xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Wedi'u gwneud
12 Chwefror 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5), (7)(a) i (j) ac (l), 25(1), 33, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 5(1);
ystyr “awdurdod iechyd amgylchedd” (“environmental health authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;
[F1ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”), o ran cartref gofal, yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;]
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;
ystyr “cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s plan”) yw'r cynllun ysgrifenedig a baratoir yn unol â rheoliad 15(1);
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi yn y cartref gofal, sydd, gyda chydsyniad pendant neu gydsyniad awgrymedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg y cartref gofal;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r daganiad a lunir yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson sy'n cael ei letya yn y cartref gofal y mae arno angen gofal nyrsio neu ofal personol oherwydd anabledd, llesgedd, salwch yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw—
priod [F2neu bartner sifil] y person;
unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, ŵ yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod [F2neu bartner sifil] y person;
priod [F2neu bartner sifil] unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;
ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, F4... mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel pe baent yn ŵr a gwraig [F5, ac mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys partner sifil blaenorol.];
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref gofal, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(3) yn gymwys iddo neu sy'n seicolegydd clinigol [F6neu'n seicotherapydd plant];
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn rheolwr y cartref gofal;
ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal ond nid yw'n cynnwys gwirfoddolwr na pherson sy'n cael ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”), mewn perthynas â chartref gofal, yw—
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 48 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi, y swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
[F7ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—
yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(4),
yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(5); neu
yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.]
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—
(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;
(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (25.10.2005) gan Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2929), erglau. 1(1), 65(2)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(a)(i)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2935), rhlau. 1(1), 2(2)
F4Gair yn rhl. 2(1) wedi ei dirymu (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(a)(ii)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(a)(iii)
F6Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.5.2004) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/1314), rhlau. 1(1), 2
F7rhl. 2(1): testun wedi'i ddiwygio (1.4.2004) gan The General Medical Services Transitional and Consequential Provisions (Wales) (No. 2) Order 2004 (O.S. 2004/1016), ergl. 1(1), Atod. 1 para. 26(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal—
(a)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, ar gyfer perthynas i'r person sy'n ei redeg yn unig;
(b)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(c)os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio;
(ch)os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio—
(i)yn y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(6), neu
(ii)mewn ymddiriedolaeth NHS(7);
(d)os yw'n brifysgol;
(dd)os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(8); neu
(e)os yw'n ysgol.
[F8(f)os yw'r holl bersonau sy'n cael eu lletya yn y cartref yn destun cytundebau lleoli oedolion sy'n cydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004, neu os bydd rheoliadau a wnaed yn Lloegr yn gymwys i gytundeb lleoli oedolion, â darpariaethau'r rheoliadau hynny.]
(2) At ddibenion paragraff (1), mae “prifysgol” yn cynnwys—
(a)unrhyw goleg prifysgol;
(b)unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.
(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys—
(a)os yw'r sefydliad yn darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol i unrhyw berson; a
(b)os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.
Diwygiadau Testunol
F8Rhl. 3(1)(f) wedi ei ychwanegu (1.8.2004) gan Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1756), rhlau. 1(1), 37
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”)) mewn perthynas â'r cartref gofal a fydd yn cynnwys—
(a)datganiad o nodau ac amcanion y cartref gofal;
(b)datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu gan y person cofrestredig ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth; ac
(c)datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio pan wneir cais amdano ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw gynrychiolydd i ddefnyddiwr gwasanaeth.
(3) Ni fydd dim yn rheoliad 16(1) neu 24(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol, neu i beidio â chydymffurfio â hwy—
(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r cartref gofal (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s guide”)) a fydd yn cynnwys—
(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;
(b)y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety sydd i'w ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau ynghylch swm y ffioedd a'r dull o'u talu;
(c)ffurflen contract safonol ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth gan y darparydd cofrestredig;
(ch)naill ai crynodeb o'r adroddiad arolygu diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw;
(d)crynodeb o'r weithrdrefn gwyno a sefydlir o dan reoliad 23;
(dd)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)darparu copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth cyntaf i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth pan letyir hwy gyntaf yn y cartref; F9...
(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y defnyddiwr gwasanaeth[F10;]
[F11(ch)os yw person ac eithrio defnyddiwr gwasanaeth neu'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am gopi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth —
(i)trefnu bod copi o'r fersiwn gyfredol o'r arweiniad ar gael i'w archwilio gan y person hwnnw yn y cartref gofal; neu
(ii)darparu copi o'r fath i'r person hwnnw.]
(3) Os oes awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer darparu llety nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cytundeb sy'n pennu'r trefniadau a wneir i'r defnyddiwr gwasanaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn mae “adroddiad arolygu diweddaraf” yn cynnwys adroddiad a gynhyrchir cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
Diwygiadau Testunol
F9Gair yn rhl. 5(2)(b) wedi ei hepgor (7.4.2003) yn rhinwedd Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1004), rhlau. 1(1), 2(2)(a)
F10Rhl. 5(2)(c): hanner colon wedi ei amnewid ar gyfer atalnod llawn (7.4.2003) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1004), rhlau. 1(1), 2(2)(b)
F11Rhl. 5(2)(ch) wedi ei fewnosod (7.4.2003) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1004), rhlau. 1(1), 2(2)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5A.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i bob defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch—
(a)y ffioedd sy'n daladwy gan y defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef am ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth unrhyw un o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau canlynol —
(i)llety, gan gynnwys darparu bwyd;
(ii)nyrsio;
(iii)gofal personol;
(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau y mae'r ffioedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn daladwy ar eu cyfer; ac
(c)y dull ar gyfer talu'r ffioedd a'r person y mae'r ffioedd yn daladwy ganddo.
