xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas â Chymru, a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002.
Mae'r trefniadau newydd hyn yn disodli'r system reoleiddio y darparwyd ar ei chyfer mewn perthynas â chartrefi preswyl a chartrefi nyrsio o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984.
Mae rheoliad 3 yn eithrio'r canlynol o'r diffiniad o gartref gofal o dan adran 3 o'r Ddeddf: sefydliadau gofal teuluol (sy'n cynnwys gofal parhaus dros blant maeth ar ôl 18 oed); sefydliadau sy'n darparu llety am lai nag 28 diwrnod y flwyddyn; cyfleusterau GIG penodol sy'n darparu gwasanaeth nyrsio; a sefydliadau addysg penodol.
O dan reoliadau 4 a 5, rhaid bod gan bob cartref gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, a darparu arweiniad i'r cartref i bob defnyddiwr gwasanaeth.
Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â ffitrwydd y personau sy'n rhedeg ac yn rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â rhai materion penodedig. Os corff sy'n rhedeg y cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas ag ef (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 10 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.
Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch rhedeg cartrefi gofal, yn enwedig ynglŷn ag iechyd a lles defnyddwyr gwasanaeth, ac ynglŷn â'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am gadw cofnodion, staffio'r cartrefi, ffitrwydd y gweithwyr ac am gwynion.
Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch rhagofalon tân. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi gofal. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig sefydlu system ar gyfer adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 26 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol y cartref. Mae rheoliad 27 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir. Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth arbennig sy'n gymwys os oes plant yn cael eu lletya yn y cartref.
Mae Rhan VII yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 44 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Mae rheoliadau 45 a 46 yn addasu'r rheoliadau mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion. Mae rheoliad 48 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y Rheoliadau.