrestredig;
ch
naill ai crynodeb o'r adroddiad arolygu diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw;
d
crynodeb o'r weithrdrefn gwyno a sefydlir o dan reoliad 23;
dd
cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
2
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
darparu copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth cyntaf i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;
b
darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth pan letyir hwy gyntaf yn y cartref; ac
c
yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y defnyddiwr gwasanaeth.
3
Os oes awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer darparu llety nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cytundeb sy'n pennu'r trefniadau a wneir i'r defnyddiwr gwasanaeth.
4
Yn y rheoliad hwn mae “adroddiad arolygu diweddaraf” yn cynnwys adroddiad a gynhyrchir cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaethI66
1
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2), eu diwygio os yw'n briodol; a
b
os diwygir yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth, darparu copi diwygiedig i bob defnyddiwr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig, pryd bynnag y mae'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y mae i fod i ddod yn weithredol.
RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG
Ffitrwydd y darparydd cofrestredigI77
1
Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
2
Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal oni bai bod y person—
a
yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
b
yn gorff ac—
i
bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”)) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
ii
bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
3
Dyma'r gofynion—
a
bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
b
bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; ac
c
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn—
i
ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
ii
os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
4
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 199710 wedi ei dwyn i rym.
5
Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal—
a
os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
b
os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi cael gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwrI88
1
Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cartref gofal—
a
os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal; a
b
os yw'r darparydd cofrestredig—
i
yn gorff;
ii
heb fod yn berson ffit i reoli cartref gofal; neu
iii
heb fod yn gyfrifol am y cartref gofal yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
2
Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref gofal, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
a
o enw'r person a benodwyd felly; a
b
o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
3
Os y darparydd cofrestredig yw'r person sy'n mynd i reoli'r cartref gofal rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Ffitrwydd y rheolwr cofrestredigI99
1
Rhaid i berson beidio â rheoli cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
2
Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal oni bai—
a
ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref;
b
o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth—
i
ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r cartref gofal; a
ii
bod ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cartref gofal.
c
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person—
i
ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
ii
pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
3
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 199711 wedi ei dwyn i rym.
Person cofrestredig— gofynion cyffredinolI1010
1
Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg y cartref gofal neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
2
Os yw'r darparydd cofrestredig—
a
yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
b
os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd.
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref gofal.
3
Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref gofal.
Hysbysu tramgwyddauI1111
Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
a
o ddyddiad y collfarniad;
b
o'r tramgwydd y'i collfarnwyd o'i herwydd; ac
c
o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
RHAN IIIRHEDEG Y CARTREF GOFAL
Iechyd a lles defnyddwyr gwasanaethI1212
1
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd—
a
yn hybu iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth a gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer;
b
yn gwneud darpariaeth briodol ar gyfer gofal y defnyddwyr gwasanaeth ac, os yw'n briodol, ar gyfer eu triniaeth, eu haddysg a'u goruchwyliaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal y maent i'w gael ac â'u hiechyd a'u lles.
3
Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cymryd i ystyriaeth er mwyn darparu gofal iddynt a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu hiechyd a'u lles.
4
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg—
a
mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y defnyddwyr gwasanaeth;
b
gan roi sylw dyledus i ryw, cyfeiriadedd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.
5
Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un), mewn perthynas â rhedeg y cartref gofal—
a
cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda'i gilydd a chyda defnyddwyr gwasanaeth a chyda staff; a
b
annog a chynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Gofynion pellach ynghylch iechyd a llesI1313
1
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth—
a
cael eu cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol o'u dewis; a
b
cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.
2
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.
3
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod pob rhan o'r cartref y gall defnyddwyr gwasanaeth fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
b
bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
c
bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac
ch
bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.
5
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
6
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.
7
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.
8
Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.
Asesu defnyddwyr gwasanaethI1414
1
Rhaid i'r person cofrestredig beidio â darparu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal oni bai bod y camau canlynol wedi'u cwblhau, i'r graddau y bydd wedi bod yn ymarferol gwneud hynny—
a
bod anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wedi'u hasesu gan berson â chymwysterau neu hyfforddiant addas;
b
bod y person cofrestredig wedi cael gafael ar gopi o'r asesiad;
c
bod ymgynghoriad priodol wedi'i gynnal ynghylch yr asesiad â'r defnyddiwr gwasanaeth neu â chynrychiolydd i'r defnyddiwr gwasanaeth;
ch
bod y person cofrestredig wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i'r defnyddiwr gwasanaeth fod y cartref gofal yn addas at ddibenion diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les, o roi sylw i'r asesiad.
2
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth—
a
yn cael ei gadw o dan sylw; a
b
yn cael ei adolygu ar unrhyw adeg pan fydd angen gwneud hynny o roi sylw i unrhyw newid amgylchiadau.
Cynllun defnyddiwr gwasanaethI1515
1
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“y cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s plan”)), ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad, ynghylch sut y bwriedir diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les.