(2) Yn achos defnyddiwr gwasanaeth y mae ei lety yn dechrau ar ôl 7 Ebrill 2003, rhaid darparu'r datganiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ar neu cyn y dydd y daw'r person hwnnw yn ddefnyddiwr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o leiaf fis ymlaen llaw am—
(a)unrhyw gynnydd yn y ffioedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(a);
(b)unrhyw amrywiad yn y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)(b) ac (c).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) —
(a)os yw Awdurdod Iechyd neu Fwrdd Iechyd Lleol wedi hysbysu'r person cofrestredig ei fod wedi penderfynu gwneud taliad i'r person cofrestredig ar gyfer nyrsio a ddarparwyd (neu sydd i'w ddarparu) i ddefnyddiwr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o'r penderfyniad hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(b)os yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud taliad o'r fath, rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i'r defnyddiwr gwasanaeth ddatganiad ynghylch dyddiad a swm y taliad.
(5) Nid yw'r cyfeiriadau ym mharagraff (4) at daliad yn cynnwys taliad —
(a)os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau gyda'r cartref gofal ar gyfer darparu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth; ac
(b)os yw'r taliad yn ymwneud ag unrhyw gyfnod pan fo llety yn cael ei ddarparu o dan y trefniadau hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.]
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 5A wedi ei fewnosod (7.4.2003) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1004), rhlau. 1(1), 2(3)
6.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2), eu diwygio os yw'n briodol; a
(b)os diwygir yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth, darparu copi diwygiedig i bob defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, pryd bynnag y mae'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y mae i fod i ddod yn weithredol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff ac—
(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”)) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion—
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; ac
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn—
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
[F13(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.]
[F14(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.]
(5) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal—
(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi cael gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Diwygiadau Testunol
F13Rhl. 7(3)(c)(iii) wedi ei fewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(2)(a)
F14Rhl. 7(4) wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cartref gofal—
(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal; a
(b)os yw'r darparydd cofrestredig—
(i)yn gorff;
(ii)heb fod yn berson ffit i reoli cartref gofal; neu
(iii)heb fod yn gyfrifol am y cartref gofal yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref gofal, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
(a)o enw'r person a benodwyd felly; a
(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sy'n mynd i reoli'r cartref gofal rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref;
(b)o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth—
(i)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r cartref gofal; a
(ii)bod ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cartref gofal.
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person—
(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
[F15(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.]
[F16(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.]
Diwygiadau Testunol
F15Rhl. 9(2)(c)(iii) wedi ei fewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(3)(a)
F16Rhl. 9(3) wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg y cartref gofal neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig—
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd.
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)o ddyddiad y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd y'i collfarnwyd o'i herwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd—
(a)yn hybu iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth a gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer;
(b)yn gwneud darpariaeth briodol ar gyfer gofal y defnyddwyr gwasanaeth ac, os yw'n briodol, ar gyfer eu triniaeth, eu haddysg a'u goruchwyliaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal y maent i'w gael ac â'u hiechyd a'u lles.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cymryd i ystyriaeth er mwyn darparu gofal iddynt a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu hiechyd a'u lles.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg—
(a)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y defnyddwyr gwasanaeth;
(b)gan roi sylw dyledus i ryw, cyfeiriadedd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un), mewn perthynas â rhedeg y cartref gofal—
(a)cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda'i gilydd a chyda defnyddwyr gwasanaeth a chyda staff; a
(b)annog a chynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth—
(a)cael eu cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol o'u dewis; a
(b)cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod pob rhan o'r cartref y gall defnyddwyr gwasanaeth fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
(b)bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
(c)bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac
(ch)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.
(8) Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â darparu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal oni bai bod y camau canlynol wedi'u cwblhau, i'r graddau y bydd wedi bod yn ymarferol gwneud hynny—
(a)bod anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wedi'u hasesu gan berson â chymwysterau neu hyfforddiant addas;
(b)bod y person cofrestredig wedi cael gafael ar gopi o'r asesiad;
(c)bod ymgynghoriad priodol wedi'i gynnal ynghylch yr asesiad â'r defnyddiwr gwasanaeth neu â chynrychiolydd i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(ch)bod y person cofrestredig wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i'r defnyddiwr gwasanaeth fod y cartref gofal yn addas at ddibenion diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les, o roi sylw i'r asesiad.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth—
(a)yn cael ei gadw o dan sylw; a
(b)yn cael ei adolygu ar unrhyw adeg pan fydd angen gwneud hynny o roi sylw i unrhyw newid amgylchiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“y cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s plan”)), ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad, ynghylch sut y bwriedir diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol, sicrhau bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi'i baratoi gan yr awdurdod lleol hwnnw;
(b)trefnu bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth ar gael i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(c)cadw'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw;
(ch)adolygu'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth os yw'n briodol, a hynny ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad; ac
(d)hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw adolygiad o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth yn unol â datganiad o ddiben y cartref gofal.
(2) O roi sylw i faint y cartref gofal ac i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig—
(a)darparu, i'r graddau y mae angen hynny er mwyn rheoli'r cartref gofal—
(i)cyfleusterau ffôn priodol;
(ii)cyfleusterau priodol ar gyfer cyfathrebu drwy drosglwyddiadau ffacsimili;
(b)darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a gwneud trefniadau i alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn breifat;
(c)darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan y defnyddwyr gwasanaeth, ddodrefn, dillad gwely a chelfi digonol eraill, gan gynnwys llenni a gorchuddion i'r llawr, ac offer sy'n addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a sgriniau os oes eu hangen;
(ch)annog y defnyddwyr gwasanaeth, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, i ddod â'u dodrefn a'u celfi eu hunain i'r ystafelloedd y maent yn eu meddiannu;
(d)trefnu ar gyfer golchi llieiniau a dillad yn rheolaidd;
(dd)darparu, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth olchi, sychu a smwddio'u dillad eu hunain os dymunant ac, at y diben hwnnw, gwneud trefniadau i'w dillad gael eu didoli a'u cadw ar wahân;
(e)darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd;
(f)darparu cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth baratoi eu bwyd eu hunain a sicrhau bod cyfleusterau o'r fath yn ddiogel i gael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
(ff)darparu, mewn symiau digonol, fwyd addas, iachus a maethlon sy'n amrywiol ac wedi'i baratoi'n briodol ac ar gael ar unrhyw adeg y mae'n rhesymol i'r defnyddwyr gwasanaeth ofyn amdano;
(g)gwneud trefniadau addas ar gyfer cynnal safonau boddhaol o hylendid yn y cartref gofal ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny;
(ng)cadw'r cartref gofal yn rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol;
(h)darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y defnyddwyr gwasanaeth gael eu hadneuo i gael eu cadw'n ddiogel, a gwneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth gydnabod yn ysgrifenedig fod unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuwyd wedi'u dychwelyd iddynt;
(i)ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu diddordebau cymdeithasol, a gwneud trefniadau i'w galluogi i ymgymryd â gweithgareddau lleol, cymdeithasol a chymunedol ac ymweld â'u teuluoedd a'u cyfeillion, neu gadw cysylltiad neu gyfathrebu â hwy;
(j)ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch y rhaglen o weithgareddau a drefnir gan y cartref gofal neu ar ei ran, a darparu cyfleusterau hamdden, gan gynnwys gweithgareddau mewn perthynas â hamdden, ffitrwydd a hyfforddi, gan roi sylw i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol, fod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.
(4) Yn y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys diod.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cadw cofnod mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth sy'n cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion eraill a bennir yn Atodlen 3 ynghylch y defnyddiwr gwasanaeth;
(b)sicrhau bod y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnod yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnodion yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu eu bod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn cael eu cadw yn gyfoes.
(4) Rhaid parhau i gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) am o leiaf dair blynedd ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddynt, ac eithrio cofnod a gedwir o dan baragraff 13 o Atodlen 4 y mae angen ei gadw am flwyddyn yn unig ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddo.
(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) neu reol gyfreithiol arall ynghylch cofnodion neu wybodaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18.—(1) Gan roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y materion canlynol—
(a)bod personau cymwys a chanddynt gymwysterau addas, medrus a phrofiadol yn gweithio yn y cartref gofal bob amser, mewn niferoedd sy'n briodol ar gyfer iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth;
(b)na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref gofal yn atal y defnyddwyr gwasanaeth rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion;
(c)bod y personau a gyflogir gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal yn cael—
(i)hyfforddiant sy'n briodol i'r gwaith y maent i'w gyflawni; a
(ii)cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i waith o'r fath.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael eu goruchwylio'n briodol.
(3) Os yw'r cartref gofal—
(a)yn darparu gwasanaeth nyrsio i ddefnyddwyr gwasanaeth; a
(b)yn darparu, p'un a ydyw mewn cysylltiad â nyrsio neu beidio, feddyginiaethau neu driniaeth feddygol i ddarparwyr gwasanaeth;
rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod nyrs gofrestredig a chanddi gymwysterau addas yn gweithio yn y cartref gofal bob amser.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i roi gwybodaeth briodol am unrhyw God Ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o'r Ddeddf i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19.—(1) [F17Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A),] Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)beidio â chyflogi person i weithio yn y cartref gofal dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny;
(b)beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(c)beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf(9) yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio yn y cartref gofal;
(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni;
(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.
[F18(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi]
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y [F19cartref gofal] a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)oni bai bod paragraff (5) [F20neu 5A] yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf [F21paragraffau (1) a] (4)(b)—
(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 yn Atodlen 2 yn anghyflawn;
(b)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 yn Atodlen 2;
(ii)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno;
(iii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;
(c)bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch)bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
[F22(5A) Fel dewis arall i baragraff (5), pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref gofal er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a)bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b)bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c)bod y person wedi darparu—
(i)dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii)datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef;
(ch)ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.]
(6) Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan [F2331 Hydref 2004] mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.
Diwygiadau Testunol
F17Geiriau yn rhl. 19(1) wedi eu mewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(4)(a)
F18Rhl. 19(3) wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(4)(b)
F19Geiriau yn rhl. 19(4)(a) wedi eu hamnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(4)(c)
F20Geiriau yn rhl. 19(4)(b) wedi eu mewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(4)(ch)
F21Geiriau yn rhl. 19(5) wedi eu hamnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(4)(d)
F22Rhl. 19(5A) wedi ei fewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(4)(dd)
F23Geiriau yn rhl. 19(6) wedi eu hamnewid (31.3.2003) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/947), rhlau. 1(1), 2
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â thalu arian sy'n perthyn i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth i gyfrif banc oni bai—
(a)bod y cyfrif yn enw'r defnyddiwr gwasanaeth y mae'r arian yn perthyn iddo; a
(b)nad yw'r cyfrif yn cael ei ddefnyddio gan y person cofrestredig mewn cysylltiad â rhedeg neu reoli'r cartref gofal.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arian sy'n cael ei dalu i'r person cofrestredig mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy gan ddefnyddiwr gwasanaeth am lety neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y person cofrestredig yn y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y bo'n ymarferol nad yw'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn gweithredu fel asiant i ddefnyddiwr gwasanaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
21.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y cartref gofal i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
22.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn disgyblu staff a fydd, yn benodol—
(a)yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill llai difrifol nag atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er mwyn diogelwch neu les y defnyddwyr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal; a
(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir, ar ddefnyddiwr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal i berson priodol yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.
(2) At ddibenion paragraff (1), person priodol yw'r person cofrestredig, swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf neu swyddog o'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref ynddi, neu gwnstabl.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
23.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion” (“the complaints procedure”)) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwyn a wneir o dan y weithdrefn gwynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwyn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r weithdrefn gwynion i bob defnyddiwr gwasanaeth ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.
(6) Pan fydd copi o'r weithdrefn gwynion i'w chyflwyno yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu berson â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw hynny'n ymarferol, gyflwyno copi o'r weithdrefn gwynion mewn ffurf sy'n addas i'r person hwnnw yn ogystal â chopi ysgrifenedig.