2
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol, sicrhau bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi'i baratoi gan yr awdurdod lleol hwnnw;
b
trefnu bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth ar gael i'r defnyddiwr gwasanaeth;
c
cadw'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw;
ch
adolygu'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth os yw'n briodol, a hynny ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad; ac
d
hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw adolygiad o'r fath.
Cyfleusterau a gwasanaethauI1616
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth yn unol â datganiad o ddiben y cartref gofal.
2
O roi sylw i faint y cartref gofal ac i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig—
a
darparu, i'r graddau y mae angen hynny er mwyn rheoli'r cartref gofal—
i
cyfleusterau ffôn priodol;
ii
cyfleusterau priodol ar gyfer cyfathrebu drwy drosglwyddiadau ffacsimili;
b
darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a gwneud trefniadau i alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn breifat;
c
darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan y defnyddwyr gwasanaeth, ddodrefn, dillad gwely a chelfi digonol eraill, gan gynnwys llenni a gorchuddion i'r llawr, ac offer sy'n addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a sgriniau os oes eu hangen;
ch
annog y defnyddwyr gwasanaeth, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, i ddod â'u dodrefn a'u celfi eu hunain i'r ystafelloedd y maent yn eu meddiannu;
d
trefnu ar gyfer golchi llieiniau a dillad yn rheolaidd;
dd
darparu, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth olchi, sychu a smwddio'u dillad eu hunain os dymunant ac, at y diben hwnnw, gwneud trefniadau i'w dillad gael eu didoli a'u cadw ar wahân;
e
darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd;
f
darparu cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth baratoi eu bwyd eu hunain a sicrhau bod cyfleusterau o'r fath yn ddiogel i gael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
ff
darparu, mewn symiau digonol, fwyd addas, iachus a maethlon sy'n amrywiol ac wedi'i baratoi'n briodol ac ar gael ar unrhyw adeg y mae'n rhesymol i'r defnyddwyr gwasanaeth ofyn amdano;
g
gwneud trefniadau addas ar gyfer cynnal safonau boddhaol o hylendid yn y cartref gofal ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny;
ng
cadw'r cartref gofal yn rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol;
h
darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y defnyddwyr gwasanaeth gael eu hadneuo i gael eu cadw'n ddiogel, a gwneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth gydnabod yn ysgrifenedig fod unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuwyd wedi'u dychwelyd iddynt;
i
ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu diddordebau cymdeithasol, a gwneud trefniadau i'w galluogi i ymgymryd â gweithgareddau lleol, cymdeithasol a chymunedol ac ymweld â'u teuluoedd a'u cyfeillion, neu gadw cysylltiad neu gyfathrebu â hwy;
j
ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch y rhaglen o weithgareddau a drefnir gan y cartref gofal neu ar ei ran, a darparu cyfleusterau hamdden, gan gynnwys gweithgareddau mewn perthynas â hamdden, ffitrwydd a hyfforddi, gan roi sylw i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol, fod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.
4
Yn y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys diod.
CofnodionI1717
1
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
cadw cofnod mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth sy'n cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion eraill a bennir yn Atodlen 3 ynghylch y defnyddiwr gwasanaeth;
b
sicrhau bod y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnod yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.
2
Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnodion yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu eu bod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn cael eu cadw yn gyfoes.
4
Rhaid parhau i gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) am o leiaf dair blynedd ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddynt, ac eithrio cofnod a gedwir o dan baragraff 13 o Atodlen 4 y mae angen ei gadw am flwyddyn yn unig ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddo.
5
Nid yw'r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) neu reol gyfreithiol arall ynghylch cofnodion neu wybodaeth.
StaffioI1818
1
Gan roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y materion canlynol—
a
bod personau cymwys a chanddynt gymwysterau addas, medrus a phrofiadol yn gweithio yn y cartref gofal bob amser, mewn niferoedd sy'n briodol ar gyfer iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth;
b
na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref gofal yn atal y defnyddwyr gwasanaeth rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion;
c
bod y personau a gyflogir gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal yn cael—
i
hyfforddiant sy'n briodol i'r gwaith y maent i'w gyflawni; a
ii
cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i waith o'r fath.
2
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael eu goruchwylio'n briodol.
3
Os yw'r cartref gofal—
a
yn darparu gwasanaeth nyrsio i ddefnyddwyr gwasanaeth; a
b
yn darparu, p'un a ydyw mewn cysylltiad â nyrsio neu beidio, feddyginiaethau neu driniaeth feddygol i ddarparwyr gwasanaeth;
rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod nyrs gofrestredig a chanddi gymwysterau addas yn gweithio yn y cartref gofal bob amser.
4
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i roi gwybodaeth briodol am unrhyw God Ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o'r Ddeddf i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal.