(7) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion gynnwys—
(a)enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cartref gofal.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
24.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref gofal oni bai—
(a)bod y safle'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a
(b)bod lleoliad y safle'n briodol ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau—
(a)bod dyluniad a chynllun ffisegol y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal yn diwallu anghenion y defnyddwyr gwasanaeth;
(b)bod y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;
(c)bod yr offer a ddarperir yn y cartref gofal i'w ddefnyddio gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael ei gynnal-a'i-gadw mewn cyflwr gweithio da;
(ch)bod pob rhan o'r cartref gofal yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;
(d)bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth;
(dd)bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan y defnyddwyr gwasanaeth yn addas at eu hanghenion;
(e)bod lle digonol ar gyfer eistedd, hamddena a bwyta yn cael ei ddarparu ar wahân i lety preifat y defnyddiwr gwasanaeth;
(f)bod y lle cyffredin a ddarperir ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r defnyddwyr gwasanaeth;
(ff)bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gyfarfod ag ymwelwyr mewn llety cyffredin, ac mewn llety preifat sydd ar wahân i ystafelloedd preifat y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain;
(g)bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn y safle;
(ng)bod unrhyw gyfleusterau arllwys angenrheidiol yn cael eu darparu;
(h)bod darpariaeth addas yn cael ei gwneud ar gyfer storio at ddibenion y cartref gofal;
(i)bod cyfleusterau storio addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio;
(j)bod newidiadau addas yn cael eu gwneud, a bod unrhyw gymorth, offer a chyfleusterau, gan gynnwys lifftiau, y mae eu hangen yn cael eu darparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n hen, yn eiddil neu'n anabl yn gorfforol;
(l)bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;
(ll)bod awyru, gwresogi a goleuo sy'n addas i'r defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r cartref gofal sy'n cael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
(m)bod y safle'n ddiogel rhag mynediad na chafodd ei awdurdodi.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer y staff—
(a)cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys—
(i)cyfleusterau ar gyfer newid;
(ii)cyfleusterau storio;
(b)llety ar gyfer cysgu, os oes ar y staff angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref gofal.
(4) [F24 Yn ddarostyngedig i baragraff (4A) rhaid i'r person cofrestredig ]—
(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas;
(b)darparu dulliau dianc digonol;
(c)gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol—
(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;
(ii)rhoi rhybuddion tân;
(iii)gwacâd yr holl bersonau sydd yn y cartref gofal a lleoli'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel, os digwydd tân;
(iv)cynnal a chadw'r holl offer tân; a
(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
(d)sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y defnyddwyr gwasanaeth, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer arbed bywyd;
(dd)ymgynghori â'r [F25awdurdod tân ac achub] ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).
[F26(4A) Pan fydd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i'r cartref gofal —
(a)nid yw paragraff (4) yn gymwys; a
(b)rhaid i'r person cofrestredig sicrhau cydymffurfiad â gofynion y Gorchymyn hwnnw ac ag unrhyw reoliadau a wnaed oddi tano, ag eithrio erthygl 23 (dyletswyddau cyflogeion), mewn perthynas â'r cartref gofal.]
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ymgynghori yn briodol â'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd amgylchedd yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi.
Diwygiadau Testunol
F24Geiriau yn rhl. 24(4) wedi eu hamnewid (1.10.2006) gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 (O.S. 2005/1541), ergl. 1(3), Atod. 3 para. 11(b) (ynghyd ag erglau. 49, 51) (fel y'u diwygiwyd gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Subordinate Provisions Order 2006 (O.S. 2006/484), erglau. 1(1), 2)
F25Geiriau yn rhl. 24(4)(f) wedi eu hamnewid (25.10.2005) gan Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2929), erglau. 1(1), 65(3)
F26Rhl. 24(4A) wedi ei fewnosod (1.10.2006) gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 (O.S. 2005/1541), ergl. 1(3), Atod. 3 para. 11(d) (ynghyd ag erglau. 49, 51) (fel y'i diwygiwyd gan The Regulatory Reform (Fire Safety) Subordinate Provisions Order 2006 (O.S. 2006/484), erglau. 1(1), 2)
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
25.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer—
(a)adolygu ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartref gofal, gan gynnwys ansawdd y gwasanaeth nyrsio os darperir gwasanaeth o'r fath yn y cartref gofal, ar adegau priodol; a
(b)ei wella.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
26.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref gofal mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y cartref gofal yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt, unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref gofal, gan gynnwys—
(a)cyfrifon blynyddol y cartref gofal, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;
(b)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig;
(c)gwybodaeth am ariannu'r cartref gofal a'i adnoddau ariannol;
(ch)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig;
(d)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r cartref ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cadw mewn perthynas â'r cartref gofal a'u cadw'n gyfoes;
(b)sicrhau bod y cyfrifon yn rhoi manylion costau rhedeg y cartref gofal, gan gynnwys rhent, taliadau o dan forgais a gwariant ar fwyd, gwres a chyflogau misol ac wythnosol y staff; ac
(c)rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
(4) Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
27.—(1) Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw'n rheoli'r cartref gofal, rhaid iddo ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref gofal yn unol â'r rheoliad hwn—
(a)yr unigolyn cyfrifol;
(b)un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu
(c)cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rhedeg y cartref gofal sy'n addas i ymweld â'r cartref.
(3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith bob tri mis a gallant fod yn ddi-rybudd.
(4) Rhaid i'r person sy'n ymweld—
(a)cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cynrychiolwyr ac unrhyw un o'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal y mae'n ymddangos iddo ei bod yn angenrheidiol cyfweld â hwy er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y cartref gofal;
(b)archwilio safle'r cartref gofal, ei gofnod o ddigwyddiadau a'i gofnodion o unrhyw gwynion; ac
(c)paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref gofal yn cael ei redeg.
(5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c)—
(a)i'r rheolwr cofrestredig a fydd yn cadw'r copi yn y cartref gofal; a
(b)yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
28. Bydd darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys pan fydd unrhyw blentyn yn cael ei letya yn y cartref gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
29. Yn rheoliad 2, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai—
(a)y geiriau “, neu unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd y diffiniad o “defnyddiwr gwasanaeth”;
(b)y diffiniadau canlynol wedi'u hychwanegu yn y mannau priodol—
“mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 12 (Cynllun lleoliad y plentyn) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002;
mae i “awdurdod lleoli” (“placing authority”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(10).”
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
30. Yn rheoliad 4, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
“ac
(c)yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 5.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
31.—(1) Yn rheoliad 7, bydd paragraff (3) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
“ac
(ch)bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.”.
(2) Yn rheoliad 9, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
“ac
(ch)bod ei brofiad a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant a naill ai—
(i)bod ei gymwysterau'n addas at ddibenion gweithio gyda phlant; neu
(ii)bod person arall wedi'i benodi er mwyn ei helpu wrth reoli'r cartref gofal, a bod cymwysterau'r person a benodwyd felly yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.”.
(3) Yn rheoliad 10, bydd paragraff (1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth,” wedi'u disodli gan y geiriau “nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth a'r angen i ddiogelu a hybu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
32.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod y ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer gofal, triniaeth a goruchwyliaeth plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal; a
(b)y cyfleusterau a'r gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer,
yn cael eu gwneud ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaeth eraill i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn atal y person cofrestredig rhag gwneud darpariaeth ar y cyd ar gyfer plant a defnyddwyr gwasanaeth eraill nad yw eu hoedran yn arwyddocaol o wahanol i oedran y plant hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
33.—(1) Bydd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer diogelu lles plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal” wedi'u hychwanegu ar ddiwedd is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
(2) Bydd darpariaethau rheoliadau 12, 15 i 18, 23 a 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (cynlluniau lleoliadau plant; cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu; trefniadau ar gyfer amddiffyn plant; rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal; addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden; peryglon a diogelwch; digwyddiadau hysbysadwy), ac Atodlen 5 iddynt, yn gymwys i'r person cofrestredig fel pe bai—
(a)unrhyw gyfeiriad at y person cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig fel y mae wedi'i ddiffinio yn y Rheoliadau hyn;
(b)unrhyw gyfeiriad at y cartref plant neu at y cartref yn gyfeiriadau at y cartref gofal.
(3) Os bydd y person cofrestredig yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 29 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol, sef—
(a)salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol y mae plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal wedi dioddef;
(b)brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal neu yn ymwneud â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal,
ni fydd yn ofynnol iddo roi hysbysiad o'r digwyddiad hwnnw ar wahân i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 38 (hysbysu marwolaeth, etc.) o'r Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
34. Yn rheoliad 19, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw—
“ac
(d)bod ei gymwysterau, ei brofiad, ei gymhwysedd a'i fedrau yn addas at ddibenion gweithio gyda phlant.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
35. Yn rheoliad 22, bydd paragraff (2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “neu, mewn perthynas â phlentyn a letyir yn y cartref, swyddog o'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant.” wedi'i ychwanegu ar ddiwedd y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
36. Bydd rheoliad 25 yn effeithiol fel pe bai—
(a)y system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) o reoliad 25 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r materion a nodir yn Atodlen 6 gael eu monitro a'u hadolygu ar adegau priodol;
(b)y geiriau “a'u cynrychiolwyr” wedi'u disodli gan y geiriau “, eu cynrychiolwyr, rhieni'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ac, mewn perthynas â'r plant hynny, yr awdurdodau lleoli” ym mharagraff (3) o reoliad 25;
(c)y paragraff canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd rheoliad 25—
“(4) Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu neu'n rhoi terfynau ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol gwahardd ymgynghoriad o'r fath, neu gyfyngu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.”
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
37. Bydd rheoliad 44 yn effeithiol fel pe bai'r paragraff canlynol yn disodli paragraff (1)—
“(1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—
(a)rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41, i'r graddau y mae'r rheoliadau hynny'n effeithiol yn ddarostyngedig i Ran VI o'r Rheoliadau hyn;
(b)rheoliadau 32 a 35; ac
(c)y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 33.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
38.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd—
(a)marwolaeth unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth, gan nodi amgylchiadau'r farwolaeth;
(b)brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am bersonau yn y cartref gofal yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly;
(c)unrhyw anaf difrifol i ddefnyddiwr gwasanaeth;
(ch)salwch difrifol defnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal nad oes nyrsio'n cael ei ddarparu ynddo;
(d)unrhyw ddigwyddiad yn y cartref gofal sy'n effeithio ar les neu ddiogelwch unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth;
(dd)unrhyw ladrad, bwrgleriaeth neu ddamwain ddifrifol yn y cartref gofal;
(e)unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref gofal.
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
39.—(1) Os yw—
(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref gofal; neu
(b)rheolwr cofrestredig,
i fod yn absennol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb—
(a)pa mor hir y bydd neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;
(b)y rheswm drosto;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y cartref gofal;
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y cartref gofal yn ystod yr absenoldeb; a
(d)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud i benodi person arall i reoli'r [F27cartref gofal] yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig y bydd y penodiad yn cael ei wneud.
(3) Os yw'r absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(4) Os bydd—
(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref gofal; neu
(b)rheolwr cofrestredig;
wedi bod yn absenol o'r cartref gofal am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r perwyl hwnnw, gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod wedi iddo ddychwelyd.
Diwygiadau Testunol
F27Geiriau yn rhl. 39(2)(d) wedi eu hamnewid (7.4.2003) gan Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/1004), rhlau. 1(1), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 39 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
40. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny—
(a)os yw person heblaw'r person cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhedeg neu reoli'r cartref gofal;
(b)os yw person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal, neu'n bwriadu rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref gofal;
(c)os unigolyn yw'r person cofrestredig, ei fod yn newid ei enw neu ei fod yn bwriadu newid ei enw;
(ch)os corff yw'r darparydd cofrestredig—
(i)bod enw neu gyfeiriad y corff yn newid neu y bwriedir ei newid;
(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd neu y bwridedir i hynny ddigwydd;
(d)os oes unrhyw newid yn yr unigolyn cyfrifol neu y bwriedir unrhyw newid o'r fath;
(dd)os yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar ei gyfer, neu fod cyfamod neu drefniant yn cael, neu'n debygol o gael ei wneud, gyda'i gredydwyr;
(e)os yw darparydd cofrestredig yn gwmni, bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael, neu'n debygol o gael ei benodi;
(f)os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei fusnes yn cynnwys rhedeg cartref plant, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu
(ff)bod safle'r cartref yn cael ei newid neu ei estyn yn arwyddocaol, neu fod bwriad i'w newid neu i'w estyn, neu fod safle ychwanegol yn cael ei sicrhau, neu fod bwriad i'w sicrhau.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Rhl. 40 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
41.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â therfynu'r trefniadau ar gyfer llety defnyddiwr gwasanaeth oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad rhesymol o'i fwriad i wneud hynny—
(a)i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(b)i'r person y mae'n ymddangos mai ef yw perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth; ac
(c)os yw awdurdod lleol wedi gwneud y trefniadau ar gyfer darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, i'r awdurdod hwnnw.