Ffitrwydd y gweithwyrI1919
1
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
beidio â chyflogi person i weithio yn y cartref gofal dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny;
b
beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
c
beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf12 yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai—
a
ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio yn y cartref gofal;
b
bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
c
ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni;
ch
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
i
ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
ii
pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.
3
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth ar unrhyw un o'r materion a bennir ym mharagraff 2 yn Atodlen 2 ar gael i unigolyn oherwydd nad yw unrhyw ddarpariaeth yn Neddf yr Heddlu 1997 wedi ei dwyn i rym.
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref plant a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
b
oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
5
Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf paragraff (4)(b)—
a
bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 yn Atodlen 2 yn anghyflawn;
b
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
i
y mater a bennir ym mharagraff 1 yn Atodlen 2;
ii
ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno;
iii
pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;
c
bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
ch
bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
6
Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan 1 Ebrill 2003 mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
7
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.
Cyfyngiadau ar weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaethI2020
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â thalu arian sy'n perthyn i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth i gyfrif banc oni bai—
a
bod y cyfrif yn enw'r defnyddiwr gwasanaeth y mae'r arian yn perthyn iddo; a
b
nad yw'r cyfrif yn cael ei ddefnyddio gan y person cofrestredig mewn cysylltiad â rhedeg neu reoli'r cartref gofal.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arian sy'n cael ei dalu i'r person cofrestredig mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy gan ddefnyddiwr gwasanaeth am lety neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y person cofrestredig yn y cartref gofal.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y bo'n ymarferol nad yw'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn gweithredu fel asiant i ddefnyddiwr gwasanaeth.
Barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofalI2121
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y cartref gofal i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les defnyddwyr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.
Gweithdrefn disgyblu staffI2222
1
Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn disgyblu staff a fydd, yn benodol—
a
yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill llai difrifol nag atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er mwyn diogelwch neu les y defnyddwyr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal; a
b
yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir, ar ddefnyddiwr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal i berson priodol yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.
2
At ddibenion paragraff (1), person priodol yw'r person cofrestredig, swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf neu swyddog o'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref ynddi, neu gwnstabl.
CwynionI2323
1
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion” (“the complaints procedure”)) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwyn a wneir o dan y weithdrefn gwynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.
4
Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwyn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
5
Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r weithdrefn gwynion i bob defnyddiwr gwasanaeth ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.
6
Pan fydd copi o'r weithdrefn gwynion i'w chyflwyno yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu berson â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw hynny'n ymarferol, gyflwyno copi o'r weithdrefn gwynion mewn ffurf sy'n addas i'r person hwnnw yn ogystal â chopi ysgrifenedig.
7
Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion gynnwys—
a
enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
b
y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cartref gofal.
8
Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
RHAN IVSAFLEOEDD
Ffitrwydd safleoeddI2424
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref gofal oni bai—
a
bod y safle'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a
b
bod lleoliad y safle'n briodol ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau—
a
bod dyluniad a chynllun ffisegol y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal yn diwallu anghenion y defnyddwyr gwasanaeth;
b
bod y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;
c
bod yr offer a ddarperir yn y cartref gofal i'w ddefnyddio gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael ei gynnal-a'i-gadw mewn cyflwr gweithio da;
ch
bod pob rhan o'r cartref gofal yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;
d
bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth;
dd
bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan y defnyddwyr gwasanaeth yn addas at eu hanghenion;
e
bod lle digonol ar gyfer eistedd, hamddena a bwyta yn cael ei ddarparu ar wahân i lety preifat y defnyddiwr gwasanaeth;
f
bod y lle cyffredin a ddarperir ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r defnyddwyr gwasanaeth;
ff
bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gyfarfod ag ymwelwyr mewn llety cyffredin, ac mewn llety preifat sydd ar wahân i ystafelloedd preifat y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain;
g
bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn y safle;
ng
bod unrhyw gyfleusterau arllwys angenrheidiol yn cael eu darparu;
h
bod darpariaeth addas yn cael ei gwneud ar gyfer storio at ddibenion y cartref gofal;
i
bod cyfleusterau storio addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio;
j
bod newidiadau addas yn cael eu gwneud, a bod unrhyw gymorth, offer a chyfleusterau, gan gynnwys lifftiau, y mae eu hangen yn cael eu darparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n hen, yn eiddil neu'n anabl yn gorfforol;
l
bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;
ll
bod awyru, gwresogi a goleuo sy'n addas i'r defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r cartref gofal sy'n cael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
m
bod y safle'n ddiogel rhag mynediad na chafodd ei awdurdodi.
3
Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer y staff—
a
cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys—
i
cyfleusterau ar gyfer newid;
ii
cyfleusterau storio;
b
llety ar gyfer cysgu, os oes ar y staff angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref gofal.
4
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas;
b
darparu dulliau dianc digonol;
c
gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol—
i
canfod, cyfyngu a diffodd tanau;
ii
rhoi rhybuddion tân;
iii
gwacâd yr holl bersonau sydd yn y cartref gofal a lleoli'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel, os digwydd tân;
iv
cynnal a chadw'r holl offer tân; a
v
adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
ch
gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
d
sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y defnyddwyr gwasanaeth, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer arbed bywyd;
dd
ymgynghori â'r awdurdod tân ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).
5
Rhaid i'r person cofrestredig ymgynghori yn briodol â'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd amgylchedd yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi.
RHAN VRHEOLI
Adolygu ansawdd y gofalI2525
1
Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer—
a
adolygu ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartref gofal, gan gynnwys ansawdd y gwasanaeth nyrsio os darperir gwasanaeth o'r fath yn y cartref gofal, ar adegau priodol; a
b
ei wella.
2
Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.
3
Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.
Y sefyllfa ariannolI2626
1
Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref gofal mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y cartref gofal yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
2
Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt, unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref gofal, gan gynnwys—
a
cyfrifon blynyddol y cartref gofal, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;
b
tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig;
c
gwybodaeth am ariannu'r cartref gofal a'i adnoddau ariannol;
ch
os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig;
d
tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r cartref ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.
3
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cadw mewn perthynas â'r cartref gofal a'u cadw'n gyfoes;
b
sicrhau bod y cyfrifon yn rhoi manylion costau rhedeg y cartref gofal, gan gynnwys rhent, taliadau o dan forgais a gwariant ar fwyd, gwres a chyflogau misol ac wythnosol y staff; ac
c
rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
4
Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.
Ymweliadau gan y darparydd cofrestredigI2727
1
Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw'n rheoli'r cartref gofal, rhaid iddo ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn—
a
yr unigolyn cyfrifol;
b
un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu
c
cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y cartref gofal sy'n addas i ymweld â'r cartref.
3
Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob tri mis a gallant fod yn ddi-rybudd.
4
Rhaid i'r person sy'n ymweld—
a
cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr ac unrhyw un o'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal y mae'n ymddangos iddo ei bod yn angenrheidiol cyfweld â hwy er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y cartref gofal;
b
archwilio safle'r cartref gofal, ei gofnod o ddigwyddiadau a'i gofnodion o unrhyw gwynion; ac
c
paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref gofal yn cael ei redeg.
5
Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c)—
a
i'r rheolwr cofrestredig a fydd yn cadw'r copi yn y cartref gofal; a
b
yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.
RHAN VIPLANT
Cymhwyso'r Rhan honI2828
Bydd darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys pan fydd unrhyw blentyn yn cael ei letya yn y cartref gofal.
DehongliI2929
Yn rheoliad 2, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai—
a
y geiriau “, neu unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth”;
b
y diffiniadau canlynol wedi'u hychwanegu yn y mannau priodol—
mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12 (Cynllun lleoliad y plentyn) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002;
mae i “awdurdod lleoli” (“placing authority”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 200213.
Datganiad o ddibenI3030
Yn rheoliad 4, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
ac
c
yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 5.
Y person cofrestredigI3131
1
Yn rheoliad 7, bydd paragraff (3) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
ac
ch
bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.
2
Yn rheoliad 9, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
ac
ch
bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant a naill ai—
i
bod ei gymwysterau'n addas at ddibenion gweithio gyda phlant; neu
ii
bod person arall wedi'i benodi er mwyn ei helpu wrth reoli'r cartref gofal, a bod cymwysterau'r person a benodwyd felly yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.
3
Yn rheoliad 10, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth,” wedi'u disodli gan y geiriau “nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a'r angen i ddiogelu a hybu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,”.
Darpariaeth ar wahân ar gyfer plantI3232
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod y ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer gofal, triniaeth a goruchwyliaeth plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal; a
b
y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer,
yn cael eu gwneud ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaeth eraill i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny.
2
Ni fydd paragraff (1) yn atal y person cofrestredig rhag gwneud darpariaeth ar y cyd ar gyfer plant a defnyddwyr gwasanaeth eraill nad yw eu hoedran yn arwyddocaol o wahanol i oedran y plant hynny.
Lles a diogelwch plantI3333
1
Bydd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer diogelu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
2
Bydd darpariaethau rheoliadau 12, 15 i 18, 23 a 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (cynlluniau lleoliadau plant; cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu; trefniadau ar gyfer amddiffyn plant; rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal; addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden; peryglon a diogelwch; digwyddiadau hysbysadwy), ac Atodlen 5 iddynt, yn gymwys i'r person cofrestredig fel pe bai—
a
unrhyw gyfeiriad at y person cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig fel y mae wedi'i ddiffinio yn y Rheoliadau hyn;
b
unrhyw gyfeiriad at y cartref plant neu at y cartref yn gyfeiriadau at y cartref gofal.
3
Os bydd y person cofrestredig yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol, sef—
a
salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol y mae plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal wedi dioddef;
b
brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal neu yn ymwneud â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,
ni fydd yn ofynnol iddo roi hysbysiad o'r digwyddiad hwnnw ar wahân i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 38 (hysbysu marwolaeth, etc.) o'r Rheoliadau hyn.