(2) Os nad yw'n ymarferol i'r person cofrestredig gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1)—
(a)rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a
(b)rhaid iddo ddarparu datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch yr amgylchiadau a'i gwnaeth yn anymarferol iddo gydymffurfio â'r gofyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Rhl. 41 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
42.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—
(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob cartref gofal y mae'r penodiad yn berthnasol iddo ar unwaith ei fod wedi'i benodi, gan nodi'r rhesymau dros hynny;
(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref gofal mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac
(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref gofal y mae ei benodiad yn berthnasol iddynt yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
(a)fel derbynnydd neu reolwr eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal;
(b)fel datodwr neu ddatodwr dros dro ar gwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref gofal; neu
(c)fel derbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref gofal; neu
(ch)fel ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
43.—(1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.
(2) Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref gofal, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—
(a)yn ddi-oed o'r farwolaeth yn ysgrifenedig; a
(b)o fewn 28 diwrnod, o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.
(3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref gofal heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef—
(a)am gyfnod heb fod yn hirach na 28 diwrnod; a
(b)am unrhyw gyfnod pellach y gellir penderfynu arno yn unol â pharagraff (4).
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion paragraff (3)(b), a rhaid iddo hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref gofal yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Rhl. 43 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
44.—(1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 27 a 38 i 41 yn dramgwydd.
(2) Heb ragfarnu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 29 o'r Ddeddf i ddwyn achos yn erbyn personau a fu unwaith, ond nad ydynt mwyach, yn bersonau cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, gall y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 17 a ddigwyddodd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar ôl i'r person beidio â bod yn berson cofrestredig.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Rhl. 44 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
45. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chartref gofal, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Rhl. 45 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
46.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 47, mae darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal—
(a)os ef yw'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal, a'i fod yn ei reoli;
(b)os nad oes person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rheoli'r cartref gofal;
(c)os yw'r cartref gofal—
(i)yn gartref i'r darparydd cofrestredig; neu
(ii)os oes gan y darparydd cofrestredig fwy nag un cartref, yn gartref iddo lle mae'n preswylio fel arfer, neu'n ffurfio rhan ohono;
(ch)(i)os nad oes mwy na dau ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal; neu
(ii)os nad oes mwy na thri defnyddiwr gwasanaeth yn cael eu lletya yn y cartref gofal os yw pob defnyddiwr gwasanaeth o'r fath wedi cael eu lletya dan gytundeb a ddisgrifir yn is-baragraff (d) ar unrhyw adeg cyn 1 Ebrill 2002;
(d)os oes cytundeb lleoliad wedi'i wneud mewn perthynas â phob un o'r defnyddwyr gwasanaeth;
(dd)os yw pob defnyddiwr gwasanaeth dros 18 oed.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cytundeb lleoliad” yw cytundeb sydd—
(a)wedi'i wneud rhwng—
(i)y darparydd cofrestredig;
(ii)y defnyddiwr gwasanaeth; a
(iii)yr awdurdod lleol neu gorff arall sy'n rheoli cynllun (“cynllun lleoliadau oedolion” (“adult placement scheme”)) y mae wedi trefnu neu y mae'n bwriadu trefnu i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei letya mewn cartref gofal odano;
(b)yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion canlynol—
(i)nodau'r trefniadau y mae'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal odanynt;
(ii)yr ystafell y mae'r defnyddiwr gwasanaeth i'w meddiannu;
(iii)y gwasanaethau sydd i'w darparu ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth;
(iv)y ffioedd sydd i'w codi;
(v)cymwysterau a phrofiad y darparydd cofrestredig;
(vi)y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety a'r gwasanaethau sydd i'w darparu;
(vii)y gwasanaethau a'r cymorth sydd i'w darparu o dan y cynllun lleoliadau oedolion y mae'r llety yn cael ei drefnu neu wedi cael ei drefnu odano.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Rhl. 46 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
47.—(1) Bydd darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys os yw'r darparydd cofrestredig yn ofalwr lleoliadau oedolion mewn perthynas â chartref gofal.
(2) Ni fydd rheoliadau 4, 8, 18, 19, 21, 22, 25, 27 i 37 a 42 (datganiad o ddiben; penodi rheolwr; staffio; ffitrwydd y gweithwyr; barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofal; gweithdrefn disgyblu'r staff; adolygu ansawdd y cartref gofal; ymweliadau gan y darparydd cofrestredig; plant; penodi datodwyr) nac Atodlenni 1, 5 a 6 (yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben; gwybodaeth ychwanegol sydd i'w cynnwys yn y datganiad o ddiben pan fydd plant yn cael eu lletya; materion sydd i'w monitro mewn cartref gofal y mae plant yn cael eu lletya ynddo) yn gymwys.
(3) Bydd rheoliad 5 (arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (a) o baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor.
(4) Bydd rheoliad 6 (adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai—
(a)y geiriau “ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)” a “ddatganiad o ddiben” wedi'u hepgor yn is-baragraff (a) o baragraff (1) y rheoliad hwnnw;
(b)paragraff (2) wedi'i hepgor.
(5) Bydd rheoliad 16 (cyfleusterau a gwasanaethau) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny” wedi'u hepgor yn is-baragraff (g) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw.