Ffitrwydd y gweithwyrI3434
Yn rheoliad 19, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
ac
d
bod ei gymwysterau, ei brofiad, ei gymhwysedd a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.
Gweithdrefn disgyblu'r staffI3535
Yn rheoliad 22, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “neu, mewn perthynas â phlentyn a letyir yn y cartref, swyddog o'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.” wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw.
Adolygu ansawdd y gofalI3636
Bydd rheoliad 25 yn effeithiol fel pe bai—
a
y system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) o reoliad 25 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r materion a nodir yn Atodlen 6 gael eu monitro a'u hadolygu ar adegau priodol;
b
y geiriau “a'u cynrychiolwyr” wedi'u disodli gan y geiriau “, eu cynrychiolwyr, rhieni'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ac, mewn perthynas â'r plant hynny, yr awdurdodau lleoli” ym mharagraff (3) o reoliad 25;
c
y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd rheoliad 25—
4
Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu neu'n rhoi terfynau ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol gwahardd ymgynghoriad o'r fath, neu gyfyngu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.
TramgwyddauI3737
Bydd rheoliad 44 yn effeithiol fel pe bai'r paragraff canlynol yn disodli paragraff (1)—
1
Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—
a
rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41, i'r graddau y mae'r rheoliadau hynny'n effeithiol yn ddarostyngedig i Ran VI o'r Rheoliadau hyn;
b
rheoliadau 32 a 35; ac
c
y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 33.
RHAN VIIAMRYWIOL
Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraillI3838
1
Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd—
a
marwolaeth unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth, gan nodi amgylchiadau'r farwolaeth;
b
brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am bersonau yn y cartref gofal yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly;
c
unrhyw anaf difrifol i ddefnyddiwr gwasanaeth;
ch
salwch difrifol defnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal nad oes nyrsio'n cael ei ddarparu ynddo;
d
unrhyw ddigwyddiad yn y cartref gofal sy'n effeithio ar les neu ddiogelwch unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth;
dd
unrhyw ladrad, bwrgleriaeth neu ddamwain ddifrifol yn y cartref gofal;
e
unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref gofal.
2
Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.
Hysbysu absenoldebI3939
1
Os yw—
a
darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref gofal; neu
b
rheolwr cofrestredig,
i fod yn absennol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
2
Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb—
a
pa mor hir y bydd neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
b
y rheswm drosto;
c
y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y cartref gofal;
ch
enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y cartref gofal yn ystod yr absenoldeb; a
d
y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r cartref plant yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.
3
Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
4
Os bydd—
a
darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref gofal; neu
b
rheolwr cofrestredig;
wedi bod yn absenol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r perwyl hwnnw, gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).
5
Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.
Hysbysu newidiadauI4040
Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny—
a
os yw person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhedeg neu reoli'r cartref gofal;
b
os yw person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal;
c
os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw neu ei fod yn bwriadu newid ei enw;
ch
os corff yw'r darparydd cofrestredig—
i
bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid neu y bwriedir ei newid;
ii
bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd neu y bwridedir i hynny ddigwydd;
d
os oes unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol neu y bwriedir unrhyw newid o'r fath;
dd
os yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar ei gyfer, neu fod cyfamod neu drefniant yn cael, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda'i gredydwyr;
e
os yw darparydd cofrestredig yn gwmni, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael, neu'n debygol o gael ei benodi;
f
os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei fusnes yn cynnwys rhedeg cartref plant, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu
ff
bod safle'r cartref yn cael ei newid neu ei estyn yn arwyddocaol, neu fod bwriad i'w newid neu i'w estyn, neu fod safle ychwanegol yn cael ei sicrhau, neu fod bwriad i'w sicrhau.
Hysbysu terfynu lletyI4141
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â therfynu'r trefniadau ar gyfer llety defnyddiwr gwasanaeth oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad rhesymol o'i fwriad i wneud hynny—
a
i'r defnyddiwr gwasanaeth;
b
i'r person y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth; ac
c
os yw awdurdod lleol wedi gwneud y trefniadau ar gyfer darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, i'r awdurdod hwnnw.
2
Os nad yw'n ymarferol i'r person cofrestredig gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1)—
a
rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a
b
rhaid iddo ddarparu datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr amgylchiadau a'i gwnaeth yn anymarferol iddo gydymffurfio â'r gofyniad.
Penodi datodwyr etcI4242
1
Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—
a
hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob cartref gofal y mae'r penodiad yn berthnasol iddo ar unwaith ei fod wedi'i benodi, gan nodi'r rhesymau dros hynny;
b
penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref gofal mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac
c
o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref gofal y mae ei benodiad yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.
2
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
a
fel derbynnydd neu reolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal;
b
fel datodwr neu ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref gofal; neu
c
fel derbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref gofal; neu
ch
fel ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref gofal.