(6) Bydd rheoliad 24 (ffitrwydd safleoedd) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau yn is-baragraff (a) o baragraff (1) yn cael eu disodli â'r geiriau “bod y safle'n addas ar gyfer ei ddiben” ac fel pe bai is-baragraffau (a), (dd), (e), (f), (g), (ng) a (j) o baragraff (2) a pharagraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.
(7) Bydd rheoliad 26 (y sefyllfa ariannol) yn effeithiol fel pe bai—
(a)paragraff (1) o'r rheoliad hwnnw wedi'i hepgor;
(b)is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor;
(c)paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwnnw wedi'u hepgor.
(8) Bydd Atodlen 3 (y cofnodion sydd i'w cadw mewn cartref gofal mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth) yn effeithiol fel pe bai is-baragraff (ff) o baragraff 3 o'r Atodlen honno wedi'i hepgor.
(9) Bydd Atodlen 4 yn effeithiol fel pe bai paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 a 12 i 16 o'r Atodlen honno wedi'u hepgor.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Rhl. 47 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
48. Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chartrefi gofal sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Rhl. 48 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
49. Mae'r rheoliadau canlynol yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)Rheoliadau Cartrefi Gofal Preswyl 1984(11);
(b)Rheoliadau Cartrefi Nyrsio a Chartrefi Nyrsio'r Meddwl 1984(12).
Gwybodaeth Cychwyn
I49Rhl. 49 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Chwefror 2002
Rheoliad 4(1)(c)
1. Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Nifer, cymwysterau a phrofiad perthnasol y staff sy'n gweithio yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Strwythur trefniadol y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Ystod oedran a rhyw y defnyddwyr gwasanaeth y bwriedir darparu llety ar eu cyfer.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Ystod yr anghenion y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. A gaiff gwasanaeth nyrsio ei ddarparu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Unrhyw feini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau (os oes rhai) y cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Y trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol, hobïau a diddordebau hamdden.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch gweithredu'r cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Y trefniadau a wneir i'r defnyddwyr gwasanaeth fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau, eu cyfeillion a'u cynrychiolwyr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Nifer a maint yr ystafelloedd yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Y trefniadau a wneir i ryddhau ymrwymiad person cofrestredig o dan reoliad 12 (4)(b).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Manylion—LL+C
(a)polisi'r cartref gofal ar reoli ymddygiad a defnyddio dulliau o atal;
(b)y dulliau rheoli a all gael eu defnyddio yn y cartref (os o gwbl) a'r amgylchiadau y defnyddir hwy ynddynt a chan bwy y defnyddir hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 7, 9, 19
1. Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Naill ai—LL+C
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(14)), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(15), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,
gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, [F28i'r graddau a ganiatier o dan Ddeddf yr Heddlu 1997] [F29ac yn ddarostyngedig i baragraff 8], y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(16).
Diwygiadau Testunol
F28Geiriau yn Atod. 2 para. 2 wedi eu hamnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(5)(a)
F29Geiriau yn Atod. 2 para. 2 wedi eu mewnosod (16.9.2004) gan Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2414), rhlau. 1(b), 2(2)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
[F307. Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddolLL+C
(a)y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b)y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.]
Diwygiadau Testunol
F30Atod. 2 para. 7 wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(5)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
[F318. Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.]LL+C
Diwygiadau Testunol
F31Atod. 2 para. 8 wedi ei fewnosod (16.9.2004) gan Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2414), rhlau. 1(b), 2(2)(b)
Rheoliad 17(1)(a)
1. Y dogfennau canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—LL+C
(a)yr asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 14(1);
(b)y cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Ffotograff diweddar o'r defnyddiwr gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Cofnod o'r materion canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—LL+C
(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol [F32neu statws partneriaeth sifil] pob defnyddiwr gwasanaeth;
(b)enw, cyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth neu enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran;
(c)enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y defnyddiwr gwasanaeth ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw swyddog i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sydd o dan ddyletswydd i oruchwylio lles y defnyddiwr gwasanaeth;
(ch)y dyddiad y daeth y defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref gofal;
(d)y dyddiad yr ymadawodd y defnyddiwr gwasanaeth â'r cartref gofal a'r lle yr aeth iddo;
(dd)os bu farw'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth;
(e)enw a chyfeiriad unrhyw awdurdod, mudiad neu gorff arall a drefnodd i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei dderbyn i'r cartref gofal;
(f)cofnod o'r holl feddyginiaethau a gedwir yn y cartref gofal ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, a dyddiad eu rhoi i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(ff)cofnod o unrhyw ddamwain sy'n effeithio ar y defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal ac o unrhyw ddigwyddiad arall yn y cartref gofal sy'n andwyol i iechyd neu les y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys natur, dyddiad ac amser y ddamwain neu'r digwyddiad, a oedd angen triniaeth feddygol ac enw'r personau a oedd â gofal y cartref gofal ac yn goruchwylio'r defnyddiwr gwasanaeth yn eu tro;
(g)cofnod o unrhyw wasanaeth nyrsio a ddarparwyd ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys cofnod o'i anhwylder ac unrhyw driniaeth neu ymyriad llawfeddygol;
(ng)manylion unrhyw anghenion arbennig o ran cyfathrebu sydd gan y defnyddiwr gwasanaeth a'r dulliau cyfathrebu a all fod yn briodol i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(h)manylion unrhyw gynllun sy'n ymwneud â'r defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â meddyginiaeth, nyrsio, gofal iechyd arbenigol neu faethiad;
(i)cofnod o fynychder briwiau pwysedd ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(j)cofnod o godymau ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;
(l)cofnod o unrhyw ataliadau corfforol a ddefnyddir ar y defnyddiwr gwasanaeth;
(ll)cofnod o unrhyw gyfyngiadau y cytunwyd arnynt gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ynghylch rhyddid y defnyddiwr gwasanaeth i ddewis, rhyddid i symud a phŵ er i wneud penderfyniadau.