Marwolaeth person cofrestredigI4343
1
Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.
2
Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—
a
yn ddi-oed o'r farwolaeth yn ysgrifenedig; a
b
o fewn 28 diwrnod, o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.
3
Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref gofal heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef—
a
am gyfnod heb fod yn hirach na 28 diwrnod; a
b
am unrhyw gyfnod pellach y gellir penderfynu arno yn unol â pharagraff (4).
4
Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion paragraff (3)(b), a rhaid iddo hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
5
Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref gofal yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.
TramgwyddauI4444
1
Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41 yn dramgwydd.
2
Heb ragfarnu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 29 o'r Ddeddf i ddwyn achos yn erbyn personau a fu unwaith, ond nad ydynt mwyach, yn bersonau cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, gall y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17 a ddigwyddodd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar ôl i'r person beidio â bod yn berson cofrestredig.
Cydymffurfio â'r rheoliadauI4545
Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.
Lleoliadau oedolionI4646
1
At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 47, mae darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal—
a
os ef yw'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal, a'i fod yn ei reoli;
b
os nad oes person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rheoli'r cartref gofal;
c
os yw'r cartref gofal—
i
yn gartref i'r darparydd cofrestredig; neu
ii
os oes gan y darparydd cofrestredig fwy nag un cartref, yn gartref iddo lle mae'n preswylio fel arfer, neu'n ffurfio rhan ohono;
ch
i
os nad oes mwy na dau ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal; neu
ii
os nad oes mwy na thri defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal os yw pob defnyddiwr gwasanaeth o'r fath wedi cael eu lletya dan gytundeb a ddisgrifir yn is-baragraff (d) ar unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2002;
d
os oes cytundeb lleoliad wedi'i wneud mewn perthynas â phob un o'r defnyddwyr gwasanaeth;
dd
os yw pob defnyddiwr gwasanaeth dros 18 oed.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “cytundeb lleoliad” yw cytundeb sydd—
a
wedi'i wneud rhwng—
i
y darparydd cofrestredig;
ii
y defnyddiwr gwasanaeth; a
iii
yr awdurdod lleol neu gorff arall sy'n rheoli cynllun (“cynllun lleoliadau oedolion” (“adult placement scheme”)) y mae wedi trefnu neu y mae'n bwriadu trefnu i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei letya mewn cartref gofal odano;
b
yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion canlynol—
i
nodau'r trefniadau y mae'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal odanynt;
ii
yr ystafell y mae'r defnyddiwr gwasanaeth i'w meddiannu;
iii
y gwasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth;
iv
y ffioedd sydd i'w codi;
v
cymwysterau a phrofiad y darparydd cofrestredig;
vi
y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety a'r gwasanaethau sydd i'w darparu;
vii
y gwasanaethau a'r cymorth sydd i'w darparu o dan y cynllun lleoliadau oedolion y mae'r llety yn cael ei drefnu neu wedi cael ei drefnu odano.
Addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolionI4747
1
Bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal.
2
Ni fydd rheoliadau 4, 8, 18, 19, 21, 22, 25, 27 i 37 a 42 (datganiad o ddiben; penodi rheolwr; staffio; ffitrwydd y gweithwyr; barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal; gweithdrefn disgyblu'r staff; adolygu ansawdd y cartref gofal; ymweliadau gan y darparydd cofrestredig; plant; penodi datodwyr) nac Atodlenni 1, 5 a 6 (yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben; gwybodaeth ychwanegol sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben pan fydd plant yn cael eu lletya; materion sydd i'w monitro mewn cartref gofal y mae plant yn cael eu lletya ynddo) yn gymwys.
3
Bydd rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor.
4
Bydd rheoliad 6 (adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai—
a
y geiriau “ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)” a “ddatganiad o ddiben” wedi'u hepgor yn is-baragraff (a) o baragraff (1) y rheoliad hwnnw;
b
paragraff (2) wedi'i hepgor.
5
Bydd rheoliad 16 (cyfleusterau a gwasanaethau) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny” wedi'u hepgor yn is-baragraff (g) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw.
6
Bydd rheoliad 24 (ffitrwydd safleoedd) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yn cael eu disodli â'r geiriau “bod y safle'n addas ar gyfer ei ddiben” ac fel pe bai is-baragraffau (a), (dd), (e), (f), (g), (ng) a (j) o baragraff (2) a pharagraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.
7
Bydd rheoliad 26 (y sefyllfa ariannol) yn effeithiol fel pe bai—
a
paragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor;
b
is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor;
c
paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.
8
Bydd Atodlen 3 (y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (ff) o baragraff 3 o'r Atodlen honno wedi'i hepgor.
9
Bydd Atodlen 4 yn effeithiol fel pe bai paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 a 12 i 16 o'r Atodlen honno wedi'u hepgor.