Diwygiadau Testunol
F32Geiriau yn Atod. 3 para. 3(a) wedi eu mewnosod (5.12.2005) gan Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3302), ergl. 1(2), Atod. para. 17(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Copïau o ohebiaeth y cartref gofal sy'n ymwneud â phob defnyddiwr gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 17(2)
1. Copi o'r datganiad o ddiben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Cofnod o'r holl gyfrifon a gedwir yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Copi o bob adroddiad arolygu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 27(4)(c).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Cofnod o'r holl bersonau a gyflogir yn y cartref gofal, a fydd yn cynnwys y materion canlynol mewn perthynas â phob unigolyn a ddaw o dan reoliad 19(1)—LL+C
(a)ei enw llawn, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gymwysterau a'i brofiad;
(b)copi o'i dystysgrif eni a'i basport (os oes un);
(c)copi o bob tystlythyr a gafwyd mewn perthynas ag ef;
(ch)y dyddiadau y mae'n dechrau cael ei gyflogi ac yn gorffen cael ei gyflogi;
(d)y swydd sydd ganddo yn y cartref gofal, y gwaith y mae'n ei gyflawni a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos;
(dd)gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion camau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Copi o roster dyletswyddau'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal, a chofnod i ddweud a gafodd y roster ei weithio mewn gwirionedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnod o'r ffioedd a godir gan y cartref gofal ar y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau ychwanegol nad yw'r ffioedd hynny'n talu amdanynt, a'r symiau a dalwyd gan pob defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Cofnod o'r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth i gael eu cadw'n ddiogel neu a dderbyniwyd ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo—LL+C
(a)datgan dyddiad adneuo neu dderbyn yr arian neu'r pethau gwerthfawr, dyddiad dychwelyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr i ddefnyddiwr gwasanaeth neu eu defnyddio, ar gais y defnyddiwr gwasanaeth, ar ei ran ac, os yw'n gymwys, at ba ddiben y cafodd yr arian neu'r pethau gwerthfawr eu defnyddio; a
(b)cynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu'r pethau gwerthfawr wedi'u dychwelyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Cofnod o bob dodrefnyn y daeth y defnyddiwr gwasanaeth ag ef i'r ystafell y mae'n lletya ynddi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Cofnod o bob cwyn a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gynrychiolwyr neu berthnasau i'r defnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal ynghylch gweithredu'r cartref gofal, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Cofnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n digwydd yn y cartref gofal—LL+C
(a)unrhyw ddamwain;
(b)unrhyw ddigwyddiad sy'n andwyol i iechyd neu les defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys brigiad clefyd heintus yn y cartref gofal;
(c)unrhyw anaf neu salwch;
(ch)unrhyw dân;
(d)ac eithrio pan wneir cofnod o dan baragraff 14, unrhyw achlysur pan weithredir y larwm tân;
(dd)unrhyw ladrad neu fwrgleriaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Cofnodion o'r bwyd a ddarparwyd ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, yn ddigon manwl i alluogi unrhyw berson sy'n archwilio'r cofnod i ganfod a yw'r ddeiet yn foddhaol, mewn perthynas â maethiad ac fel arall, ac unrhyw ddeiet arbennig sydd wedi'i pharatoi ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth unigol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf offer tân (gan gynnwys offer larymau tân) a gynhelir yn y cartref gofal ac unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, neu os rhoddir larwm tân.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff defnyddiwr gwasanaeth ar goll.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref gofal, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 4 a 30
1. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Y manylion canlynol—LL+C
(a)eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;
(b)a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;
(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I110Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I111Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I112Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I113Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I114Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I115Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I116Atod. 5 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 25 a 36(a)
1. Cydymffurfedd ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn a baratowyd gan yr awdurdod lleoli a chynllun lleoliad pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I117Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a drosglwyddyd er mwyn eu cadw'n ddiogel.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I118Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Bwydlenni dyddiol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I119Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan y plant sy'n cael eu lletya yno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I120Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Unrhyw salwch y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn ei gael.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I121Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a'u canlyniadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I122Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I123Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I124Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Ymwelwyr â'r cartref gofal ac â'r plant yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I125Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5 i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I126Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gofal gan blentyn sy'n cael ei letya yno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I127Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Defnyddio unrhyw fesurau disgyblu mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I128Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Defnyddio ataliadau corfforol mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I129Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â Chymru, a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002.
Mae'r trefniadau newydd hyn yn disodli'r system reoleiddio y darparwyd ar ei chyfer mewn perthynas â chartrefi preswyl a chartrefi nyrsio o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984.
Mae rheoliad 3 yn eithrio'r canlynol o'r diffiniad o gartref gofal o dan adran 3 o'r Ddeddf: sefydliadau gofal teuluol (sy'n cynnwys gofal parhaus dros blant maeth ar ôl 18 oed); sefydliadau sy'n darparu llety am lai nag 28 diwrnod y flwyddyn; cyfleusterau GIG penodol sy'n darparu gwasanaeth nyrsio; a sefydliadau addysg penodol.
O dan reoliadau 4 a 5, rhaid bod gan bob cartref gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, a darparu arweiniad i'r cartref i bob defnyddiwr gwasanaeth.
Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â rhai materion penodedig. Os corff sy'n rhedeg y cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 10 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.
Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg cartrefi gofal, yn enwedig ynglŷn ag iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth, ac ynglŷn â'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am gadw cofnodion, staffio'r cartrefi, ffitrwydd y gweithwyr ac am gwynion.
Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch rhagofalon tân. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi gofal. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig sefydlu system ar gyfer adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 26 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol y cartref. Mae rheoliad 27 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir. Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth arbennig sy'n gymwys os oes plant yn cael eu lletya yn y cartref.
Mae Rhan VII yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 44 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Mae rheoliadau 45 a 46 yn addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion. Mae rheoliad 48 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y Rheoliadau.
2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, sy'n cael ei ddiffinio yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad Cenedlaethol ac, mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler adran 121(1) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf ynghylch y gofyniad i ymgynghori.
Gweler adran 5 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).
Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu wedi bod yn sâl; sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau neu wedi bod yn dibynnol arnynt.
Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.
Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.
Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.