Pennu swyddfeydd priodolI4848
Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chartrefi gofal sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.
DiddymuI4949
Mae'r rheoliadau canlynol yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
a
Rheoliadau Cartrefi Gofal Preswyl 198414;
b
Rheoliadau Cartrefi Nyrsio a Chartrefi Nyrsio'r Meddwl 198415.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199816.
ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN
I501
Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.
I512
Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.
I523
Nifer, cymwysterau a phrofiad perthnasol y staff sy'n gweithio yn y cartref gofal.
I534
Strwythur trefniadol y cartref gofal.
I545
Ystod oedran a rhyw y defnyddwyr gwasanaeth y bwriedir darparu llety ar eu cyfer.
I556
Ystod yr anghenion y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.
I567
A gaiff gwasanaeth nyrsio ei ddarparu.
I578
Unrhyw feini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau (os oes rhai) y cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys.
I589
Y trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol, hobïau a diddordebau hamdden.
I5910
Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch gweithredu'r cartref gofal.
I6011
Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref gofal.
I6112
Y trefniadau a wneir i'r defnyddwyr gwasanaeth fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.
I6213
Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau, eu cyfeillion a'u cynrychiolwyr.
I6314
Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.
I6415
Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).
I6516
Nifer a maint yr ystafelloedd yn y cartref gofal.
I6617
Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.
I6718
Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth.
I6819
Y trefniadau a wneir i ryddhau ymrwymiad person cofrestredig o dan reoliad 12 (4)(b).
I6920
Manylion—
a
polisi'r cartref gofal ar reoli ymddygiad a defnyddio dulliau o atal;
b
y dulliau rheoli a all gael eu defnyddio yn y cartref (os o gwbl) a'r amgylchiadau y defnyddir hwy ynddynt a chan bwy y defnyddir hwy.
ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SYDD AM REDEG NEU REOLI CARTREFI GOFAL NEU WEITHIO YNDDO
I701
Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
I712
Naill ai—
a
os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)17), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 199718, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
b
mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno19.
I723
Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.
I734
Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
I745
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
I756
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
I767
Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—
a
y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 197420 ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y diwygir y Gorchymyn hwnnw o dro i dro) 21; neu
b
y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.
ATODLEN 3Y COFNODION SYDD I'W CADW MEWN CARTREF GOFAL MEWN PERTHYNAS Å PHOB DEFNYDDIWR GWASANAETH
I771
Y dogfennau canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—
a
yr asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 14(1);
b
y cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).
I782
Ffotograff diweddar o'r defnyddiwr gwasanaeth.
I793
Cofnod o'r materion canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—
a
enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol pob defnyddiwr gwasanaeth;
b
enw, cyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth neu enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran;
c
enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y defnyddiwr gwasanaeth ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw swyddog i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sydd o dan ddyletswydd i oruchwylio lles y defnyddiwr gwasanaeth;
ch
y dyddiad y daeth y defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref gofal;
d
y dyddiad yr ymadawodd y defnyddiwr gwasanaeth â'r cartref gofal a'r lle yr aeth iddo;
dd
os bu farw'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth;
e
enw a chyfeiriad unrhyw awdurdod, mudiad neu gorff arall a drefnodd i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei dderbyn i'r cartref gofal;
f
cofnod o'r holl feddyginiaethau a gedwir yn y cartref gofal ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, a dyddiad eu rhoi i'r defnyddiwr gwasanaeth;
ff
cofnod o unrhyw ddamwain sy'n effeithio ar y defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal ac o unrhyw ddigwyddiad arall yn y cartref gofal sy'n andwyol i iechyd neu les y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys natur, dyddiad ac amser y ddamwain neu'r digwyddiad, a oedd angen triniaeth feddygol ac enw'r personau a oedd â gofal y cartref gofal ac yn goruchwylio'r defnyddiwr gwasanaeth yn eu tro;
g
cofnod o unrhyw wasanaeth nyrsio a ddarparwyd ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys cofnod o'i anhwylder ac unrhyw driniaeth neu ymyriad llawfeddygol;
ng
manylion unrhyw anghenion arbennig o ran cyfathrebu sydd gan y defnyddiwr gwasanaeth a'r dulliau cyfathrebu a all fod yn briodol i'r defnyddiwr gwasanaeth;
h
manylion unrhyw gynllun sy'n ymwneud â'r defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â meddyginiaeth, nyrsio, gofal iechyd arbenigol neu faethiad;
i
cofnod o fynychder briwiau pwysedd ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;
j
cofnod o godymau ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;
l
cofnod o unrhyw ataliadau corfforol a ddefnyddir ar y defnyddiwr gwasanaeth;
ll
cofnod o unrhyw gyfyngiadau y cytunwyd arnynt gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ynghylch rhyddid y defnyddiwr gwasanaeth i ddewis, rhyddid i symud a phŵ er i wneud penderfyniadau.
I804
Copïau o ohebiaeth y cartref gofal sy'n ymwneud â phob defnyddiwr gwasanaeth.
ATODLEN 4COFNODION ERAILL SYDD I'W CADW MEWN CARTREF GOFAL
I811
Copi o'r datganiad o ddiben.
I822
Copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth.
I833
Cofnod o'r holl gyfrifon a gedwir yn y cartref gofal.
I844
Copi o bob adroddiad arolygu.
I855
Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 27(4)(c).
I866
Cofnod o'r holl bersonau a gyflogir yn y cartref gofal, a fydd yn cynnwys y materion canlynol mewn perthynas â phob unigolyn a ddaw o dan reoliad 19(1)—
a
ei enw llawn, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gymwysterau a'i brofiad;
b
copi o'i dystysgrif eni a'i basport (os oes un);
c
copi o bob tystlythyr a gafwyd mewn perthynas ag ef;
ch
y dyddiadau y mae'n dechrau cael ei gyflogi ac yn gorffen cael ei gyflogi;
d
y swydd sydd ganddo yn y cartref gofal, y gwaith y mae'n ei gyflawni a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos;
dd
gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion camau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.
I877
Copi o roster dyletswyddau'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal, a chofnod i ddweud a gafodd y roster ei weithio mewn gwirionedd.
I888
Cofnod o'r ffioedd a godir gan y cartref gofal ar y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau ychwanegol nad yw'r ffioedd hynny'n talu amdanynt, a'r symiau a dalwyd gan pob defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef.
I899
Cofnod o'r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth i gael eu cadw'n ddiogel neu a dderbyniwyd ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo—
a
datgan dyddiad adneuo neu dderbyn yr arian neu'r pethau gwerthfawr, dyddiad dychwelyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr i ddefnyddiwr gwasanaeth neu eu defnyddio, ar gais y defnyddiwr gwasanaeth, ar ei ran ac, os yw'n gymwys, at ba ddiben y cafodd yr arian neu'r pethau gwerthfawr eu defnyddio; a
b
cynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu'r pethau gwerthfawr wedi'u dychwelyd.
I9010
Cofnod o bob dodrefnyn y daeth y defnyddiwr gwasanaeth ag ef i'r ystafell y mae'n lletya ynddi.
I9111
Cofnod o bob cwyn a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gynrychiolwyr neu berthnasau i'r defnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal ynghylch gweithredu'r cartref gofal, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.
I9212
Cofnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n digwydd yn y cartref gofal—
a
unrhyw ddamwain;
b
unrhyw ddigwyddiad sy'n andwyol i iechyd neu les defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys brigiad clefyd heintus yn y cartref gofal;
c
unrhyw anaf neu salwch;
ch
unrhyw dân;
d
ac eithrio pan wneir cofnod o dan baragraff 14, unrhyw achlysur pan weithredir y larwm tân;
dd
unrhyw ladrad neu fwrgleriaeth.
I9313
Cofnodion o'r bwyd a ddarparwyd ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, yn ddigon manwl i alluogi unrhyw berson sy'n archwilio'r cofnod i ganfod a yw'r ddeiet yn foddhaol, mewn perthynas â maethiad ac fel arall, ac unrhyw ddeiet arbennig sydd wedi'i pharatoi ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth unigol.
I9414
Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf offer tân (gan gynnwys offer larymau tân) a gynhelir yn y cartref gofal ac unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.
I9515
Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, neu os rhoddir larwm tân.
I9616
Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff defnyddiwr gwasanaeth ar goll.
I9717
Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref gofal, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr.
ATODLEN 5GWYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN PAN FYDD PLANT YN CAEL EU LLETYA
I981
Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
I992
Y manylion canlynol—
a
eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;
b
a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;
c
ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.
I1003
Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).
I1014
Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.
I1025
Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.
I1036
Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.
I1047
Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.
I1058
Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.
I1069
Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.
I10710
Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.
I10811
Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.
I10912
Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.
I11013
Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.
I11114
Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.
I11215
Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.
I11316
Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.
I11417
Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.
I11518
Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.
I11619
Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.
ATODLEN 6MATERION SYDD I'W MONITRO MEWN CARTREF GOFAL Y MAE PLANT YN CAEL EU LLETYA YNDDO
I1171
Cydymffurfedd ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn a baratowyd gan yr awdurdod lleoli a chynllun lleoliad pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal.
I1182
Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a drosglwyddyd er mwyn eu cadw'n ddiogel.
I1193
Bwydlenni dyddiol.
I1204
Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan y plant sy'n cael eu lletya yno.
I1215
Unrhyw salwch y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn ei gael.
I1226
Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a'u canlyniadau.
I1237
Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.
I1248
Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref gofal.
I1259
Ymwelwyr â'r cartref gofal ac â'r plant yn y cartref gofal.
I12610
Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5 i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.
I12711
Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gofal gan blentyn sy'n cael ei letya yno.
I12812
Defnyddio unrhyw fesurau disgyblu mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.
I12913
Defnyddio ataliadau corfforol mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)